Mouayed Bashir: Cwest i ddangos fideo gwreiddiol heddlu
- Cyhoeddwyd
Bydd lluniau gwreiddiol camerâu fideo'r heddlu o ddigwyddiad lle bu farw dyn wedi i'r heddlu ddod i'w gartref yn cael eu dangos i reithgor mewn cwest.
Bu farw Mouayed Bashir, 29, yn yr ysbyty ar 17 Chwefror 2021 ar ôl cael ei atal gan blismyn, ar ôl i'r heddlu ac ambiwlans gael eu galw i'w gartref yn ardal Maesglas, Casnewydd.
Ers ei farwolaeth mae teulu Mr Bashir wedi bod yn galw am gael gweld y lluniau gwreiddiol o'r digwyddiadau'r bore hwnnw, yn hytrach na delweddau wedi eu niwlio (pixelated).
Mewn adolygiad o'r achos yn Llys Crwner Casnewydd ddydd Llun, fe gadarnhaodd y crwner, Caroline Saunders, y byddan nhw'n cael eu dangos i dîm cyfreithiol y teulu.
Dywedodd Ms Saunders y bydd rheithgor yn cael gweld y lluniau ar ddechrau'r cwest, a bod disgwyl i bob heddwas oedd yn rhan o'r digwyddiad fod yn bresennol, a chael eu henwi.
Roedd hynny er gwaethaf cais gan fargyfreithiwr ar ran Heddlu Gwent i ganiatáu amser ar gyfer ceisiadau posib ynghylch aros yn ddi-enw.
Fe wnaeth Ms Saunders gydnabod y bydd dangos y ffilmiau yn "ingol i'r teulu, ond nid oes unrhyw ffordd y gallaf osgoi hynny".
Dywedodd mai "dyma'r ffordd orau [i'r rheithgor] wneud eu meddyliau eu hunain i fyny".
Ychwanegodd mai digwyddiadau 17 Chwefror 2021 fydd ffocws y cwest, ond y byddai rhywfaint o dystiolaeth gefndirol ar gael hefyd.
'Amser i ni fod yn barod yn feddyliol'
Mae disgwyl i'r cwest gael ei gynnal yn Ionawr 2024, gan bara am bythefnos.
Wedi'r gwrandawiad ddydd Llun dywedodd Mohannad Bashir: "Mae 740 diwrnod ers marwolaeth fy mrawd Mouayed Bashir.
"Ar ôl oedi cwpl o weithiau cyn cynnal yr adolygiad cyn y cwest, o'r diwedd rydym wedi cael ein dydd heddiw.
"Mae wedi bod yn hir yn cyrraedd, mae'n gam ymlaen, mae yna gynnydd wedi bod.
"Ydy, mae'r [cwest] ychydig ymhellach i lawr y lein ond mae'n rhoi mwy o amser i ni fod yn barod yn feddyliol a chorfforol am y cwest."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2021