Carcharu dyn, 30, am ladd ei ffrind 18 oed mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Ricky DaviesFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ricky Davies wedi prynu'r car 10 diwrnod cyn y gwrthdrawiad

Mae gyrrwr wnaeth achosi marwolaeth ei ffrind mewn gwrthdrawiad tra'n feddw ac ar gyffuriau wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd.

Bu farw Dafydd Hughes, 18, yn y gwrthdrawiad ym mhentref Drenewydd Gelli-farch ger Cas-gwent yn Sir Fynwy ar 8 Mai 2022.

Roedd Mr Hughes, o Abertyswg yn Sir Caerffili, yn sedd gefn car Ford Focus oedd yn cael ei yrru gan Ricky Davies, 30.

Roedd Davies, o dref Rhymni yng Nghaerffili, eisoes wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus mewn gwrandawiad blaenorol.

Alcohol, cocên a chanabis

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Davies wedi bod allan yn yfed mewn clwb nos ym Merthyr Tudful y noson cyn y gwrthdrawiad.

Ar ôl hynny, roedd wedi mynd i barti ble gymrodd gocên a pharhau i yfed tan oriau mân y bore.

Y bore canlynol gwelwyd Davies a'i ffrindiau ar gamerau cylch cyfyng yn mynd i brynu mwy o alcohol.

Tuag amser cinio'r diwrnod hwnnw fe benderfynodd y criw, oedd yn cynnwys Mr Hughes, i yrru o gwmpas yng nghar newydd Davies.

Bu'r car mewn gwrthdrawiad benben â cherbyd Peugeot 5008 ar y B4235, a bu farw Mr Hughes yn y fan a'r lle o'i anafiadau.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mewn teyrnged iddo wedi ei farwolaeth, dywedodd teulu Dafydd Hughes fod ganddo "ei fywyd i gyd o'i flaen"

Clywodd y llys fod Davies bron i ddwywaith dros y terfyn cyfreithlon o ran alcohol yn ei waed.

Dangoswyd fideo o gyfrwng cymdeithasol Snapchat i'r llys hefyd, oedd yn dangos Davies yn smocio canabis tra'n gyrru.

Dywedwyd wrth y llys y byddai car Davies wedi methu ei brawf MOT yn ogystal am fod ganddo o leiaf un teiar moel.

'Heb stopio yfed trwy'r penwythnos'

Darllenwyd datganiad i'r llys gan fam Mr Hughes, Emma, ddywedodd fod marwolaeth ei mab wedi ei gadael yn "ddideimlad".

"Ni ddylai'r un rhiant orfod mynd i adnabod corff eu plentyn i'r heddlu," meddai.

Yn dedfrydu Davies, dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke: "Roeddech chi wedi bod yn yfed - wnaethoch chi ddim stopio trwy'r penwythnos.

"Roedd gennych chi broblem gydag alcohol a chyffuriau. Roeddech chi'n gwybod hynny ond wnaethoch chi ddim stopio.

"Mae eich gweithredoedd wedi achosi poen enfawr."

Bydd yn rhaid i Davies dreulio o leiaf hanner ei ddedfryd yn y carchar, a chafodd ei wahardd rhag gyrru am 12 mlynedd.

Pynciau cysylltiedig