Cymraes yn cofio 25 mlynedd ers gweithio ar Titanic
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n 25 mlynedd ers rhyddhau'r ffilm epic Titanic, gan y cyfarwyddwr James Cameron.
Cafodd y ffilm ei henwebu am 14 Oscar, gan ennill 11, a chreu Leonardo DiCaprio a Kate Winslet yn enwau byd-enwog.
Yn gweithio fel colurwraig ar y ffilm roedd y Gymraes, Siân Grigg.
Ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, fe siaradodd Siân am ei hatgofion o weithio ar y ffilm eiconig.
"Doedd gen i ddim clem 'da fi beth o'n i'n cael fy hun fewn iddo i fod onest," meddai.
"Felly roedd e'n sioc braidd i gyrraedd Rosarito, Mecsico, a gweld y cwch enfawr 'ma yng nghanol y stiwdio oedden nhw wedi adeiladu jest ar gyfer y ffilm.
"Roedd e'n brosiect enfawr. Sai'n siŵr beth o'n i'n disgwyl cyn mynd mas 'na, ond 'nes i ddim ystyried bydde cweit mor fawr ag oedd e."
Cafodd Siân wahoddiad i weithio ar y ffilm, heb unrhyw syniad y byddai'r ffilm yn mynd 'mlaen i wneud $2.2bn o werthiant tocynnau.
"O'n i'n gweithio gyda colurydd o'r enw Tina Earnshaw, 'nath hi 'neud Hamlet gyda Kate Winslet jest cyn hynny, ac o'n i'n gweithio ar hynny hefyd.
"'Nath Kate ofyn i'r holl dîm fynd mas, felly athon ni gyd mas i Rosarito gyda hi yn meddwl bo' ni'n gweithio ar ryw ffilm fach... a 'nathon ni gyrraedd a gweld yr epic production 'ma."
Perthynas â Leo a Kate
Wedi'r cyfnod yn gweithio ar Titanic, fe ddatblygodd Siân berthynas agos gyda rai o sêr y ffilm.
"Dwi'n gweithio gyda Kate ar hyn o bryd yn Vienna," meddai.
"'Nathon ni gadw mewn cysylltiad achos roedd [Titanic] yn ffilm weddol anodd felly wnaethon ni ffrindiau da achos roedd e'n gyfnod caled o ran gwaith, a'r oriau'n hir.
"Roedden ni yn Rosarito gyda'n gilydd am dros chwe mis."
"Dwi dal yn gweithio gyda Leo a dwi 'di gwneud hynny gyda fe ers bron pob un o'i ffilmiau ers Titanic, a dwi wedi gwneud dipyn o ffilmiau gyda Kate.
"Mae Kate a Leo yn ffrindiau mawr felly dwi 'di gweld hi lot dros y blynydde yn ymweld â fe ar setiau gwahanol."
Er bod y ffilmio wedi digwydd yn Playas de Rosarito yn nhalaith Baja Califfornia, Mecsico, roedd yr amodau yn heriol ac oer.
"Roedd e'n hynod o anodd i nhw, ac roedden nhw mor ifanc - 'nath Kate droi'n 21 yn ystod y ffilmio ac odd Leo newydd droi'n 21.
"Roedden ni gyd yn y dŵr 'na, ond o'n i'n lwcus achos o'n i'n gallu gwisgo wetsuits, ond doedden nhw ddim yn gallu hanner yr amser, felly roedd e'n anodd i nhw i fod yn y dŵr mor hir."
"O'n i meddwl bydden nhw byth yn gorffen e i fod onest," meddai Siân .
"Roedd e'n teimlo fel bo'r arian yn rhedeg i ffwrdd, fel bod e dipyn bach mas o reolaeth mewn ffordd.
"O'n i'n poeni bydden nhw byth yn ei orffen e, ond fe wnaethon nhw lwyddo, ac roedd e'n llwyddiant ysgubol."
Chwarter canrif yn ddiweddarach mae Titanic yn parhau yn un o'r ffilmiau mwyaf poblogaidd yn hanes sinema - dim ond y ddwy ffilm Avatar (hefyd gan James Cameron) sydd wedi gwneud mwy o elw.
Hefyd o ddiddordeb: