Pwy sy'n mynd ar streic a sut y bydd yn effeithio arnoch chi?
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru a gweddill y DU wedi gweld tonnau o streiciau, ond bydd dydd Mercher yn ddiwrnod arbennig o fawr o ran aflonyddwch.
Bydd ysgolion, colegau, trenau a gwasanaethau'r llywodraeth i gyd yn cael eu heffeithio.
Anogwyd undebau i weithredu ar 1 Chwefror i gyd-fynd â diwrnod "amddiffyn yr hawl i streicio" Cyngres yr Undebau Llafur, mewn protest yn erbyn cynlluniau sydd â'r nod o orfodi lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer rhai sectorau yn ystod streiciau.
Dyma grynodeb o'r hyn sy'n digwydd ble a sut y gallai effeithio arnoch chi.
Ysgolion
Mae miloedd o ddisgyblion wedi cael gwybod y dylent aros adref ddydd Mercher, gyda llawer o ysgolion yn cau a rhai dosbarthiadau yn y rhai sy'n aros ar agor ddim yn digwydd.
Mae hyn oherwydd camau gweithredu gan yr Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) yng Nghymru a Lloegr, y cyntaf o bedwar diwrnod streic arfaethedig dros gyflog gan athrawon a staff cymorth.
Bydd maint y gweithredu yn amrywio yn dibynnu ar faint o aelodau NEU sydd yn ysgol eich plentyn a faint ohonyn nhw sy'n streicio - mae cynghorau wedi annog pobl i wirio eu gwefannau am y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae athrawon eisiau codiad uwchlaw chwyddiant o tua 12%, a dywed gweinidogion Cymru na allant ei fforddio.
Gellid gofyn i staff nad ydynt ar streic i ddarparu'r gwersi ar-lein i ddisgyblion gartref.
Hefyd ddydd Mercher, mae Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT) yn dechrau gweithredu'n ddiwydiannol - fyddan nhw ddim yn streicio ond fyddan nhw ond yn gwneud rhai tasgau yn unig yn ystod oriau craidd.
Prifysgolion
Mae degau o filoedd o staff Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU), gan gynnwys darlithwyr, gweinyddwyr, llyfrgellwyr a thechnegwyr yn cymryd rhan yn y cyntaf o 18 diwrnod o weithredu ym mis Chwefror a mis Mawrth.
Mae staff yn streicio mewn 62 o brifysgolion, gan gynnwys Bangor, Caerdydd, Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, dros gyflog ac amodau gwaith yn ogystal â phensiynau.
Mewn 83 o sefydliadau, gan gynnwys Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam, mae staff yn cerdded allan dros gyflog ac amodau gwaith.
Dywedodd Universities UK, sy'n cynrychioli 140 o sefydliadau, fod rhai dyddiadau cau ar gyfer gwaith cwrs wedi'u hymestyn a bod addysgu wedi'i aildrefnu.
Mae'r undeb yn gofyn am godiad cyflog gwerth naill ai'r mesur mynegai prisiau manwerthu (RPI) o chwyddiant neu 12% - pa un bynnag sydd uchaf - ac mae hefyd am ddod â'r defnydd o gytundebau dim oriau a chytundebau dros dro i ben a thaclo "beichiau gwaith gormodol" sy'n arwain at oriau o "waith di-dâl" .
Dywedodd Dr Sion Llewelyn Jones, sy'n aelod o undeb yr UCU yng Nghaerdydd, fod yna fomentwm i'r gweithredu a'i fod yn obeithiol y bydd y prifysgolion felly yn rhoi cynnig gwell iddynt o ran tâl ac amodau.
"Be da ni'n gweld ydi, oedden ni ar streic cyn Nadolig - mae nhw wedi rhoi cynnig newydd i ni so ma 'na fomentwm yna."
Gyrwyr trenau
Mae gyrwyr sy'n aelodau o undeb Aslef mewn 15 o gwmnïau rheilffordd, gan gynnwys Avanti West Coast, Great Western Railway a CrossCountry, yn streicio ddydd Mercher a ddydd Gwener.
Cynigiwyd codiad cyflog o 4% i yrwyr am ddwy flynedd yn olynol, ond roedd hyn yn seiliedig ar sawl newid i arferion gwaith.
Dywedodd y Rail Delivery Group (RDG), sy'n cynrychioli cwmnïau trenau, ei fod yn siomedig na chafodd ei "gynnig teg a fforddiadwy" ei gyflwyno i aelodau'r undeb.
Cadarnhaodd undeb Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT), sydd hefyd yn cynrychioli ychydig gannoedd o yrwyr trenau, y byddai ei aelodau mewn 14 o gwmnïau hefyd yn streicio ar yr un dyddiadau ym mis Chwefror.
Mae'r RDG yn disgwyl i ychydig llai na thraean o'r gwasanaethau redeg ond gydag "amrywiadau eang" ar draws y rhwydwaith.
Mae'n dweud y gallai gwasanaethau gael eu tarfu hefyd ar y nosweithiau cyn y streiciau a'r boreau wedyn, oherwydd na fydd llawer o drenau yn y depos cywir.
Mae hawl gan deithwyr sydd eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer gwasanaethau sydd wedi'u canslo, eu hoedi neu eu haildrefnu gael ad-daliad neu newid tocyn.
Gallant hefyd ddefnyddio'r tocyn hyd at 7 Chwefror os oedd streiciau 1 neu 3 Chwefror wedi effeithio ar eu trên.
Gweision sifil
Mae tua 100,000 o weision sifil yn undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) hefyd yn streicio.
Dywedodd yr ysgrifennydd cyffredinol, Mark Serwotka, ei fod yn golygu y byddai gwasanaethau cyhoeddus "o fudd-daliadau i brofion gyrru, o basbortau i drwyddedau gyrru, o borthladdoedd i feysydd awyr" yn cael eu heffeithio.
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn Abertawe, yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA), Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, y Gofrestrfa Tir a'r Senedd i gyd yn cael eu heffeithio.
Mae PCS wedi bod yn galw am godiad cyflog o 10%, gwell pensiynau, mwy o sicrwydd swyddi a dim toriadau i delerau diswyddo.
Dywedodd y DVSA y byddai profion gyrru a beiciau modur yn cael eu heffeithio, ond mae disgwyl i brofion theori a MOTs ar gyfer ceir, faniau a beiciau modur barhau fel arfer.
Dywedodd y DVLA y byddai ei gwasanaethau ar-lein a'i chanolfan gyswllt yn gweithredu fel arfer.
Ym Mae Caerdydd, mae busnes Senedd Cymru oedd i fod i gael ei gynnal ddydd Mercher wedi cael ei ail-drefnu, gyda'r cyfarfod llawn yn siambr y Senedd yn y prynhawn wedi'i ganslo.
Bydd adeilad y Senedd ar agor i ymwelwyr fel arfer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2023