Rasio milgwn: Galw am wahardd camp 'hynod beryglus' yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
milgi
Disgrifiad o’r llun,

Mae elusen Hope Rescue yn poeni y bydd milgwn fel hwn yn parhau i ddioddef os nad yw rasio milgwn yn cael ei wahardd

Dylai rasio milgwn gael ei wahardd yng Nghymru, meddai un o bwyllgorau'r Senedd.

Daw'r argymhelliad wedi i ddeiseb gan elusen cŵn yn Llanharan, Hope Rescue, gasglu mwy na dros 35,000 o lofnodion o blaid gwahardd rasio milgwn.

Mae Pwyllgor Deisebau'r Senedd hefyd wedi argymell cynnal adolygiad i ddyfodol chwaraeon eraill sy'n cynnwys anifeiliaid.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod y pryderon ac y byddant yn ystyried yr argymhellion.

Ond dywed aelodau Bwrdd Milgwn Prydain eu bod yn "siomedig" bod y rhan fwyaf o'r pwyllgor o blaid gwaharddiad.

Disgrifiad,

Meg Williams: "Pam bysech chi byth moyn 'neud 'na i gi"

Mae un o reolwyr Hope Rescue, Meg Williams, yn dweud ei bod "mor falch" o argymhelliad y pwyllgor, ac yn cytuno "nad oes lle i rasio milgwn".

"Be' mae nhw'n ei wneud yw rhedeg mor gyflym â gallan nhw ar drac. Fel arfer mae nhw'n rhedeg ar ôl wiwer neu gwningen.

"Mae'n hynod o beryglus ac mae llawer o gŵn yn cael eu hanafu - weithiau mae'r anafiadau yn fawr... efallai coesau wedi'u torri a mae rhai yn gorfod cael eu lladd am fod yr anafiadau mor wael.

"Mae nifer o fobl yn rhoi bet arnyn nhw ac mae eu perchnogion yn gwneud arian."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Meg Williams bod y ganolfan yn brysur yn barod, ac nad oes lle i gymryd rhagor o filgwn rasio

Ychwanegodd Ms Williams mai cyfnod byr yw cyfnod rasio milgwn ac yn aml ar ôl hynny does neb eu heisiau.

"Ers Covid, mae llawer o gŵn yn dod atom beth bynnag," meddai, gan egluro nad yw rhai pobl eisiau cadw'r cŵn a brynwyd yn y cyfnod clo.

"Does dim lle 'da ni i'r milgwn 'ma sy'n sbâr - ac ry'n ni'n ofni be all ddigwydd i'r milgwn hynny."

Ychwanegodd ei bod yn hynod o falch o'r ymateb i'r ddeiseb.

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond ar drac yn Ystrad Mynach y mae milgwn yn rasio yng Nghymru bellach

Mae'r unig drac rasio milgwn yng Nghymru yn Ystrad Mynach, ac mae milgwn yn rasio yn stadiwm Valley Greyhounds unwaith yr wythnos ar hyn o bryd.

Dywed adroddiad y Pwyllgor Deisebau bod tystiolaeth gan Valley Greyhounds yn nodi "nad yw'r trac yn fwy peryglus nag unrhyw un arall".

Mae'n argymell gwahardd y gamp yn raddol a chynnal adolygiad i weld a ddylai chwaraeon eraill sy'n cynnwys anifeiliaid barhau.

Achub 200 o filgwn

Mae Cyngor Caerffili wedi bod yn ystyried cais i roi trwydded lawn i'r trac o dan Fwrdd Milgwn Prydain - fe fyddai hynny yn galluogi i fwy o ddigwyddiadau gael eu cynnal yno.

Mae aelodau'r pwyllgor yn cydnabod y gallai hynny wella diogelwch a lles anifeiliaid, ond yn dweud eu bod yn bryderus y gallai mwy o filgwn ddioddef tra'n rasio.

Mae cais wedi cael ei roi i Valley Greyhounds am ymateb.

Mae Hope Rescue yn honni eu bod wedi achub bron i 200 o gŵn cysylltiedig â Valley Greyhounds ers 2018, er bod perchnogion y trac yn amau hynny.

Roedd yr elusen yn arfer gweithio gyda Valley Greyhounds ond ers hynny maent wedi mabwysiadu polisi sy'n galw am wahardd rasio milgwn.

Dywedodd pedwar aelod o'r pump sydd ar y Pwyllgor Deisebau eu bod o blaid gwaharddiad graddol. Dywedodd yr AS Ceidwadol, Joel James, ei fod o blaid tynhau y rheoliadau sy'n bodoli eisoes.

'Siomedig'

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Milgwn Prydain: "Ry'n yn siomedig bod pedwar aelod o'r Pwyllgor Deisebau o blaid gwahardd rasio milgwn yng Nghymru.

"Fel mae argymhellion eu hadroddiad yn awgrymu mae yna nifer o ddewisiadau amgen a fyddai'n sicrhau bod y gamp yn parhau mewn awyrgylch o dan reolaeth - fe fyddai hyn yn sicrhau lles y cŵn ac yn diogelu swyddi a bywiolaethau y rhai sydd ynghlwm â'r gamp a chyfraniad ariannol y gamp i'r economi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gallai gwahardd rasio milgwn gael effaith ar Ystrad Mynach gyfan, medd yr adroddiad er ei bod yn argymell gwaharddiad

Er yn galw am waharddiad mae'r adroddiad yn nodi y byddai hynny yn cael effaith ariannol, nid yn unig ar stadiwm Valley Greyhounds, ond ar ardal Ystrad Mynach.

Mae'n awgrymu cyfnod o ymgynghori cyn cyflwyno'r newidiadau.

Mae'r adroddiad yn ychwanegu nad milgwn yn unig sy'n cael eu defnyddio mewn chwaraeon sy'n diddanu'r cyhoedd a bod angen edrych ar gampau eraill hefyd.

Dywed Bwrdd Milgwn Prydain bod yr argymhelliad yn rybudd i gampau eraill - fel rasio ceffylau, pysgota a rasio colomennod.

Mae'r Pwyllgor Deisebau yn cydnabod bod eu gwaith wedi canolbwyntio ar rasio milgwn a bod angen ymchwiliad pellach gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n blaenoriaethau ar gyfer lles anifeiliaid wedi'u nodi yn ein Cynllun Lles Anifeiliaid ar gyfer Cymru. Ein nod yw sicrhau bod pob anifail yng Nghymru yn cael bywyd da.

"Ry'n yn cydnabod bod yna bryderon am les milgwn rasio ac fe fyddwn yn ystyried yn ofalus argymhellion y Pwyllgor."