Chwaraewyr rygbi Cymru yn ystyried mynd ar streic

  • Cyhoeddwyd
Fe fydd Cymru yn wynebu Lloegr yng Nghaerdydd ar 25 ChwefrorFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Cymru yn wynebu Lloegr yng Nghaerdydd ar 25 Chwefror

Fe fydd chwaraewyr rygbi Cymru yn ystyried a fyddant yn mynd ar streic yn ystod y cyfnod pan fydd Cymru yn chwarae Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae'r posibilrwydd o streic yn un opsiwn fydd yn cael ei ystyried pan fydd y corff sy'n cynrychioli chwaraewyr proffesiynol yng Nghymru yn cwrdd yr wythnos nesaf.

Fe fydd Cymru yn croesawu Lloegr yng Nghaerdydd ar 25 Chwefror.

Fe all y pedwar tîm rhanbarthol yng Nghymru gynnig cytundebau newydd i chwaraewyr, ond dyw hyn ddim wedi digwydd hyd yn hyn.

Mae'r sefyllfa yn golygu ansicrwydd i'r chwaraewyr hynny - tua 70 - sydd â'u cytundebau yn dod i ben yn nhymor 2022-23.

Fe gafodd y pedwar rhanbarth yng Nghymru - Scarlets, Dreigiau, Gweilch a Caerdydd - ganiatâd gan Undeb Rygbi Cymru i ddechrau trafodaethau ar gytundebau newydd yn Ionawr 2023.

Ond heb gyllidebau wedi eu cytuno'n derfynol ar gyfer y rhanbarthau am y tymhorau nesaf, mae'n ymddangos fod trafodaethau ynglŷn â chytundebau chwaraewyr wedi eu hoedi.

Dywed prif weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru Nigel Walker ei bod yn debygol y bydd cytundebau'r holl chwaraewyr wedi eu cwblhau erbyn diwedd Chwefror 2023.

Daw hyn ar ôl i'r Undeb ddod i gytundeb geiriol yn Rhagfyr 2022 ynglŷn â fframwaith chwe blynedd ar gyfer y pedwar rhanbarth a'u trefniadau ariannol.

Ar y pryd dywedodd y WRPA - y corff sy'n cynrychioli chwaraewyr - eu bod yn croesawu'r cytundeb geiriol ond fod angen i'r Bwrdd Rygbi Proffesiynol gwblhau'r trafodaethau "mor fuan â phosib er mwyn sicrhau dyfodol cryf i'r rhanbarthau proffesiynol" a "thîm cenedlaethol llwyddiannus."

Chwaraewyr yn gadael Cymru?

Mae cyfarwyddwr rygbi Caerdydd Dai Young wedi dweud na all rygbi yng Nghymru gael ei gymryd yn ganiataol ac y gallai chwaraewyr adael i chwarae mewn gwledydd eraill.

Mae disgwyl y bydd y clo Will Rowlands yn ymuno â chlwb Racing 92 yn Ffrainc y tymor nesaf.

Byddai hynny'n golygu na fydd yn gallu cael ei ddewis ar gyfer carfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn Ffrainc ddiwedd eleni.

Ar hyn o bryd mae'r rheol 60 o gapiau, sy'n bodoli ers 2017, yn golygu nad yw chwaraewyr sy'n chwarae y tu allan i Gymru yn gallu cynrychioli'r wlad oni bai fod ganddyn 60 o gapiau neu fwy.

Mae cais wedi cael ei roi i Undeb Rygbi Cymru a'r WRPA am sylw.