Llys yn clywed manylion ffrwgwd ym mynwent Treforys

  • Cyhoeddwyd
Mynwent TreforysFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymladd ym mynwent Treforys ym mis Awst 2022

Mae llys wedi clywed sut y gwnaeth teuluoedd oedd yn galaru weld ffrae anferth mewn mynwent ger Abertawe fis Awst y llynedd.

Cafodd dau eu hanafu'n ddifrifol a bu'n rhaid galw heddlu arfog.

Fe ddigwyddodd yr ymladd, a oedd yn cynnwys aelodau o bedwar teulu ym mynwent Treforys ar 5 Awst 2022.

Yn ystod y ffrwgwd, roedd batiau pêl-fas, dau gar yn gyrru at ei gilydd ar gyflymder a dau ddyn yn poeri ar lawr yr ystafell goffa.

Cafodd naw dyn eu harestio a ger bron Llys y Goron Abertawe fe waethon nhw bledio'n euog o achosi anhrefn treisgar.

Bydd wyth ohonyn nhw yn cael eu dedfrydu yn ddiweddarach a bydd un o'r dynion yn wynebu gwrandawiad arall.

Bydd dau berson ifanc, na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol, yn mynd ger bron llys yn hwyrach yr wythnos hon.

Yn y llys fe ddisgrifiodd yr erlynydd Helen Randall gymaint oedd y cyfan wedi effeithio ar y galarwyr oedd yn y fynwent ar y pryd - yn eu plith oedd dyn a oedd yn bresennol yn angladd ei wraig gyda'i bum plentyn.

Clywodd y llys mai canlyniad ffraeo rhwng dwy garfan deuluol oedd yr ymladd - sef carfan O'Brian/Coffey a charfan Murphy/Thomas.

Roedd aelodau o deuluoedd O'Brian a Coffey yn y fynwent er mwyn bendithio cerrig beddau Michael a Margaret O'Brian ond roedd yr hyn a ddigwyddodd wedyn yn "anhrefn treisgar a oedd yn cynnwys pob un o'r 11 diffynnydd," meddai'r erlyniad.

'Diwrnod oedd eisoes yn anodd yn anoddach'

Fe ddisgrifiodd Helen Randall sut y cafodd arfau ymosodol eu defnyddio i achosi niwed - cafodd cerbydau eu gyrru at ei gilydd a chafodd cerrig beddau eu difrodi.

Roedd dau angladd yn cael eu cynnal ar yr un adeg â'r cythrwfl, ychwanegodd Ms Randall, gan gynnwys yr angladd y daeth tad a phump o'i blant iddo - roedd un o'r merched ar fin geni babi.

Wrth fanylu, eglurodd Ms Randall gymaint o dorcalon oedd y cyfan iddyn nhw a bod diwrnod oedd eisoes yn anodd wedi'i wneud yn anoddach fyth.

Fe ddangosodd lluniau camera cylch cyfyng y tu mewn i ystafell yn y fynwent sut y gwnaeth un diffynnydd guddio bat pêl-fas yn y blodau gan achosi, yn ôl yr erlyniad, ddifrod i drefniannau blodau. Mae Patrick Joseph Murphy wedi pledio'n euog o achosi anhrefn treisgar a bod ag arf ymosodol yn ei feddiant.

Mae'r un ffilm yn dangos ei feibion, John Murphy a Paddy Murphy, sydd hefyd wedi pledio'n euog o achosi anrhefn treisgar ac o fod ag arf ymosodol, yn poeri ar lawr yr ystafell goffa. Roedd y cyfan, medd y Barnwr Paul Thomas, "yn weithred o amarch - neu hyd yn oed halogiad".

Mae lluniau eraill o'r diwrnod yn dangos ceir yn mynd ar gyflymder drwy'r fynwent - gyda galarwyr eraill yn gorfod neidio o'r neilltu.

Dywedodd y Barnwr Paul Thomas fod angen ystyried achos pob diffynnydd cyn penderfynu ar eu dedfryd.

Pynciau cysylltiedig