Actor o Gymru'n ennill £55,000 ar y loteri 'heb sylwi'
- Cyhoeddwyd
Mae actor o Geredigion wedi ennill dros £55,000 ar y loteri ar ôl iddo ddod o hyd i docyn wrth lanhau ei gar.
Fe wnaeth yr actor adnabyddus Dion Davies, 47, brynu'r tocyn Euromillions cyn y Nadolig. Ar y pryd, roedd yn perfformio ym mhantomeim Sleeping Beauty yn Aberdaugleddau.
Fis Ionawr, fe wnaeth y Loteri Genedlaethol gyhoeddi nad oedd unrhyw un wedi hawlio'r swm o arian.
Ond ddechrau Chwefror, daeth Dion ar draws y tocyn a mynd ag ef i siop yn Nhregaron - bellach, mae'r teulu wrthi'n trefnu gwyliau.
"Ro'n ni angen glanhau'r car tu fewn a thu fas... felly nes i fynd i gael valet," meddai Dion.
"Fe ofynnodd y dyn i fi dynnu fy mhethau i mas cyn iddo fe ddechrau, rhag ofn iddo fe daflu rhywbeth oedd yn werthfawr.
"Dwi'n falch y gwnaeth e!
"Fe ddes i o hyd i docyn loteri nes i brynu ym mis Rhagfyr o Tesco Aberdaugleddau lle ro'n i'n perfformio yn y panto.
"Fe es i â fe i Spar Tregaron, a dywedodd y dyn yn y siop wrtha' i fod angen i fi ffonio'r rhif ar gefn y tocyn achos fy mod i'n enillydd!"
'Defnyddiol i actor'
Fe ddaeth yr actor o Geredigion a'i wraig, Ifana, i wybod ei fod wedi ennill £55,086 ar ôl cyflwyno'r tocyn buddugol.
Mae Dion wedi ymddangos mewn cyfresi fel Torchwood y BBC a Stella ar Sky.
Fe ymddangosodd hefyd yn y ffilm 'Solomon a Gaenor', yn ogystal â rhaglenni ar S4C fel Y Pris, Tair Chwaer, Amdani, Y Glas, Rownd a Rownd, Pethau Bychain, a Hyd Y Pwrs.
Dywedodd y bydd y swm o arian yn help iddo ef a'i deulu yn ystod cyfnodau tawel y mae actorion yn eu hwynebu.
"A fydden i wedi gadael y tocyn yno tasen i wedi glanhau'r car fy hunan? Falle, a fydden i fyth wedi ei hawlio," meddai.
"Fel actor, ry'ch chi'n cael cyfnodau o 'orffwys', felly mae'r fuddugoliaeth wedi dod yn ddefnyddiol!"
Ychwanegodd ei fod yn trefnu taith i'r Eidal iddo ef, ei wraig, a'u mab 15 oed, ac yn gobeithio mynd i San Diego hefyd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2019