Hewitt: Posibilrwydd o ddwy streic rygbi yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Ashton HewittFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Mae'n bosib y gallai chwaraewyr rygbi yng Nghymru gynnal dwy streic o fewn yr wythnosau nesaf.

Eisoes mae chwaraewyr y tîm cenedlaethol wedi bygwth gwrthod chwarae yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn os nad oes datrysiad mewn cyfarfod ddydd Mercher mewn cysylltiad â nifer o faterion, gan gynnwys ansicrwydd dros gytundebau.

Nawr mae cadeirydd y corff sy'n cynrychioli chwaraewyr rygbi yng Nghymru'n dweud bod streicio ar lefel rhanbarthol yn bosibilrwydd "pendant".

Dywedodd asgellwr y Dreigiau Ashton Hewitt, sydd hefyd yn siarad ar ran Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (WRPA), bod streic yn cynnwys "pob chwaraewr yng Nghymru" yn opsiwn os nad oes cytundeb ffurfiol erbyn 28 Chwefror.

Yn ôl prif weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru (URC) Nigel Walker bydd fframwaith chwe blynedd wedi ei lunio erbyn diwedd y mis.

Dywedodd cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB) Malcolm Wall wrth raglen Scrum V eu bod yn bwriadu bwrw ymlaen gyda'r cam mwyaf dadleuol, sef cytundebau sy'n cyfuno elfennau sefydlog ac amrywiol.

Dan y cynigion dim ond 80% o dâl chwaraewyr fydd yn cael ei warantu, gyda'r 20% sy'n weddill yn ddibynnol ar nifer o ffactorau gan gynnwys bonws am ennill gêm.

Dywedodd Ashton Hewitt bod hynny'n "fater o bwys mawr" a'i fod yn credu nad yw'n un y byddai'r chwaraewyr yn fodlon ildio yn ei gylch.

Mae'n destun pryder, meddai, bod yr awdurdodau ond wedi rhannu manylion elfennau amrywiol y cytundebau arfaethedig ar droad y flwyddyn newydd, "er ei fod yn rhywbeth maen nhw wedi bod yn gweithio arno am naw neu ddeg mis, o'r hyn ry'n ni'n ei ddeall".

Mae'r manylion wedi dod "fesul tipyn", meddai, gan fynegi teimlad bod disgwyl i chwaraewyr dderbyn y telerau newydd "heb wir wybod beth yw glo mân y cytundeb".

Dywed Hewitt nad yw'r chwaraewyr yn hapus gyda'r manylion sydd wedi eu datgelu hyd yma, a'u bod "yn haeddu" rhagor o wybodaeth a "gwir ymgynghori".

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru'n wynebu Lloegr yn Stadiwm Principality Caerdydd ddydd Sadwrn yn eu trydedd gêm yn y Chwe Gwlad eleni

Mae'r WRPA wedi sicrhau lle o hyn ymlaen yng nghyfarfodydd y PRB, sydd eisoes â chynrychiolwyr o'r URC, y rhanbarthau ac aelodau annibynnol - cam y mae Hewitt yn ei groesawu oherwydd "fe ddylai hynny ganiatáu i ni fod yn rhan o'r trafodaethau lawer cynt".

Maen nhw hefyd yn galw am ddileu'r rheol sy'n golygu na all chwaraewr sy'n chwarae i glybiau tu hwnt i Gymru fod yng ngharfan y tîm cenedlaethol oni bai eu bod wedi ennill o leiaf 60 o gapiau. Mae Malcolm Wall wedi cadarnhau bod y PRB yn adolygu'r rheol honno.

Mae'r WRPA wedi crybwyll y posibilrwydd o streicio ar lefel ranbarthol os na fydd y PRB wedi cadarnhau cytundeb ariannol gwerth £315m dros chwe blynedd gyda'r pedwar rhanbarth erbyn diwedd Chwefror.

Straen a gofid

Gyda tua 70 o chwaraewyr â chytundebau fydd yn dod i ben ar ddiwedd y tymor presennol, dywed Hewitt bod y posibilrwydd o gael anaf yn destun gofid mawr.

Mae'r poeni ynghylch y dyfodol yn waeth, meddai, ymhlith chwaraewyr sydd ddim yn ennill mwy o arian am chwarae'n rhyngwladol.

"Mae ansicrwydd ynghylch eich gwaith yn straen boed yn y byd rygbi ai peidio. Mae gyda ni gyfrifoldebau," meddai.

Mae'n erfyn ar yr awdurdodau i ystyried holl oblygiadau eu penderfyniadau i chwaraewyr sydd â theuluoedd i'w cynnal a morgeisi i'w talu.

"Does dim llawer o amser ar ôl i rai o'r bechgyn hyn, a dwi'n meddwl eu bod nhw'n haeddu mwynhau rygbi heb y wleidyddiaeth, a gallu ymddiried bod y bobl sy'n gwneud y penderfyniadau yn meddwl am yr hyn sydd orau iddyn nhw."