Carchar i ddyn am dreisio merch mewn ymosodiad 12 awr

  • Cyhoeddwyd
Phillip Andrew WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Phillip Andrew Williams, 48, gipio'r ferch ar 2 Awst y llynedd

Mae dyn o Sir Gaerfyrddin wnaeth dreisio merch mewn ymosodiad a barodd 12 awr wedi cael dedfryd o 30 mlynedd yn y carchar.

Fe wnaeth Phillip Andrew Williams, 48, o Lanymddyfri, gipio'r ferch ar 2 Awst y llynedd.

Clywodd y llys iddo ddwyn ffôn y ferch, ei gorfodi i yfed alcohol a chymryd cocên, cyn ei threisio mewn cae a'i gyrru i Barc Gwledig Margam dan ddylanwad mewn cerbyd oedd wedi ei ddwyn.

Cafwyd Williams yn euog o saith cyhuddiad mewn achos llys fis Ionawr cyn cael ei ddedfrydu ddydd Mawrth.

Clywodd y llys fod y ferch wedi llwyddo i gael ei ffôn yn ôl fore 3 Awst. Daeth swyddogion heddlu o hyd iddi "wedi ei gorchuddio â mwd ac mewn stad o drallod".

Pan gyrhaeddodd yr heddlu, fe wnaeth y ferch ddatgelu'r hyn ddigwyddodd iddi, wnaeth arwain yr heddlu at y man lle ddigwyddodd yr ymosodiad.

Fe ddaethon nhw o hyd i dystiolaeth oedd yn "cyfateb â disgrifiad yr ymosodiad" gan gynnwys dillad isaf ac esgidiau'r ferch, a sgriwdreifer gafodd ei ddal wrth ei gwddf.

Cafodd Williams ei arestio ac, o fewn 36 awr, ei gyhuddo o saith cyhuddiad a'i gadw yn y ddalfa.

'Trosedd ofnadwy'

Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, DI Dale Thomas: "Roedd Williams rywsut yn meddwl y gallai ddod yn rhydd â'r hyn a wnaeth ond diolch i ymdrechion y tîm ymchwilio a dewrder y dioddefwr, yn dilyn achos wnaeth bara pum niwrnod, fe ddychwelodd y rheithgor yn unfrydol gyda rheithfarnau euog ar bob cyhuddiad o fewn 40 munud.

"Dwi'n gobeithio fod hyn yn dangos i bobl na fydd Heddlu Dyfed Powys yn goddef troseddau mor ofnadwy ac yn rhoi hyder i unrhyw un sy'n cael dioddef ymosodiad fel hyn i ddod ymlaen," ychwanegodd.

"Fe wnawn ni wrando a gweithio'n ddiflino i gael cyfiawnder ichi."

Fe wnaeth Williams ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth. Cafodd ei ddedfrydu i 22 mlynedd o garchar, wedi'i ymestyn am wyth mlynedd ar drwydded.