Gwagio tai wedi tân mewn tŷ teras ym Mhontypridd
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd tŷ teras ei ddifrodi'n llwyr yn dilyn tân ym Mhontypridd, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Cafodd tua 40 o ymladdwyr tân eu hanfon i Hurford Crescent yn ardal Graigwen am 7:09 fore Sul yn dilyn galwad i'r gwasanaethau brys, a bu'n rhaid defnyddio chwe pheiriant anadlu.
Does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi cael anaf, yn ôl y gwasanaeth tân.
Cafodd criwiau eu hanfon o Bontypridd, Caerffili, Gilfach Goch, Tonypandy, Abercynon a'r Eglwys Newydd.
Bu'n rhaid i breswylwyr nifer o dai cyfagos adael eu cartrefi ac yn ôl y gwasanaeth tân bydd yn rhaid i rai ohonyn nhw gael eu hailgartrefu.
Roedd y tân dan reolaeth erbyn 09:29 ond mae un criw wedi aros yna i chwistrellu dŵr mewn mannau poeth.
Mae yna bryder dros ddiogelwch strwythurol y tŷ a aeth ar dân a bydd swyddogion cyngor yn cael eu galw yno i asesu'r sefyllfa.
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i gadarnhau achos y tân.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod disgwyl i Hurford Crescent fod ar gau "am beth amser", ynghyd â Heath Crescent a rhan o Heol Graigwen.
Maen nhw'n gofyn i yrwyr osgoi'r ardal a defnyddio ffyrdd eraill os yn bosib gan fod disgwyl oedi yn yr ardal.