Codi pryderon am ba mor hygyrch ydy pwyntiau gwefru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Farwnes Tanni Grey-Thompson yn galw am gael gwell mynediad at bwyntiau gwefru ceir trydan i bobl mewn cadair olwyn.
Mae'r Farwnes - pencampwr Paralympaidd ar 11 achlysur - yn defnyddio cadair olwyn, ac yn dweud nad ydy cael car trydan yn opsiwn iddi.
Dywedodd fod y pwyntiau gwefru ar balmant bychan mewn sawl lle, sy'n golygu nad ydy hi'n gallu eu cyrraedd am nad yw'n gallu gwneud y cam am i fyny.
Ychwanegodd fod diffyg lle iddi agor ei drws yn llydan agored er mwyn gadael y car yn ei rhwystro mewn sawl man arall.
Dywedodd Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU eu bod "eisiau i bawb allu newid i gerbydau trydan" a bod yna safon genedlaethol ers y llynedd "i helpu'r diwydiant greu a gosod pwyntiau gwefru y gall pawb eu defnyddio'n hawdd".
'Anwybyddu hygyrchedd'
Dywedodd y Farwnes Grey-Thompson ei bod wedi gorfod dewis car disel yn hytrach nag un trydan oherwydd bod "hygyrchedd yn cael ei anwybyddu".
"Mae'n syml iawn - dydw i ddim yn gallu eu cyrraedd nhw," meddai.
"Y problemau ydy fod yna step - mae hwnnw'n rhwystr.
"Ac mae rhai o'r llefydd yn eithaf prysur. Mae angen i fi allu agor drws fy nhar yn llydan agored - dydy llawer o'r llefydd ddim yn galluogi hynny."
Dywedodd ei bod wedi gorfod dewis car disel yn hytrach nag un trydan oherwydd bod "hygyrchedd yn cael ei anwybyddu".
Mae hi eisiau sicrwydd gan lywodraethau y bydd mwy yn cael ei wneud er mwyn sicrhau fod pwyntiau gwefru yn fwy hygyrch yn y dyfodol.
Ceir petrol a disel i ddiflannu o 2030
Ni fydd ceir a faniau newydd sy'n cael eu pweru gan betrol a disel yn unig yn cael eu gwerthu yn y DU o 2030 ymlaen.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod yn gobeithio cael pwynt gwefru pob 20 milltir ar holl briffyrdd Cymru erbyn 2025.
Mae Llywodraeth y DU yn ddiweddar wedi addo £56m ar gyfer sefydlu 2,400 o bwyntiau gwefru ychwanegol mewn 16 o ardaloedd cyngor yn Lloegr.
Fe wnaeth y Farwnes Grey-Thompson, sy'n gadeirydd corff Chwaraeon Cymru, godi ei phryderon ar Twitter, dolen allanol gyda lluniau o bwyntiau gwefru na fyddai hi'n gallu eu defnyddio.
"Pan dy'n ni oll yn gorfod troi at ddefnyddio cerbydau trydan, rydw i eisiau gwybod beth mae'r llywodraeth yn ei wneud er mwyn sicrhau eu bod nhw [pwyntiau gwefru] yn hygyrch," meddai.
"Fe wnes i gyflwyno cwestiwn i'r llywodraeth yr wythnos hon," ychwanegodd, gan gyfeirio at ei rôl yn Nhŷ'r Arglwyddi.
"Roedd cyhoeddiad mawr am bwyntiau gwefru, ond beth sy'n digwydd er mwyn sicrhau eu bod nhw'n hygyrch?"
Safon genedlaethol
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU: "Rydym eisiau i bawb allu newid i gerbydau trydan a dylai pwyntiau gwefru cyhoeddus fod ar uchder hygyrch gyda digon o le.
"Y llynedd fe gyhoeddwyd safon genedlaethol... i helpu'r diwydiant greu a gosod pwyntiau gwefru y gall pawb eu defnyddio'n hawdd, gan wneud y profiad yn well ac yn decach ar draws y DU."
Mae elusen Motability, sy'n cefnogi pobl sydd ag anabledd gyda materion trafnidiaeth, wedi cyhoeddi arfer da ar gyfer dylunio pwyntiau gwefru hygyrch mewn partneriaeth gyda Llywodraeth y DU.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd16 Medi 2021
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2021