200 o bobl i gael cynnig prawf gwaed canser y coluddyn
- Cyhoeddwyd
Bydd 200 o bobl sydd wedi goroesi canser y coluddyn yn ardal Abertawe ymhlith y cyntaf yn y DU i gael cynnig prawf gwaed newydd i sicrhau fod yr afiechyd heb ddychwelyd.
Mae elusennau blaenllaw wedi croesawu'r newyddion, gan ddweud fod unrhyw beth sy'n gallu lleihau rhestrau aros yn "gam positif" i gleifion.
Mae criw o wyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn gobeithio cynnig y profion dros y misoedd nesaf, gyda'r gobaith o ehangu'r argaeledd os oes llwyddiant.
Mae'r profion yn cael eu hariannu gan fuddsoddiad gan y cwmni nid-er-elw Moondance Cancer Initiative.
Yn ôl cleifion canser y coluddyn, mae unrhyw ddatblygiad yn y byd gwyddonol sy'n gallu cyflymu profion a lleihau pryder i deuluoedd yn hollbwysig.
Mae'r canllawiau presennol yn cynghori fod pobl sydd wedi goroesi canser y coluddyn yn cael profion fel colonoscopi neu sgan.
Ond mae'r pandemig wedi golygu fod nifer yn aros yn hirach nag y mae'r canllawiau yn ei awgrymu.
'Rhaid codi ymwybyddiaeth'
Fe newidiodd bywyd yn 2019 i'r Caplan Wynne Roberts o Wynedd.
Cafodd ddiagnosis canser y coluddyn wedi misoedd o anwybyddu ei symptomau ac osgoi gofyn am gymorth.
"Nes i benderfynu eistedd ar y peth," meddai. "Fel rhan fwyaf o ddynion, yn anffodus, nes i ddim byd am y peth."
Yn y misoedd oedd wedi ei ddiagnosis, cafodd gyfres o driniaethau, gan gynnwys cemotherapi.
Mae bellach yn byw heb ganser ond mae'n gorfod dychwelyd yn gyson i gael profion sy'n cadarnhau fod y cyflwr heb ddychwelyd.
'O'n i'n ofn'
Mae Wynne, fel nifer o bobl eraill yng Nghymru, wedi croesawu'r datblygiadau gwyddonol yn Abertawe, gan ddweud fod unrhyw beth sy'n gwneud y broses yn haws yn bwerus.
"Os fysai'n bosib i mi gael prawf gwaed yn 2018, yna falle 'swn i 'di mynd at y meddyg.
"Adeg yno, o'n i'n ofn am y colonoscopi. O'n i'n ofn be' fyddwn nhw'n 'neud i fi.
"Dwi'n meddwl y bydd o'n atal gymaint o boen meddwl i bobl."
Diolch i driniaethau amrywiol, mae Wynne nawr yn gwella ac yn ôl yn gweithio yn Ysbyty Gwynedd.
"Dydw i ddim wedi gadael yr adeilad, fel 'sa rhywun yn dweud."
Gwaith arloesol yn Abertawe
Fel Wynne, mae 'na filoedd o bobl yng Nghymru sy'n wynebu bywyd gyda chanser y coluddyn.
I'r rhai sy'n derbyn triniaeth ac yn goroesi, y cyngor ydy cael profion pellach megis colonoscopi neu sgan er mwyn cadarnhau fod y corff yn glir o'r canser.
Y gred yw bod 4,000 o bobl yn Abertawe ar restr aros ar gyfer colonoscopi.
Yn ôl yr Athro Dean Harris, roedd y cyfyngiadau yn ystod y pandemig wedi arafu'r gwaith oedd yn cael ei wneud gan greu "rhestr aros hir wrth gefn" ar draws Cymru.
Ei obaith yw bod y prawf gwaed yn ffordd gyflym a rhad o gynnig cymorth i'r bobl sy'n aros.
Mae elusen ganser Tenovus yn dweud fod unrhyw beth sy'n cyflymu triniaethau ac yn "lleihau pryder" yn bositif i gleifion.
"Mae hwn yn newyddion ardderchog i gleifion sy'n poeni yn ofnadwy rhwng profion," meddai Lowri Griffiths, Cyfarwyddwr Polisi a Gwasanaethau Tenovus.
"Rydyn ni eisiau unrhyw fath o brofion sy'n mynd i helpu cael gwared ar y rhestrau yna."
Fel rhan o Raglen Endosgopi Genedlaethol Llywodraeth Cymru, mae pobl sydd yn aros am driniaethau yn cael eu blaenoriaethu
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gwaith hefyd yn cael ei wneud yn ehangach i hyfforddi mwy o arbenigwyr sy'n gallu cwblhau triniaethau endosgopi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2022