Cwpan FA Lloegr: Sheffield United 3-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Wrecsam vs Sheffield UnitedFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Collodd Wrecsam ar ôl ildio dwy gôl ym munudau olaf y gêm nos Fawrth

Mae Wrecsam allan o Gwpan FA Lloegr ar ôl cael eu trechu gan Sheffield United yn Bramall Lane.

Fe sgoriodd Paul Mullin gic o'r smotyn i unioni'r sgôr, ond roedd goliau hwyr Billy Sharp a Sander Berge ym munudau olaf y gêm yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref.

Dyma'r eildro i'r timau wynebu ei gilydd yn dilyn gêm gyfartal ar y Cae Ras, gyda 4,700 o gefnogwyr Wrecsam wedi gwneud y daith i Swydd Efrog ganol wythnos.

Bydd Sheffield United, sydd dair cynghrair yn uwch na Wrecsam yn y pyramid, yn croesawu Tottenham Hotspur yn y bumed rownd.

Yn yr hanner cyntaf cafodd Sheffield United sawl gic cornel ond methon nhw a manteisio ar y cyfleoedd cynnar.

Fe achosodd McAtee a Berge broblemau i'r ymwelwyr ond llwyddodd golwr y Dreigiau, Rob Lainton, i arbed eu hymgeision yn gyfforddus.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Paul Mullin i unioni'r sgôr o'r smotyn wedi 59 munud

Roedd yn edrych fel byddai Sheffield Utd yn agor y sgorio wedi hanner awr wrth i James McAtee dorri i ffwrdd ar ôl ymosodiad, ond methodd gyfle euraidd pan ddylai wedi gwneud yn well.

Cafwyd ymgais pwerus arall gan Anel Ahmedhodzic, wrth i'r tîm cartref parhau i ymosod yn ffyrnig, ond Lainton eto oedd achubiaeth Wrecsam wrth i'r hanner orffen yn ddi-sgôr.

Ond bum munud yn unig wedi'r ail ddechrau rhwydodd Ahmedhodzic i gornel chwith uchaf y rhwyd i roi'r tîm cartref ar y blaen.

Serch hynny roedd Wrecsam yn gyfartal yn fuan wedyn diolch i gic o'r smotyn Mullin.

Roedd apêl aflwyddiannus am gic arall o'r smotyn yn fuan wedyn, gyda'r gôl yn amlwg wedi codi hyder cefnogwyr a chwaraewyr Wrecsam.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd Wrecsam eu hail gic o'r smotyn wedi 72 munud ond y tro hwn fe fethodd Mullin a churo gôl-geidwad Cymru, Adam Davies, wrth iddo ddyfalu'n gywir ac arbed ei ymdrech.

Yn anffodus i Mullin bu'n rhaid iddo adael y maes gydag anaf hefo 10 munud yn weddill, gyda Sheffield United yn gweld cyfle i setlo'r gêm o fewn yr amser arferol.

Wrth i Wrecsam lygadu hanner awr o amser ychwanegol, gyda 94 munud ar y cloc llwyddodd Billy Sharp i fanteisio ar amddiffyn llac i rwydo pasio Lainton er mawr ryddhad y dorf gartref.

Ond roedd dal amser am gôl arall gyda Sander Berge yn sicrhau'r fuddugoliaeth gydag ergyd gelfydd i do'r rhwyd.

Canlyniad siomedig ond perfformiad llawn calon felly i'r bron i 5,000 o gefnogwyr oedd wedi gwneud y daith o ogledd Cymru, wrth i'w golygon droi at ymweliad Wealdstone yn y gynghrair brynhawn Sadwrn.