Rasio milgwn: Cymru i ymgynghori ar waharddiad

  • Cyhoeddwyd
milgwnFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd y cyhoedd yn cael eu holi am eu barn ar wahardd rasio milgwn mewn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru.

Daw wedi i 35,000 o bobl arwyddo deiseb yn galw am ddod â'r gamp yn y wlad i ben.

Dywedodd yr RSPCA ei bod yn "foment anferth" i les cŵn.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bydd gweinidogion yn ystyried y "camau nesaf" ar ôl dadl yn y Senedd ar 8 Mawrth.

Dywedodd corff rasio milgwn fod y gamp yn rhoi lles cŵn "fel ei flaenoriaeth uchaf".

Dim ond un trac rasio milgwn sydd ar ôl yng Nghymru, yn Ystrad Mynach, sir Caerffili.

Disgrifiad,

Meg Williams: "Pam bysech chi byth moyn 'neud 'na i gi"

Mewn ymateb gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor deisebau ar y mater, dywed y bydd yn cynnal ymgynghoriad ar "gynigion ar gyfer trwyddedu gweithgareddau sy'n ymwneud ag anifeiliaid yn ddiweddarach eleni".

Ychwanegodd y bydd "cwestiwn yn ystyried gwaharddiad graddol yn cael ei gynnwys" ynghylch rasio milgwn.

"Ni ellir achub y blaen ar ganlyniad yr ymgynghoriad a pha gamau fydd yn cael eu cymryd," meddai'r llywodraeth, gan ychwanegu y bydd hefyd yn ceisio barn ar sut i wella lles milgwn rasio yng Nghymru.

Derbyniodd gweinidogion holl argymhellion y pwyllgor, ac eithrio un yn galw ar weinidogion i edrych ar chwaraeon eraill lle mae anifeiliaid yn cystadlu.

Dywedodd Dr Samantha Gaines, pennaeth adran anifeiliaid anwes yr RSPCA: "Mae hon yn foment enfawr i les cŵn.

"Cyhyd â bod y gamp hon yn cael parhau, mae cŵn yn cael eu rhoi mewn perygl o anaf difrifol a marwolaeth yn ddiangen yn enw adloniant."

'Tystiolaeth a data cadarn'

Dywedodd Mark Bird, prif swyddog gweithredol Bwrdd Milgwn Prydain Fawr (GBGB), fod y "chwaraeon trwyddedig, sy'n rhoi lles milgwn fel ei flaenoriaeth uchaf, yn croesawu'r cyfle i barhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ac Aelodau o'r Senedd ar y mater".

"Rhaid i unrhyw benderfyniad fod yn seiliedig ar dystiolaeth a data cadarn, ac rydym yn croesawu'r cyfle i barhau i gyflwyno'r achos dros wella lles milgwn drwy fwy o reoleiddio," meddai.

Nid yw'r unig drac yng Nghymru - Valley Greyhounds - wedi'i drwyddedu gan GBGB ar hyn o bryd, ond mae'n anelu at fod felly erbyn Ionawr 2024.

Dywedodd Malcolm Tams, rheolwr Valley Greyhounds, na allai weld gwahaniaeth rhwng rasio ceffylau a rasio milgwn.

"Yn y 40 mlynedd rydw i wedi bod yma dwi erioed wedi cael cwyn," meddai.