Casnewydd: Adfer cyflenwad dŵr poeth a gwres i 900 o gartrefi
- Cyhoeddwyd
Mae tua 900 o gartrefi yng Nghasnewydd bellach â gwres a dŵr poeth wedi i broblem gyda phibellau yn gollwng gael ei thrwsio.
Cafodd y cyflenwad gwres a dŵr poeth ei droi i ffwrdd yn ardal Dyffryn y ddinas ddydd Mawrth ar gyfer gwaith atgyweirio.
Roedd disgwyl i'r gwaith bara am dri diwrnod, ond erbyn prynhawn Iau roedd y cyflenwad wedi dychwelyd.
Dywedodd Cartrefi Dinas Casnewydd y byddan nhw'n ad-dalu cwsmeriaid am "dreuliau rhesymol" i gynhesu eu cartrefi dros dro.
Ychwanegon y byddai cwsmeriaid yn derbyn taliad o £20 ar gyfer bob diwrnod nad oedd ganddyn nhw gyflenwad, a hynny os dderbynion nhw wresogydd dros dro gan y cwmni ai peidio.
"Ry'n ni'n gwybod bod mwy i'w wneud i wella gwytnwch y rhwydwaith, a byddwn ni'n parhau i weithio ar hyn," ychwanegodd llefarydd.