Prawf gwaed canser y coluddyn yn 'addawol iawn'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Rhodri Davies fod y profion yn "drawsnewidiol i dirwedd canser yn y dyfodol"

Gallai prawf gwaed syml arwain at arbed miloedd o fywydau ar draws y byd trwy adnabod canser y coluddyn yn gynt.

Cafodd y prawf ei ddatblygu ym Mhrifysgol Abertawe gydag arian gan Ymchwil Canser Cymru - elusen Gymreig annibynnol - ac mae treialon mewn meddygfeydd yn "addawol iawn", yn ôl Rhodri Davies ar ran yr elusen.

Llwyddodd y treialon i adnabod y mwyafrif helaeth o achosion cynnar o ganser y coluddyn, ac mae'n bosib y bydd y prawf yn cael ei ddefnyddio gan GIG Cymru o fewn dwy flynedd.

"Mae dal yn ddyddiau cynnar ond mae hwn bron yn drawsnewidiol i'r tirwedd canser yn y dyfodol," meddai Rhodri Davies ar raglen Dros Frecwast fore Mercher.

'Newid y sefyllfa'

Roedd y treialon, gyda 595 o gleifion mewn 27 meddygfa deulu ar draws Cymru, wedi adnabod 79% o achosion cynnar o ganser y coluddyn, a 100% o achosion lle'r oedd y clefyd wedi datblygu ymhellach.

"Oherwydd natur canser y coluddyn dydy symptomau ddim wastad yn amlwg a pan mae symptomau'n dod yn amlwg ma' fe'n rhy hwyr," meddai Mr Davies.

Roedd y ffaith y byddai meddyg teulu'n gallu dweud wrth glaf "gyda lot o hyder", os oedd canser arnyn nhw neu beidio, "yn mynd i newid y sefyllfa'n hollol," meddai Mr Davies.

Byddai'r prawf yn galluogi cleifion i osgoi profion eraill, a allai fod yn "anesmwyth a weithiau'n ddiangen", meddai.

Ffynhonnell y llun, Slater King
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymchwilwyr wedi bod yn gweithio ar y prosiect ers tua naw mlynedd

Mae'r elusen wedi buddsoddi £500,000 dros tua naw mlynedd yn y gwaith ymchwil, a dywedodd bod cyhoeddi'r canlyniadau yn "ddiwrnod mawr i ni fel elusen".

"Mae'n dangos be 'dan ni'n gallu'i wneud yma yng Nghymru a bod gennym wyddonwyr ac arbenigwyr talentog sy'n gallu gwneud pethau newydd, trawsnewidiol yma."

Mae'r math yma o ganser wedi cael sylw yn ddiweddar drwy stori'r cyflwynydd podlediadau Y Fonesig Deborah James sydd wedi bod yn brwydro'r salwch.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyflwynydd y Fonesig Deborah James wedi datgelu nad oes modd iddi wella o'r canser

Mae ymgyrchwyr yn gobeithio y bydd y newyddion yn annog mwy o bobl i fynd at eu meddyg yn gynt.

Yn siarad ar BBC Radio Wales fore Mercher, dywedodd Glyn Davies, cyn AS y Ceidwadwyr dros Sir Drefaldwyn, pa mor bwysig oedd ceisio cael triniaeth mor fuan â phosib.

Cafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2002.

"Cafodd ffrind i mi ddiagnosis yr un pryd, a bu farw ychydig fisoedd yn ddiweddarach, doedd o ond 31 oed.

"Mae'n debyg fy mod i'n un o'r rhai lwcus, ond mae o gyd i lawr i ymwybyddiaeth a chael triniaeth gynnar."

Lleihau rhestrau aros

Mae canser y coluddyn yn ail yn y rhestr marwolaethau canser yng Nghymru, gydag amseroedd aros am ddiagnosis a thriniaeth ymhlith y rhai hiraf yn y byd yn ôl Ymchwil Canser Cymru.

Yn Chwefror 2022 roedd 7,751 o bobl yn aros am golonoscopi yng Nghymru.

Mae'r ffigwr wedi dyblu bron ers Mawrth 2020 pan darodd y pandemig, yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru.

Bydd y prawf gwaed newydd yn galluogi cleifion i osgoi profion eraill, a chwarae rhan allweddol wrth leihau rhestrau aros.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lynda Atkins sioc pan glywodd fod ganddi 12cm o ganser yn ei choluddyn

I nifer o'r 2,200 o bobl sy'n cael diagnosis canser y coluddyn yng Nghymru bob blwyddyn, mae'r canser wedi datblygu ymhellach na'r cyfnod cynnar.

Cafodd Lynda Atkins, 66, o Abertawe ddiagnosis o ganser y coluddyn datblygedig ym Mehefin 2021, ac o fewn wythnosau roedd yn wynebu llawdriniaeth i achub ei bywyd.

Mae hi bellach yn glir o ganser, ac yn byw gyda stoma, ond mae'n gobeithio y bydd y prawf gwaed newydd arwain at ddiagnosis cynt i eraill, ac arbed miloedd o fywydau.

"Mae'n bwysig iawn. Mae'n mynd i achub bywydau. Pe bawn i wedi cael y prawf, byddai fy nghanser wedi cael ei bigo i fyny yn gynt," meddai.

"Pan glywais amdano, doeddwn i methu credu'r peth."

'Mae na stigma'

Doedd ganddi ddim llawer o symptomau, meddai.

"Dwi'n ffit iawn felly roeddwn i'n meddwl mai nofio, mynd i'r gampfa a seiclo oedd yn gyfrifol am y ffaith 'mod i'n colli pwysau," meddai.

"Roedd yn sioc fawr i mi pan glywais fod gennyf 12cm o ganser yn fy ngholuddyn," meddai.

Roedd Deborah James wedi gwneud iddi fod yn fwy agored am ei chanser hithau.

"Mae 'na stigma am ganser y coluddyn - does 'na ddim digon o sôn amdano."