Richard Price: Y Cymro allweddol yn hanes America

  • Cyhoeddwyd
richard price

Mae 23 Chwefror yn nodi 300 mlynedd ers geni yr athronydd radicalaidd, mathemategydd ac awdur o Gymru, Richard Price.

Cafodd ei eni ar ffermdy yn Llangeinwyr tua 5 milltir i'r gogledd o dref Pen-y-bont ar Ogwr, yn fab i weinidog.

Dylanwadodd Price ar y Chwyldro Americanaidd, gan gydweithio gyda Benjamin Franklin, John Adams, George Washington a Thomas Jefferson. Roedd hefyd yn ddylanwadol ar Gyfansoddiad Yr Unol Daleithiau ac yn gryf o blaid hawliau merched, gan ddylanwadu ar waith y ffeminist enwog, Mary Wollstonecraft.

Er ei fod hefyd yn flaenllaw ym meysydd mathemeteg ac ac economeg, ac yn arweinydd crefyddol, mae llawer o'r farn nad yw ei fywyd a gyrfa wedi cael y cydnabyddiaeth mae'n ei haeddu.

Mae Dr Huw Williams yn Ddeon y Gymraeg, Darllenydd mewn Athroniaeth ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Credai Dr Williams ei fod yn bwysig cydnabod cyfraniadau arbennig Price i sawl maes.

"Rydym yn tueddu cofio Price yn y lle cyntaf am ei gredoau gwleidyddol a'r moeseg oedd yn sylfaen i'r daliadau hynny. Yn sicr ym meysydd athroniaeth a gwleidyddiaeth y mae'n parhau i fod yn ffigwr sy'n bresennol yn hanes y pynciau rheiny, er nid i'r graddau y byddai rhywun yn ei ddisgwyl, o ystyried statws ei waith ar y pryd a'i ddylanwad ar drafodaethau'r dydd."

Ffynhonnell y llun, Aarthy Balaganesh
Disgrifiad o’r llun,

Dr Huw Williams o Brifysgol Caerdydd.

"Ond er mwyn gwneud cyfiawnder ag ef, a deall ei gyfraniad, y mae'n bwysig ceisio ei gofio, a'i goffau, fel rhywun amryddawn a oedd wedi cyfrannu mewn meysydd niferus. Roedd yn polymath yn wir ystyr y term, gyda'r athrylith yna o fedru ymwneud gyda phynciau amrywiol ar y lefel uchaf un, gan gynnwys diwinyddiaeth, mathemateg, economeg a gwyddoniaeth yn gyffredinol - yn ogystal ag athroniaeth a meddwl gwleidyddol."

Clôd gan Franklin

"O ran ei enw da ymysg yr Americanwyr, nid yn unig ei gefnogaeth yn ei ysgrifau gwleidyddol oedd yn bwysig, ond yn hytrach ei ddawn ym maes cyllid a'r cyfraniadau a wnaethpwyd ganddo i drafodaethau ar yswiriant a'r ddyled genedlaethol.

"Yn wir cyfeiriodd Benjamin Franklin at ysgrif ganddo ar yr ail bwnc yna fel un o'r cyfraniadau deallusol pennaf yn y 18fed ganrif, a phan gwahoddwyd Price i fod yn rhan o Lywodraeth y Wladwriaeth newydd yn 1778, gobaith yr Americanwyr oedd y byddai'n arwain ar ei bolisi ariannol.

"Dyma gynnig syniad felly o fawredd Price yng ngolwg ei gyfoedion ochr draw yr Iwerydd, oherwydd fe roedd yn arwr iddynt eisoes oblegid yr ysgrif enwog a gyhoeddwyd ganddo yn 1776 (Observations on Civil Liberty) yn esbonio ac amlygu achos yr Americanwyr dros annibyniaeth - testun a ddarllenwyd gan filoedd yn y cyfnod hwnnw, mewn ieithoedd niferus."

Disgrifiad o’r llun,

Tri ffigwr hynod bwysig yn nyddiau cynnar Yr Unol Daleithiau; Benjamin Franklin a'r Arlywyddion, John Adams a Thomas Jefferson.

Ond nid yn unig yn ystod y Chwyldro Americanaidd a wnaeth Richard Price argraff fawr, fel esboniai Dr Huw Williams.

"Parhaodd ei enw da a dylanwad mewn i'r 1780au, pan dderbyniodd gradd er anrhydedd ochr yn ochr gyda George Washington gan Brifysgol Yale, ac ysgrifennodd pamffled arall yn 1784 yn pwysleisio pwysigrwydd y chwyldro yn America i'r byd ehangach.

"Parhaodd hefyd i gyhoeddi ar lywodraeth y wladwriaeth newydd gan arddel syniadau er mwyn cryfhau y llywodraeth ffederal; egwyddorion a gafodd eu hymgorffori gan y cyfansoddiad ffederal erbyn diwedd y degawd.

"Yn wir un enghraifft o ddylanwad Price oedd Benjamin Rush yn ymbil arno i gyhoeddi ysgrif pellach ar ddyfnhau egwyddorion y chwyldro yn y wlad, gan nodi byddai'n cario "more weight with our rulers than an hundred publications thrown out by the citizens of this country".

Pam ddim mwy o gydnybyddiaeth?

"O gofio hyn oll, a gan gymharu'r modd y mae rhywun fel Franklin wedi cael eu hanfarwoli trwy gerfluniau ac ar filiau arian, mae'n anodd dirnad weithiau pam nad yw Price wedi cael ei ddathlu fel ffigwr hanesyddol o bwys canolog."

Wrth drafod pam bod Richard Price ddim yn ffigwr mwy amlwg yng ngwybodaeth pobl i'w gymharu â ffigyrau fel Franklin mae Huw Williams yn awgrymu falle bod ei gefndir fel brodor o Ynysoedd Prydain yn ffactor.

"Un modd o grynhoi ffactor sylweddol yn hynny yw'r dywediad adnabyddus mai'r 'buddugwyr sydd yn ysgrifennu hanes'. Hynny yw, lle bod Franklin, Jefferson a Washington yn cael ei gysylltu gyda sefydlu'r Unol Daleithiau a dyrchafu eu gwerthoedd wrth i'r wladwriaeth newydd ffurfio, roedd Price ar ochr y sawl a gafodd eu trechu ym Mhrydain, o leiaf dros dro.

"Beirniadwyd safbwyntiau Price yn hallt gan yr enwog Edmund Burke, a rybuddiodd yn erbyn y Chwyldro Ffrengig yr oedd Price yn ei gefnogi, ac oedd yn cefnogi y Frenhiniaeth a'r Eglwys Gwladol. Aeth y chwyldro yn Ffrainc o chwith gyda'r terfysg mawr, ac ystyriwyd Burke fel llais rheswm a oedd wedi amddiffyn teyrnas Prydain yn ei waith."

Disgrifiad o’r llun,

Cartŵn 'Smelling out a Rat' gan James Gillray o 1790. Yn y llun mae Richard Price yn ysgrifennu gyda Edmund Burke yn edrych dros ei ysgwydd.

"Bu farw Price yn 1791 cyn iddo weld canlyniadau'r Chwyldro a chyn cael cyfle i amddiffyn ac addasu ei safbwynt. Y grymoedd yr oedd Price yn datgan yn eu herbyn a gadwodd grym ym Mhrydain, ac a gymerodd mesurau i ladd ar y math o ddiwygiad yr oedd Price yn gobeithio amdani.

'Dosbarthu grym gwleidyddol'

"Byddai safbwyntiau Price yn ennill y dydd yn y pen draw, ond erbyn y cyfnod hynny yng nghanol y 19fed ganrif yr oedd ei enw wedi'i anghofio i raddau'n barod, ac roedd yna arwyr newydd, fel ei gyd-Gymro adnabyddus Robert Owen.

"Wedi dweud hynny, ni ddylem danbrisio dylanwad Price fel ffigwr cynnar yn y mudiad poblogaidd i ddosbarthu grym gwleidyddol mewn modd tecach i'r boblogaeth ehangach."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y Chwyldro Ffrengig rhwng Mai 1789 a Thachwedd 1799, gyda'r gweriniaethwyr yn dymchwel y frenhiniaeth. Yn ysgtod y chwyldro fe dienyddwyd Brenin Louis XVI (Ionawr 1793) a'i wraig Marie Antoinette (Hydref 1793).

"Yn hynny o beth, er nad oedd yn byw yng Nghymru, mae yna awgrym gref bod dylanwad a syniadau Price a radicaliaid eraill Cymreig oedd ar wasgar (megis Iolo Morgannwg) i'w deimlo nôl yng Nghymru; roedd Price yn ymweld yn flynyddol ac yn debyg o fod yn troi mewn cylchoedd radical tebyg i'w gartref yn Newington Green yn Llundain."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Yn 1758 fe symudodd Richard Price i Lundain, gan fyw yn rif 54 Newington Green. Dyma'r tŷ heddiw, ar stryd teras bric hynaf Llundain (1658).

Y carfan 'mwyaf radical'

Mae Dr Huw Williams o'r gred y gwnaeth Price hefyd adael ei farc ar Gymru ymhell wedi ei farolwaeth ar 19 Ebrill 1791.

"Yn wir ei enwad ef, sef yr Undodiaid, oedd y carfan mwyaf radical ymhlith yr anghydffurfwyr oedd yn dechrau sefydlu'r dylanwad arhosol yna ar fywyd ysbrydol a gwleidyddol y byddai'n parhau am ganrif a mwy ac yn trawsnewid Cymru.

Ffynhonnell y llun, English Heritage
Disgrifiad o’r llun,

Y darlledydd Huw Edwards yn dadarchuddio plac i Price yn lle oedd yn byw yn Newington Green, Llundain, 22 Chwefror, 2023.

"Roedd yr Undodiaid yn arbennig o rymus mewn rhai ardaloedd o dde Cymru, gan gynnwys Merthyr Tudful, ac roedd y math o syniadau radical a fyddai'n nodweddiadol o ymneilltuaeth yn un o'r rhesymau y byddai'r dref honno yn gweld rhai o'r digwyddiadau mwyaf nodedig yn hanes protest y Deyrnas Gyfunol.

"Yn wir, er bod yr ymneilltuwyr yr oedd Price yn gwmni iddynt wedi methu gosod ei stamp ar wleidyddiaeth a chymdeithas Llundain a Lloegr, o fewn hanner canrif yr oedd eu cyfoedion Cymreig wedi datblygu fel grym pwysicaf y genedl."

Hefyd o ddiddordeb: