Daeargryn Twrci a Syria: 'Y gwaetha' dwi wedi ei weld'

  • Cyhoeddwyd
Tim Chwilio ac AchubFfynhonnell y llun, Steve Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Steve Davies mai dyma un o'r trychinebau gwaethaf iddo ei weld

Effaith y daeargrynfeydd yn Nhwrci a Syria ydi'r "gwaetha' dwi wedi ei weld erioed", yn ôl swyddog tân o Gymru sy'n ddirprwy arweinydd tîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol y Deyrnas Unedig.

Mae gan Steve Davies o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru flynyddoedd o brofiad o deithio i leoliadau trychinebau, ac mae wedi bod yn helpu'r ymdrechion achub yn Antakya yn Nhwrci ers i'r daeargrynfeydd grymus daro.

Gyda nifer y meirw yn dal i gynyddu, mae apêl pwyllgor DEC yng Nghymru eisoes wedi casglu £1.2m mewn diwrnod tuag at helpu'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan y drychineb.

Mae hynny'n cynnwys cyfraniad o £300,000 gan Lywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Steve Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Steve Davies fod amser yn rhedeg allan i ddod o hyd i bobl yn fyw

Ardal anferthol wedi ei llorio'n llwyr

Yn ôl Steve Davies mae bod yn dyst i faint y drychineb yn anghredadwy, gydag ardal anferthol wedi cael ei llorio'n llwyr gan y daeargrynfeydd.

"Rydyn ni wedi bod yn chwilio ac yn ceisio symud mor gyflym â phosib, i fynd i gymaint o leoliadau â phosib, a cheisio cyrraedd safleoedd lle mae yna wybodaeth gredadwy bod yna bobl yn dal yn fyw yno," meddai.

"Os nad ydyn ni'n gweld bod gobaith o achub rhywun yn fyw, rydyn ni'n gorfod symud ymlaen gan ein bod yn ceisio achub cymaint o bobl â phosib, felly mae wedi bod yn anodd iawn yn yr ystyr yna.

"Rydyn ni wedi tynnu pobl allan yn fyw bob dydd. Ond yn amlwg mae'r gobeithion o oroesi yn lleihau yn gyflym."

Ffynhonnell y llun, Steve Davies
Disgrifiad o’r llun,

"Rydyn ni'n dyst i lawer o bethau na fyddai unrhyw un eisiau eu gweld yn eu bywydau"

Mae Steve Davies a'i dîm wedi gweithio yn Japan, Haiti, Nepal ac Indonesia yn y gorffennol, gan weithio gyda thimau rhyngwladol ac hyfforddi ar gyfer y math yma o ddigwyddiadau.

Ond fe ddywedodd bod yr un yma yn "anferthol".

Ychwanegodd ei fod yn credu mai dyma'r gwaethaf y mae wedi ei weld yn bersonol, yn enwedig, meddai, oherwydd ei fod yn dyst i'r effaith ar deuluoedd a goroeswyr sydd yn ceisio cyrraedd eu hanwyliaid.

"Rydyn ni'n dyst i lawer o bethau na fyddai unrhyw un eisiau eu gweld yn eu bywydau," meddai.

"Ond does dim posib rhoi gwerth ar y 'wobr' o geisio achub rhywun, a gweld y llawenydd ar wyneb Mam pan rydych chi'n rhoi ei phlentyn yn ôl iddi."

Ffynhonnell y llun, Steve Davies

Profiad 'swreal iawn'

Un arall fu'n rhan o'r ymdrechion achub yw Emma Atcherley o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, sydd fel arfer wedi ei lleoli yng nghanol Caerdydd.

Wrth gael ei holi tra'n ceisio achub dynes ifanc oedd yn gaeth mewn adeilad yn Antakya, dywedodd bod y profiad o fod ynghanol y dinistr yn "swreal iawn".

"Mae'n deimlad da pan rydych chi'n achub bywyd," meddai. "Ond rydych chi'n gwybod bod nifer o bobl sy'n dal i fod ar goll, ac allwn ni ddim gwneud digon."

Dywedodd hithau hefyd bod y dinistr ar raddfa doedd hi erioed wedi ei weld o'r blaen, ac y bydd y tristwch a'r bywydau sydd wedi eu colli yn rhywbeth y bydd yn rhaid iddi hi ei "brosesu" yn ddiweddarach wedi iddi ddychwelyd adref.