Perfformiwr drag ar goll cyn cael ei ganfod yn farw - cwest
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed bod perfformiwr drag wedi cael ei ganfod yn farw yng nghanol Caerdydd ar ôl i'w ŵr gysylltu â'r heddlu i ddweud ei fod ar goll.
Cafodd corff Darren Haydn Meah-Moore, oedd yn 39 oed, ei ddarganfod yn Park Lane yn y brifddinas ar nos Sul, 22 Ionawr.
Mae dyn 50 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad a'i ryddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd y crwner yn y gwrandawiad ym Mhontypridd bod Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r farwolaeth.
Fe wnaeth archwiliad post mortem nodi bod achos y farwolaeth yn un roedd "angen ymchwiliad pellach".
Dywedodd y crwner, Patricia Morgan wrth y gwrandawiad bod ganddi le i gredu y gallai'r farwolaeth fod o ganlyniad i drais, yn un annaturiol neu heb esboniad, ac felly y gallai cwest fod yn angenrheidiol.
Roedd Darren Meah-Moore yn perfformio o dan yr enw CC Quinn a chyn hynny fel Crystal Coutoure.
Clywodd y cwest ei fod yn byw yng Nghasnewydd ond wedi ei eni yng Nghaerdydd.
Cafodd y cwest ei ohirio nes bod ymchwiliad yr heddlu ac unrhyw gamau cyfreithiol posib wedi cael eu cwblhau.
Fe ychwanegodd y crwner ei bod yn estyn ei "chydymdeimlad dwysaf â'r teulu ar yr adeg drasig hon".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2023