Prifysgolion yn wynebu sefyllfa ariannol 'anghynaladwy'

  • Cyhoeddwyd
DarlithFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddangosodd dadansoddiad yn 2019/20 bod prifysgolion yn cyfrannu mwy na £5bn i economi Cymru

Mae prifysgolion Cymru yn wynebu sefyllfa ariannol "anghynaladwy" ac fe allai hynny effeithio ar fyfyrwyr, yn ôl is-ganghellor Prifysgol Caerdydd.

Mae'r Athro Colin Riordan wedi rhybuddio mewn cyfweliad â rhaglen Politics Wales BBC Cymru y gallai safon y dysgu ddioddef a bod toriadau yn bosib.

Eglurodd bod ffioedd dysgu sefydlog, llai o arian cyhoeddus a chwyddiant uchel i gyd yn rhesymau dros y sefyllfa.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi buddsoddi'n "sylweddol" mewn prifysgolion.

Ond yn ôl yr Athro Riordan, mae "prifysgolion Lloegr yn cael eu cyllido yn well nag yng Nghymru ac mae hynny'n wir ers amser hir".

'Rhaid gwneud arbedion'

Yng Nghymru, £9,000 y flwyddyn yw cost ffioedd dysgu, ond dywedodd yr is-ganghellor bod hynny'n agosach i "£7,000 mewn termau real".

Mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, fe allai myfyrwyr dalu £9,250 y flwyddyn am gyrsiau llawn israddedig.

Dangosodd dadansoddiad yn 2019/20, dolen allanol bod prifysgolion yn cyfrannu mwy na £5bn i economi Cymru.

Bydd prifysgolion Cymru yn derbyn bron i £5m yn llai o arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae'r Athro Riordan yn gobeithio na fydd swyddi o fewn y brifysgol yn cael eu colli.

Ond awgrymodd y gall yr heriau ariannol arwain at ddosbarthiadau mwy i fyfyrwyr, ac y byddai'r ffordd o ddysgu'n wahanol.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Colin Riordan mai ei "bryder mwyaf" yw na fydd safon yr addysg yng Nghymru "mor uchel ag y dylai fod"

"Rwyf wedi bod yn glir gyda Llywodraeth Cymru ers tipyn o amser bellach ein bod mewn sefyllfa ariannol anghynaladwy," meddai.

"Maen nhw wedi dweud wrthym ni fod y grantiau gan y llywodraeth i brifysgolion yn aros yr un fath am y tair blynedd nesaf.

"Os ydy ein hincwm ni yn aros yr un fath ac mae chwyddiant yn codi, sy'n effeithio'n fawr ar y gost o gyflogi pobl, yna ry'n ni am weld diffyg [ariannol] a bwlch yn agor, a gallwn ni ddim gadael i hynny ddigwydd.

"Fedrwch chi ddim colli arian yn barhaol, sy'n golygu y bydd rhaid gwneud arbedion mewn rhyw ffordd."

Ei "bryder mwyaf", meddai, yw na fydd safon yr addysg yng Nghymru "mor uchel ag y dylai fod".

Streicio

Mae miloedd o staff yn Undeb Prifysgolion a Cholegau, gan gynnwys darlithwyr, yn streicio am gyfnod o 18 diwrnod ym mis Chwefror a Mawrth.

Ond gyda'r streic a'r ffioedd dysgu o £9,000, ydy myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn teimlo eu bod yn cael gwerth am arian?

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhiannon James (chwith) a Sasha Wilson (canol) yn astudio biowyddorau, tra bo Bethan Young (dde) yn astudio sŵoleg

Mae Bethan Young, 19, sy'n ei blwyddyn gyntaf ac yn astudio sŵoleg, yn teimlo ei bod yn cael "llawer o gyfleoedd".

"Ond mae'n bryderus ein bod ni'n gorfod ei dalu yn ôl," meddai.

"Dyw llawer ddim yn gweithio ac mae'n anodd gwybod lle y'n ni'n mynd i gael arian i'w dalu yn ôl."

Cafodd darlithoedd Elain Davies, sy'n ei thrydedd flwyddyn ac yn astudio Sbaeneg, eu canslo yr wythnos ddiwethaf oherwydd y streic.

"I feddwl faint o bres ry'n ni'n talu, dwi ddim yn teimlo ein bod ni'n cael digon," meddai.

Dywedodd Sasha Wilson, 19, sy'n astudio biowyddorau, bod gan y brifysgol "adnoddau da am be' ry'n ni'n talu... yn enwedig wrth wneud cwrs gwyddoniaeth".

Disgrifiad o’r llun,

"I feddwl faint o bres ry'n ni'n talu, dwi ddim yn teimlo ein bod ni'n cael digon," meddai Elain Davies

Yn ôl cyn-is-ganghellor Prifysgol London South Bank, dydy cyllido prifysgolion ddim yn flaenoriaeth i'r cyhoedd o'i gymharu â phethau fel ysbytai.

"Mae rhoi rhyw fath o gyfiawnder i brifysgolion ar draul rhywun arall... dydy hynny ddim am fod yn boblogaidd," meddai Syr Deian Hopkin, sydd hefyd yn ymgynghorydd addysg uwch.

"Mae creu'r cydbwysedd yma yn dipyn o sialens. Yn y pendraw fe fydd rhaid darganfod ryw ffordd o ddenu mwy o arian... efallai o'r tu allan i brifysgolion.

"Mae'n dipyn o broblem achos ry'n ni nawr yn addysgu mwy nag erioed o bobl ifanc."

'Wedi buddsoddi'n sylweddol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi buddsoddi'n sylweddol mewn prifysgolion ers diwygio ein system cyllid myfyrwyr, ac yn arbennig yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf wrth i'r sector geisio dygymod ag effaith y pandemig.

"Mae pawb yn cydnabod bod lefelau uchel o chwyddiant yn creu argyfwng costau byw ar draws y Deyrnas Unedig.

"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n sector addysg uwch er mwyn sicrhau bod modd iddyn nhw ddal ati i ddarparu profiad ardderchog i fyfyrwyr a staff."

Bydd mwy ar y stori hon ar raglen Politics Wales, BBC One Wales am 10:00 ddydd Sul, ac ar iPlayer.