Cyfle i brynu darn o hanes rhaglen eiconig C'mon Midffîld
- Cyhoeddwyd
Mae cyfle unigryw wedi codi i brynu darn o hanes cyfres boblogaidd C'mon Midffîld gyda'r elw yn mynd at achos da.
Mae Dei Elfryn yn gwerthu blanced wedi'i wneud allan o dyweli cwrw o dafarn y Bull, Bryncoch a gafodd eu cynnwys yn y gyfres.
Yn ystod y 1990au roedd tad Dei, Morus Elfryn, yn gweithio ar gyfres C'mon Midffîld fel Rheolwr Cynhyrchu.
Bu farw Morus bron i flwyddyn yn ôl, a bydd yr elw sydd yn cael ei wneud ar ôl gwerthu'r flanced yn cael ei roi i elusen canser er cof amdano.
Un o olygfeydd enwocaf y gyfres yw pan mae Wali Thomas yn dweud wrth blismon mai ei enw yw 'Glyn Ffidich' wrth gael ei gwestiynu ar ôl aros yn y Bull ar ôl oriau cau.
"Mae'r stori yna mor ddoniol yn C'mon Midffîld. Mae'n neis bod hwnna ar y flanced, achos dwi'n meddwl mai hwnna ydy un o'r jôcs gorau yn y rhaglen," meddai Dei wrth BBC Cymru Fyw.
Wrth i Morus ddychwelyd adref o'i waith gyda'r tyweli cwrw, penderfynodd mam Dei i greu cwilt allan o'r holl dyweli.
"Dyna oedd fy nghwilt gwely i am flynyddoedd maith," meddai Dei.
"Am ein bod ni wedi colli Dad flwyddyn diwethaf i ganser, o'n i'n meddwl os oes gan unrhyw un ddiddordeb ynddo fo neu rywun isho fo, fysan ni'n bidio amdano a chodi pres."
Mae'r ocsiwn yn agored am rai dyddiau ac mae modd gweld yr holl fanylion drwy chwilio am enw Dei Elfryn ar Facebook.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2023