Dilyn taith banc bwyd: 'Mae'n gyfnod pryderus'
- Cyhoeddwyd

Berwyn Jones, Cynghorydd Sir Cwm-y-Glo a Beca Brown, Cynghorydd Sir Llanrug
Gyda'r esgid yn gwasgu oherwydd cynnydd mewn costau byw mae'r angen am fanciau bwyd yn codi, tra mae'r cyfanswm o fwyd sydd ar gael yn gostwng.
Dyma ddywedodd criw o wirfoddolwyr gweithgar wrth Cymru Fyw wrth i ni ddilyn taith y banc bwyd, o'r warws i'r drws, yng Ngwynedd.
Bob bore Gwener am 10:00 mae gwirfoddolwyr o chwech grŵp banc bwyd yn ymgynnull ym Mangor i gyfarfod fan FareShare sydd wedi teithio o warws yn Speake ger Lerpwl.

Warws FareShare yn Speake ger Lerpwl sy'n hel bwyd o archfarchnadoedd Prydain fyddai'n mynd i wast fel arall

Rob Smith sydd yn gwirfoddoli i FareShare wedi cyrraedd Bangor o Lerpwl

Berwyn Jones, Cynghorydd Sir Cwm-y-Glo a Beca Brown, Cynghorydd Sir Llanrug yn llenwi'r car gyda bwyd FareShare
"Mae'r bwyd yn cychwyn o warws FareShare yn Speake. Mae'n dod i Fangor bob bore Gwener lle mae gwahanol griwiau yn ymgynnull," esbonia Berwyn Jones, cynghorydd Cwm-y-Glo ger Llanberis ar Gyngor Gwynedd.
"Wedyn mae Beca Brown, finnau neu Meirion Jones y clerc yn mynd i nôl y bwyd rhwng 10:00-11:00 fel arfer."

Criw gweithgar banciau bwyd Arfon
Meddai Beca Brown, Cynghorydd Sir Llanrug: "Mae ganddon ni y Dref Werdd yn Blaenau, mae ganddo ni Yr Orsaf ym Mhen y Groes, Penrhyn House Bangor, Banc Ogwen yn Nyffryn Ogwen a ninnau yn Cyngor Cymuned Llanrug.
"Mae FareShare hefyd yn mynd a bwyd i grwpiau eraill ar wahanol ddyddiau - mae Porthi Dre (Caernarfon) yn cael ar ddydd Iau felly mae na sawl grŵp cymunedol yn cael eu cyfarch gan FareShare."

Gwirfoddolwyr o ardaloedd gwahanol yng Ngwynedd yn rhoi'r bwyd yn eu faniau a'u ceir

Dewi Roberts o Fanc Ogwen
Ar ôl cael y bwyd mae'r gwirfoddolwyr yn mynd a'r bwyd yn ôl i'w banciau lleol.
"Dani'n dod a fo i fan hyn i'r ysgol yn Cwm-y-Glo i'w gadw yn yr oergell," meddai Berwyn.

Berwyn Jones a Beca Brown yn hen ysgol Cwm-y-Glo

Dad-bacio'r bwyd
Ar ôl dad-bacio mae'r bwyd yn cael ei gadw mewn oergell cyn i Berwyn, Beca a gwirfoddolwyr eraill yr ardal ddychwelyd i rannu'r bwyd ar ddiwedd y prynhawn.
Dechreuodd Banc Bwyd Cwm-y-Glo ym mis Tachwedd 2020 yn ystod y pandemig.
"Grant oedd o gan Llywodraeth Cymru am flwyddyn a wedyn flwyddyn diwethaf gaethon ni grant gan Gyngor Gwynedd i gario fo 'mlaen am flwyddyn arall," meddai Berwyn.
Erbyn hyn maen nhw'n dosbarthu i 42 o aelwydydd - 56 o oedolion ac 13 plentyn. Ond wrth i'r niferoedd godi mae faint o fwyd sydd yn dod gan FareShare wedi gostwng.

Mae'r bwyd yn cael ei ddosbarthu i'r banciau fesul cilogram ac mae'r cynnyrch yn amrywio bob wythnos
"Oeddan ni yn ffodus ar y pryd i gael grant gan Gynmgor Gwynedd oedd yn golygu yn lle bo ni yn cael 80kg o fwyd ein bod ni'n gallu cael 120kg," meddai Berwyn.
"Ond erbyn hyn oherwydd y prinder bwyd maen nhw wedi gorfod gostwng y nifer yn ôl lawr i 80kg."

Y bwyd yn cael ei gadw yn yr oergell am y prynhawn
Meddai Beca Brown: "Mae o'n gyfnod pryderus iawn. Mae na ostyngiad ar yr union adeg lle mae pobl yn galw amdano fo.
"Mae pobl yn prynu llai o fwyd felly mae na lai o fwyd dros ben i bobl fel FareShare. Mae'n debyg be sydd i gyfri am hynny ydi bod archfarchnadoedd yn archebu llai o fwyd achos bod pobl yn gwario llai achos wrth gwrs mae'r esgid yn gwasgu.
"Mae na fwy o bobl wedi bod yn ymuno efo'r cynllun. Da ni wedi gweld o yn lleol a felly mae'n siwr fod hynny yn wir am ar draws aelodaeth FareShare yn gyffredinol."

Dychwelyd diwedd y prynhawn i rannu'r bwyd

Avril Jones o Gwm-y-Glo sydd y gwirfoddoli. Mae Avril yn gweithio yn y garej gyfagos ac yn dod a bwyd dros ben o fanno hefyd

Y bwyd yn cael ei ddosbarthu ar gyfer yr aelwydydd gwahanol
Yn ôl Beca Brown mae'n rhaid i'r banc bwyd geisio meddwl yn greadigol am sut i sicrhau fod y bobl mewn angen yn yr ardal yn cael digon o fwyd, a bod digon i'w ddosbarthu i aelodau newydd o'r cynllun.
"Da'ni jest yn trio meddwl am bethau fedrwn ni wneud," meddai.
"Dydan ni ddim ar hyn o bryd yn darparu bwyd wedi ei rewi er enghraifft. Tasa ni yn prynu rhewgell wrach fasan ni'n gallu cynnwys bwyd wedi ei rewi.
Meddai Berwyn: "Mi fasa' fo'n golygu y byddan ni'n gallu cael mwy o fwyd. Ond fasa rhaid i ni gael grant o rywle."

Meddai Beca: "Da ni hefyd yn trio supplementio, dwi er enghraifft ar app o'r enw Olio sydd yn rhannu bwyd dros ben gan bobl yn eu tai a hefyd pobl sydd yn nôl bwyd dros ben o archfarchnadoedd.
"Dani'n trio tynnu unrhyw surplus o wahanol lefydd er mwyn ychwanegu at be' sydd ganddon ni yn fan hyn.

Mae Ffion Roberts wedi bod yn gwirfoddoli gyda'r banc bwyd ers iddo ddechrau yn 2020
"Dydi o ddim yn hawdd. Does ganddon ni ddim cweit digon o fwyd a mi fydd pobl yn gweld gostyngiad yn faint maen nhw'n gael.
"Da'ni wedi gorfod llythyru ein pobl ni gyd wythnos diwetha yn esbonio y bydd eu bagiau nhw dipyn llai a mae rhywun yn casáu gorfod gwneud hynny ar adeg pan mae bobl fwyaf ei angen o. Does ganddon ni ddim dewis.

Ar ddiwedd y gadwyn mae'r bwyd yn cael ei rannu o gwmpas aelwydydd yr ardal

"Dani yn edrych ar bob ffynhonnell bosib i geisio cynyddu y bwyd sydd ganddo ni. Rhaid i ni fod yn greadigol efo hynny wrach.
"Mae o yn gyfnod pryderus a dydan ni ddim yn licio meddwl am ein pobl ni yn poeni 'ydi'r bwyd yn mynd i ddal i ddod?'"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022