Llywodraeth Cymru i wahardd prydau bargen?

  • Cyhoeddwyd
Bargeinion bwyd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai bwriad y cynigion yw cefnogi iechyd a lles hirdymor

Fe all prydau bargen (meal deals) sy'n cynnwys sothach a bargeinion bwyd eraill gael eu gwahardd fel rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gordewdra.

Tra bod y ddeddfwriaeth wedi'i hanelu at hybu opsiynau bwyd iachach, mae Consortiwm Manwerthu Cymru yn rhybuddio y gallai leihau'r dewis a chynyddu'r prisiau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymgynghori'n eang gyda chynrychiolwyr y diwydiant.

Yn y ddogfen ymgynghori wreiddiol, y gwaharddiadau sy'n cael eu hystyried yw gostyngiadau pris dros dro, cynigion amlbryniant fel cael tri phecyn am bris dau, a phrydau bargen (meal deals) ond y rhai sy'n cynnwys lefelau uchel o siwgr a halen.

Mae yna rai awgrymiadau yn y cynnig sy'n nodi y dylid eithrio meal deals o'r gwaharddiad, ond dywed Llywodraeth Cymru nad oes unrhyw gynlluniau penodol wedi'u gwneud eto ers cau'r ymgynghoriad.

'Y syniad gwirionaf'

Ond wrth i gostau byw gynyddu doedd fawr o groeso i'r syniad yng Nghaerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Conor McAdams a Rhys Stringer yn erbyn y syniad

"Heb meal deals mi fuaswn i ar goll," meddai Conor McAdams, 22.

"Mae yna ddigon o opsiynau iach, mater i'r unigolyn yw cael creision neu ffrwythau.

"Mae meal deals yn gyfleus ac yn rhad. Dyna'r syniad gwirionaf dwi wedi'i glywed."

Dywedodd Rhys Stringer, 24: "Rwy'n caru meal deal, ac mae'n iachach na McDonalds neu KFC."

Dywedodd Patricia Quick, o'r Barri: "Mae'r cyfan yn dibynnu os ydych chi'n cael un bob dydd, rhywbeth y mae rhai pobl yn ei wneud. Mae yna lawer o ordewdra, a dylem wylio'r hyn yr ydym yn ei roi i'n plant."

Disgrifiad o’r llun,

Dan Hegarty: "Mae'r prisiau i gyd yn codi"

Ychwanegodd Dan Hegarty, 45: "Byddwn yn dweud ei fod ychydig yn wirion. Rydyn ni'n byw mewn dinas lle mae Greggs ar bob cornel.

"Mae'r prisiau i gyd yn codi, felly os gallwch chi gael cinio am £3 neu £3.50 , dydw i ddim yn gweld pam ddim."

'Ystyried yr argyfwng costau byw'

Dywedodd David Thomson o Ffederasiwn Bwyd a Diod Cymru: "Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw unrhyw bolisi yn cynyddu cost bwyd i bobl Cymru ar adeg pan fo aelwydydd ar draws y wlad yn brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd.

"Yn ogystal, mae'n hollbwysig bod cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru yn cael chwarae teg o'i gymharu gyda'u cystadleuwyr mewn rhannau eraill o'r DU."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai bwriad y cynigion yw sicrhau iechyd a lles hirdymor.

"Rydym wedi bod yn trafod y rhain gyda chynrychiolwyr y diwydiant ac wedi ymgynghori'n eang. Rydym yn ystyried y camau nesaf ar hyrwyddiadau prisiau.

"Bydd yr argyfwng costau byw yn cael ei ystyried yn ofalus wrth wneud penderfyniadau, ochr yn ochr â'r effaith sylweddol y mae gordewdra yn ei gael ar iechyd pobl.

"Bydd unrhyw fesurau penodol yn cael eu cynllunio i hyrwyddo bwydydd iachach a lleihau anghydraddoldebau iechyd a marwolaethau cynamserol."