'Gwarthus nad oes cytundebau i chwaraewyr rygbi'

  • Cyhoeddwyd
Andrew CoombesFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyn-chwaraewr Cymru Andrew Coombes yn dweud nad yw Undeb rygbi Cymru wedi trin chwaraewyr yn deg

Mae cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Andrew Coombes, wedi beirniadu Undeb Rygbi Cymru yn hallt amy ffordd y maen nhw wedi ymdrin â chytundeb chwaraewyr.

Mae hyd at 70 o chwaraewyr heb gytundeb y tymor hwn a dydyn nhw ddim yn gwybod a fydd ganddyn nhw swydd ar ôl mis Mehefin.

Mae chwaraewyr tîm Cymru wedi bygwth streicio yn ystod gêm Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn os nad yw'r mater wedi'i ddatrys erbyn dydd Mercher.

Dywed Undeb Rygbi Cymru eu bod wrthi yn ffurfio cytundebau ariannol gyda'r pedwar rhanbarth.

Fe ddecheuodd y trafodaethau am gytundeb ariannu newydd ym mis Ionawr 2022.

Fe wnaeth y Bwrdd Rygbi Proffesiynol roi sêl bendith i gytundeb ariannol chwe mlynedd rhwng URC, y Dreigiau, Caerdydd, y Gweilch a'r Scarlets ym mis Rhagfyr ond dyw'r cytundeb ddim wedi'i arwyddo hyd yma.

Heb gytundeb cadarn dyw'r rhanbarthau ddim yn gallu ffurfio cytundebau gyda chwaraewyr - ac fe allai rhai fod yn ddi-waith mewn rhai misoedd.

Dywed rhai chwaraewyr, cyn-chwaraewyr a sawl asiant bod y sefyllfa yn "anrhefn llwyr".

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Cymru yn wynebu Lloegr yng Nghaerdydd ar 25 Chwefror

Yn ôl Andrew Coombes, 38, a oedd yn rhan o dîm buddugol Cymru yn 2013, mae'r chwaraewyr wedi'u siomi gan y rhai sy'n gyfrifol - sef Undeb Rygbi Cymru a'r Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB).

Ar Y Clwb Rygbi ar S4C nos Sadwrn dywedodd: "Mae'r chwaraewyr wedi cael eu gadael lawr gan y bobl sydd yn rhedeg yr undeb - y PRB - dy'n nhw ddim wedi 'neud eu swyddi yn cael y deal ma dros y llinell.

"Ma' nhw di cael misoedd i wneud hwn. Dechreuon nhw siarad ym mis Ionawr 2022 - ma' nhw 'di cael dros flwyddyn.

"Ma' unrhyw industry efo deadlines i deals a ma'n rhaid i chi gael nhw 'di 'neud. Dyle'r chwaraewyr fod wedi gwneud hyn (bygwth streicio) nôl yn yr hydref yn fy marn i - dyna o'dd yr amser i ddweud 'os nad yw pethe yn iawn erbyn diwedd y flwyddyn - ni yn mynd i neud rhwbeth'.

"Maen nhw wedi gadael e'n hwyr. Mae e yng nghanol y Chwe Gwlad - dyw e ddim yn dda mynd mewn i gêm Lloegr a ni dal ddim yn gw'bod os yw'r gêm yn mynd i fynd 'mlaen.

"Gobeithio bydd yr undeb yn 'neud rh'wbeth nawr dros y diwrnode nesa' achos dyw e ddim yn deg."

'Mewn lle tywyll iawn'

"Does neb yn gw'bod be sy'n mynd i ddigwydd gyda Jack Dixon - os ma' hwnna'n cael anaf cas mae a allan am fisoedd. Sdim cytundeb 'da fe - beth mae'n 'neud? Sdim arian 'da fe - a ma' pobl ar trydar, cefnogwyr yn dweud bydd rhaid iddo fe just gael gwaith rh'wle arall," ychwanegodd Mr Coombes.

"Pan 'nes i ymddeol - o'n i'n y gwely am bron i flwyddyn yn cael llawdriniaeth ar ôl llawdriniaeth. Do'n i methu mynd i gwaith.

"Do'n i methu rhoi pâr o drowsus ar am fisoedd. Dwi wir ddim eisiau gweld unrhyw un o'r chwaraewyr 'na yn mynd trwy be es i drwyddo fe. O'n i mewn lle tywyll dros ben.

"Mae'r chwaraewyr yn gw'bod bod yr arian 'di mynd. Ma nhw'n barod i gymryd pay cut - ond ma' nhw mewn sefyllfa lle ma'r clybiau yn gofyn iddyn nhw roi popeth i'r crys ond chi methu 'neud 'na gant y cant achos yn cefn y meddwl chi'n meddwl ma' 'da fi deulu sy'n gwylio adre yn croesi bysedd bo fi ddim yn mynd i gael anaf.

"Ma'r bobl sy'n rhedeg yr undeb wedi gadael y chwaraewyr 'ma lawr a dyle nhw fod yn siomedig. Mae pawb yn chwerthin arno ni. Fe ddylen nhw adael eu swyddi.

"Dwin falch bod y chwaraewyr wedi sefyll lan a brwydro nôl yn erbyn yr undeb. Mae'n siom a mae' n llanast a gobeithio bydd yr undeb yn 'neud y peth yn iawn a cael y cytundebau mewn lle cyn dydd Mercher."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Andrew Coombes bod y sefyllfa bresennol gyda chytundebau yn gwbl annerbyniol

Dywed Rhys Priestland sy'n chwarae i Gaerdydd bod y chwaraewyr yn hynod rwystredig.

Ar raglen Y Clwb Rygbi dywedodd mai dim ond tri neu bedwar mis o sicrwydd sydd gan chwaraewyr.

"Mae pawb yn gwybod bod yr arian yn mynd i fod yn llai. Dyw chwaraewyr ddim yn cytuno gyda llawer o'r stwff yn y cytundebau arferol ac maen nhw'n credu bod y cyfan yn annheg.

"Mae'r chwaraewyr angen atebion nawr."

'Y sefyllfa waethaf ers 20 mlynedd'

Mae cyn-glo Cymru, Derwyn Jones, wedi bod yn asiant ers 20 mlynedd.

"Rwy' wedi wynebu sawl sefyllfa anodd yn rygbi Cymru ond dyma'r un waethaf erioed a ry'ch chi'n delio gyda phobl sydd o dan lot fawr o bwysau," meddai wrth siarad ar Radio Wales.

"Mae'n drist clywed cymaint o chwaraewyr yn dweud yr wythnos hon cymaint o bwysau y maen nhw'n ei wynebu.

"Ni ynghanol mis Chwefror a does yr un cytundeb i chwaraewyr sydd â'u cytundebau yn dod i ben yng Ngorffennaf - ac mae nifer o'r rheiny yng ngharfan Warren Gatland ar drothwy Cwpan y Byd."