Gatland dal yn 'hyderus' y bydd Cymru yn wynebu Lloegr
- Cyhoeddwyd
Mae Warren Gatland yn "hyderus" y bydd gêm Cymru yn erbyn Lloegr yn mynd yn ei blaen ddydd Sadwrn, er gwaethaf bygythiad chwaraewyr i beidio chwarae oherwydd anghydfod dros gytundebau.
Daeth sylwadau'r hyfforddwr mewn cynhadledd i'r wasg ar ôl i gyhoeddiad tîm Cymru ar gyfer y gêm Chwe Gwlad gael ei ohirio brynhawn Mawrth.
Dywedodd Gatland fod "diffyg eglurder ynghylch y sefyllfa" ond ei fod yn "clywed pethau positif" wrth i drafodaethau barhau.
Mae'r chwaraewyr wedi rhoi tan ddydd Mercher i'r undeb ddatrys yr anghydfod.
Yn y gynhadledd i'r wasg brynhawn Mawrth, dywedodd Gatland fod y penderfyniad wedi ei wneud i ohirio cyhoeddiad y tîm yn sgil "diffyg eglurder y sefyllfa".
Dywedodd ei fod yn clywed "pethau positif" gan chwaraewyr a staff URC ynghylch parhau â'r gêm ddydd Sadwrn.
"Fy nealltwriaeth yw fod chwaraewyr wedi gofyn i edrych ar sawl peth ac mae trafodaethau'n digwydd heddiw [ddydd Mawrth]," meddai.
"Dwi'n hyderus y bydd [y gêm] yn mynd yn ei blaen. Mae chwaraewyr siŵr o fod wedi cael tua hanner dwsin o gyfarfodydd dros y dyddiau diwethaf.
"Dwi'n clywed pethau positif o'r ddwy ochr."
Beth yw cefndir y ffrae?
Mae gan hyd at 70 o chwaraewyr yng Nghymru gytundebau sy'n dod i ben ddiwedd y tymor, ac felly dydyn nhw ddim yn gwybod a fydd ganddyn nhw swydd ar ôl mis Mehefin.
Dywed URC eu bod wrthi'n ffurfio cytundebau ariannol gyda'r pedwar rhanbarth.
Dechreuodd y trafodaethau ym mis Ionawr 2022, a rhoddodd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol sêl bendith i gytundeb ariannol chwe mlynedd rhwng URC, y Dreigiau, Caerdydd, y Gweilch a'r Scarlets ym mis Rhagfyr ond dyw'r cytundeb ddim wedi'i arwyddo hyd yma.
Heb gytundeb cadarn dyw'r rhanbarthau ddim yn gallu ffurfio cytundebau gyda chwaraewyr - ac fe allai rhai fod yn ddi-waith mewn rhai misoedd.
Mae'r chwaraewyr hefyd yn galw am:
Gynrychiolaeth mewn cyfarfodydd o'r Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB);
Gael gwared ar y rheol 60 cap - sy'n golygu na fydd rhywun sy'n chwarae i glwb y tu allan i Gymru yn cael ei ddewis i'r tîm cenedlaethol os nad ydyw eisoes wedi ennill 60 cap.
'Gobeithio datrys pethau ddydd Mawrth'
Wrth i'r trafodaethau barhau, fe ddywedodd Gatland ei fod yn gobeithio y bydd yr holl chwaraewyr yn dod i sesiwn hyfforddi ddydd Iau "yn barod amdani".
"Mae wedi bod yn dipyn o her ond weithiau mae hynny'n sbarduno pobl a dod â nhw ynghyd," ychwanegodd.
"Mae 'na bethau mawr yn digwydd, ry'n ni'n ymwybodol o hynny, ond ry'n ni'n falch o sut maen nhw wedi ymarfer [mewn sesiynau hyfforddi].
"Gobeithio y caiff pethau eu datrys heddiw [ddydd Mawrth] a gallwn ni ganolbwyntio ar y gêm ddydd Sadwrn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2023