'Magwyd fy hen Nain ar Ynys Llanddwyn'
- Cyhoeddwyd
"Mi hoffwn fyw ar Ynys Llanddwyn... a dy gael di gyda mi."
Dyna eiriau rhamantus y grŵp Mynediad am Ddim am ynys y cariadon. Ond nid rhamant mae Anne Roberts o Fôn yn ei gysylltu â'r ynys, ond hen ffordd forwrol o fyw.
Magwyd ei hen nain, Catherine, yn un o'r bythynnod gwyngalchog sydd ar yr ynys, sef Bythynnod y Peilotiaid.
Roedd Catherine yn un o chwech o blant i Richard a Mary Hughes, gyda Richard yn beilot ac yn tywys llongau'n ddiogel i Gaernarfon.
"Mae 'na dynfa ofnadwy i'n teulu ni at yr ynys. Mae pawb yn gwybod am Dwynwen, ond be' dwi'n deimlo ydi bod yna fwy o hanes i'r lle," meddai Anne wrth Aled Hughes ar Radio Cymru.
Teuluoedd Ynys Llanddwyn
Fel llanw a thrai, mae'r atgofion a'r straeon am fywyd ar yr ynys wedi mynd a dod gyda threigl y blynyddoedd. Adeiladwyd y bythynnod cyn 1830 ar gyfer ceidwad y goleudy, peilotiaid, a chriw'r bad achub. Caewyd gorsaf y peilotiaid yn 1943 a daeth bywyd yn y bythynnod i ben.
Ond mae Anne wedi gwneud yn siŵr bod hanes teulu'r Hughesiaid ar Ynys Llanddwyn ar gof a chadw yn ei nofel sy'n seiliedig ar fywyd ei theulu yno, The Island of the Four Winds, ac mae'n ddiolchgar i'w Mam am ei magu yn sŵn y straeon:
"Mae Mam yn 86 rŵan a mae hi dal yn mwynhau mynd i Llanddwyn pan fedrith hi gerddad yna. Mae wedi synnu hi a fi yn y blynyddoedd dwytha, faint mwy o bobl sydd yn heidio yna, llawer ohonyn nhw yn heidio yna am yr olygfa ac i fedru tynnu llun o'r llwybr llaethog neu'r aurora borealis o'na.
"Ella bod pobl ddim yn cysidro erbyn hyn - y pedwar bwthyn bach sydd ar yr ynys. Mi welon ni y rhaglen deledu gafodd ei neud lle oedd yna bedwar teulu bach yn byw yna ychydig flynyddoedd yn ôl, The 1900 Island ar y BBC.
"Oedd o'n rhyfadd gwatsiad y rhaglen achos oedd Mam yn deud petha' fel 'Argol, fasa dyn fish byth 'di dwad o Gaernarfon i brynu pysgod fatha sydd yn y programme!'
"Ond, mi oedd yna deuluoedd yn byw yna. Mi oedd yna deluoedd yn magu plant yna fel fy hen hen Nain a'n Nhaid. Ella'n bod ni, pan 'dan i yn mynd am dro yna gyda'r nos yn yr haf, yn meddwl wrth ein hunain, 'ew lle braf i ddod â teulu i fyny'... lan y môr a ballu, ond be' sydd angen ei ddalld ydi, mai byw yno yr adeg hynny oeddan nhw. Roedd o'n fywyd calad.
"Mae'n anhygoel i feddwl y cafodd Catherine, fy hen Nain ei geni yn un o'r bythynnod bach yna. Un llofft fach oedd i lawr grisia', un stafell fyw ac un croglofft i fyny'r grisia wedi cael ei rannu efo hen flancad - yn rhannu'r hogia' (pedwar ohonyn nhw) oddi 'wrth y genod (dwy)!
Tywys y llongau heibio 'Bar Caernarfon'
Roedd croesi'r Fenai i Gaernarfon yn gofyn am beilotiaid profiadol, oedd yn adnabod Afon Menai a'i natur dwyllodrus. Gwaith peilotiaid Llanddwyn felly oedd tywys y llongau'n ddiogel trwy'r culfor.
Byddai'r llwybr ar draws y Fenai o Ynys Llanddwyn i Gaernarfon yn cynnwys croesi 'Bar Caernarfon'. Dyma ran sy'n cynnwys banciau tywod a chreigiau cuddiedig sy'n parhau i achosi anawsterau i gychod ac mae angen llanw uchel er mwyn ei groesi.
Eglura Anne: "Mi oedd y Caernarfon Bar yn le peryg a mae o dal yn le peryg i fynd â chychod i mewn i'r Fenai, a dyna oedd fy hen, hen daid i yn 'neud.
Ar ôl angori'r llongau yn ddiogel yn Nghaernarfon, sut oedd y peilotiaid yn dychwelyd adref i Ynys Llanddwyn?
"Wel, yr adag hynny roedd yna fwy nag un fferi yn croesi'r Fenai - Tal-y-foel, Moel-y-don a rheiny. Mi oedd 'na un ers talwm, Abermenai a mae rhai ohonyn nhw efo trychinebau eu hunain achos mae'r Fenai ei hun efo Traeth Melynog, Traeth Gwyllt a rheiny. Maen nhw yn beryg a felly roedd rhaid bod yn glyfar i ffeindio'ch ffordd drwadd.
"Ond swn i'n meddwl os nad oeddan nhw yn cael pas yn ôl mewn cwch arall, eu bod nhw yn dod yn ôl ar fferi a cherddad yn ôl.
"Roedd Richard Hughes yn adeiladu cychod hefyd - hen gychod clincar, coed - a mae yna hen hanesion ohono fo yn eu rhwyfo nhw drosodd i sir Gaernarfon wedyn i lefydd fel Trefor.
"Mae hwnnw 13 o filltiroedd o Gaernarfon - a chael pas yn ôl i Gaernarfon wedyn mewn trol a cheffyl i gael y fferi. Dyna oeddan nhw'n neud yr adag hynny yndê. Dim fatha ni yn neidio mewn i gar i fynd dwy filltir lawr y lôn!"
'Y gwn mawr' yn achub bywydau
Mae gan Ynys Llanddwyn sawl adeilad neu strwythur arall heblaw'r bythynnod sy'n ei nodweddu; y goleudy, y groes Geltaidd, Eglwys Santes Dwynwen a hefyd y gwn canon.
Mae'r hen wn canon i'w weld o flaen y bythynnod ac er nad oes defnydd iddo erbyn heddiw, arferai gael ei ddefnyddio i achub bywydau:
"Da chi'n gweld pobl ar bethau fel Instagram yn cael tynnu eu llunia yn eistedd ar y gwn mawr - dwi wedi gwneud hynny fy hun.
"Be' mae pobl yn anghofio ydi bod yna bwrpas i'r gwn ers talwm. Doedd 'na ddim llawar o ddynion yn byw ar yr ynys a doedd bob un ohonyn nhw, oherwydd oedran, ffitrwydd a ballu, ddim digon o fois bryd hynny i rwyfo y bad achub oedd ar yr ynys.
"Felly oedd y gwn mawr yn cael ei ddefnyddio i anfon signal pan oedd trafferthion, a mi oedd hogia' yn dwad o Niwbwrch dros y twyni tywod ymhell cyn i'r goedwig fod yna. Oedd yna lawar o ffermydd bach ymysg y twyni.
"Hefyd oedd 'na un stori efo llong (olew) Athina aeth i lawr ym Mae Malltraeth - eu bod nhw wedi gyrru am hogia o fferm Rhuddgar yn Dwyran sydd wrth geg aber Menai i ddod â'r ceffylau mawr yna achos doeddan nhw methu lansio y bad achub o ochr Malltraeth o achos y môr tymhestolog - a wedi gorfod ei lawnsio o'r ochr arall.
"Wedyn bu'n rhaid tynnu'r bad achub efo ceffylau dros be' rydan i'n ei alw yn 'wddw Llanddwyn' lle mae'r ynys yn ymuno efo'r tir mawr. Roedd y ceffylau wedyn wedi gorfod mynd at eu canolau yn y môr er mwyn cael digon o ddŵr i fynd o dan y bad achub. Fedrwch chi ddim meddwl am ddewrder pobl oedd yn gwneud ffasiwn beth heddiw.
"Mae'n wyrthiol na fuodd 'na gollad bywyd y noson a'th yr Athena - oedd honna yn stori oedd Richard Hughes yn ei dweud gyda'r nos wrth Mary Hughes, rownd y tân bach fasa wedi bod yn y bwthyn yn Llanddwyn, cyn ei dweud wrth fy hen Nain, a lawr i finna'."
Er mai darlunio hen ffordd forwrol o fyw mae Anne yn ei nofel, mae heli Llanddwyn yn parhau'n ei gwythiennau hithau, fel aelod o dîm Gwylwyr y Glannau Llanddwyn a'r ardal.
Hefyd o ddiddordeb: