'Trethi uwch i roi codiad cyflog gweithwyr iechyd' medd Plaid

  • Cyhoeddwyd
Ceiniogau a phunnoeddFfynhonnell y llun, PA

Dylai pobl yng Nghymru dalu mwy mewn treth incwm er mwyn helpu'r wlad drwy "argyfwng digynsail", meddai Plaid Cymru.

Mae'r blaid wedi galw am gynnydd o 1c ar y bunt i bobl sy'n ennill dros £12,500, a chynnydd o 2c ar gyfer cyflogau dros £50,000 - gyda'r rheiny sy'n ennill dros £150,000 yn gweld cynnydd o 3c.

Maen nhw'n dweud y byddai'r arian ychwanegol yna'n gallu talu am godiad cyflog o 8% y flwyddyn nesaf i staff y gwasanaeth iechyd, a thalu gweithwyr gofal cymdeithasol £12 yr awr.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai "nad nawr yw'r amser iawn i godi cyfradd sylfaenol treth incwm gan y byddai'n brifo llawer o bobl sydd eisoes yn cael trafferth gyda chwyddiant cynyddol a biliau ynni uwch".

Ychwanegodd y Ceidwadwyr Cymreig y dylai Plaid Cymru "roi'r gorau i gefnogi" Llywodraeth Lafur Cymru yn y Senedd os oedden nhw'n anghytuno ar y mater.

Beth yw'r cyfraddau trethi?

Mae Plaid Cymru wedi galw am y cynnydd mewn treth incwm, a mesurau eraill i helpu'r argyfwng costau byw, i gael eu cynnwys yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24.

Ond os nad yw'r cynigion yn cael eu derbyn, fydd Plaid dal ddim yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb ddrafft yn y Senedd ddydd Mawrth.

Ym mis Rhagfyr fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer eu cyllideb o £20bn, fydd yn gweld mwy o arian i'r GIG ond dim cynnydd mewn trethi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod â rhai grymoedd dros dreth incwm ers 2019, ond dydyn nhw erioed wedi eu defnyddio.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Adam Price wedi awgrymu yn y gorffennol y byddai o blaid codi trethi uwch ar y rheiny sy'n ennill cyflogau mwy

Gall gweinidogion addasu'r gyfradd sy'n cael ei dalu o hyd at 10c yn y £1, ond does ganddyn nhw ddim y gallu i newid y trothwyau ble mae pobl yn gorfod talu'r trethi hynny.

Mae Plaid Cymru eisiau gweld cynnydd o 1c yn y gyfradd sylfaenol, 2c yn y gyfradd uwch, a 3c yn y gyfradd ychwanegol.

Byddai hynny'n golygu £312m yn ychwanegol i goffrau Llywodraeth Cymru, yn ôl amcangyfrifon swyddogol.

Herio Llafur i gefnogi

Dywedodd Plaid Cymru y dylai hynny gael ei wario ar becyn o fesurau gwerth £317m, gan gynnwys:

  • Codiad cyflog o 8% i weithwyr y GIG y flwyddyn nesaf;

  • Cynyddu isafswm cyflog gweithwyr gofal cymdeithasol i £12 yr awr;

  • Cynllun achub morgeisi;

  • 'Cronfa Undod Cymreig' allai gael ei ddefnyddio i ymestyn prydau ysgol am ddim i ddisgyblion uwchradd ar gyfer teuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol, cynyddu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg i fyfyrwyr, neu gefnogi pobl sy'n cael trafferth talu eu morgeisi.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price fod Llywodraeth Cymru'n cael eu tangyllido gan San Steffan, ond fod ganddyn nhw hefyd y grym i weithredu.

"Mae ein gwasanaeth iechyd mewn argyfwng, mae gweithwyr ar streic, ac mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwrthod gweithredu," meddai.

"Mae 13 mlynedd o doriadau'r Torïaid a 25 mlynedd o gamreoli gan y Blaid Lafur wedi gadael ein gweithwyr iechyd a gofal heb obaith, wedi blino'n lân ac yn cael trafferth cadw dau ben llinyn ynghyd."

Ychwanegodd: "Ni all Llafur ddweud yn onest eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi gweithwyr iechyd a gofal pan eu bod hyd yma wedi gwrthod defnyddio'r pwerau treth sydd ar gael iddynt.

"Os yw Llafur yn honni mai nhw yw plaid y gweithwyr, fe fyddan nhw'n barod felly i gefnogi ein gwelliant i'r Gyllideb.

"Ac os ydyn nhw'n wirioneddol credu mewn system drethiant deg, fe fyddan nhw'n ymuno â ni i fynnu'r pwerau i osod ein bandiau treth ein hunain, yn union fel yr Alban, yn hytrach na chael ein rheoli gan San Steffan."

Yr Hydref diwethaf, fe wnaeth mwyafrif Aelodau'r Senedd Plaid Cymru bleidleisio dros gynnydd o 4c yng nghyfradd uwch y dreth incwm, a chynnydd o 5c yn y gyfradd ychwanegol - ond chafodd y cynigion hynny ddim eu cyhoeddi'n ffurfiol.

Ceidwadwyr yn herio cytundeb Llafur-Plaid

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nyrsys a staff eraill o fewn y gwasanaeth iechyd, fel gweithwyr ambiwlans, wedi bod yn streicio dros dâl ac amodau

Wrth ymateb i awgrym Plaid, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig y dylen nhw "roi'r gorau i gefnogi" Llafur yn y Senedd os oedd ganddyn nhw "ddiffyg ffydd" yng nghyllideb Llywodraeth Cymru.

"Yn lle hynny maen nhw'n ceisio cael y pethau da o lywodraeth heb gymryd cyfrifoldeb," meddai.

"Canlyniad hyn yw 'economeg fwdw" gan Plaid, yn ceisio gwario'r un bunt ddwywaith.

"Dan Lywodraeth Geidwadol y DU, mae Cymru'n cael £1.20 am bob £1 sy'n cael ei wario yn Lloegr. Mae'r arian yna ond mae camreolaeth Llafur a Plaid yn gostus i Gymru a'r gwasanaeth iechyd."

'Dim newid'

Ychwanegodd y llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddai cynyddu'r cyfraddau uwch ac ychwanegol o dreth incwm yn y ffordd y mae Plaid Cymru yn cynnig ond yn codi £75m - byddai'r rhan fwyaf o'r refeniw a godir o dan y cynigion hyn yn dod oddi wrth drethdalwyr cyfradd sylfaenol yng Nghymru.

"Yn unol â'n hymrwymiad i beidio â chymryd mwy yng nghyfraddau treth incwm Cymru gan bobl am o leiaf cyhyd ag y bydd effaith economaidd Covid-19 yn para, nid ydym yn cynnig unrhyw newid i unrhyw un o'r cyfraddau presennol ar gyfer ar gyfer 2023-24.

"Mae ein Cyllideb Ddrafft yn diogelu gwasanaethau cyhoeddus a'r rhai mwyaf bregus yn wyneb storm berffaith o bwysau ariannol."