Anhwylderau bwyta: 'Mae 'na help ar gael'
- Cyhoeddwyd

"Dwi'n falch nes i agor allan pan nes i a jest bod yn fwy agored," meddai Dylan Cernyw
Dydy siarad am iechyd meddwl ac anhwylder bwyta ddim wastad yn hawdd - ond mae'n gysur i rai.
Treuliodd y telynor proffesiynol, Dylan Cernyw, flynyddoedd lawer yn cuddio'i deimladau rhag ei ffrindiau a'i deulu.
Tu ôl i'r wên a oedd yn ymddangos ar lwyfannau a'r sgrin fach, roedd yn brwydro anhwylder bwyta; bwlimia ac anorecsia.
A hithau'n wythnos codi ymwybyddiaeth am anhwylderau bwyta, mae'n dweud fod stigma yn parhau o hyd i ddynion sy'n profi salwch o'r fath.
Yn ôl elusen BEAT, maen nhw'n amcangyfrif fod mwy na 15,000 yn byw gyda chyflyrau tebyg yng Nghymru.
"'Nath o gyd gychwyn tua 1986, o'n i tua 16/17 oed," meddai Dylan, sy'n dod o Fae Colwyn.
"Oedd o jyst yn mynd o un peth i'r llall yn cuddio be' o'n i'n 'neud am flynyddoedd.
"Ond wedyn methu dod allan ohono fo, ac o'dd o jyst yn rhywbeth o'n i'n 'neud yn naturiol yn diwedd."

Mae Dylan Cernyw yn delynor proffesiynol
Dywed Dylan ei fod yn gorfwyta, yn gwneud ei hun yn sâl ac yna'n llwgu ei hun wrth geisio gwneud unrhyw beth i beidio bwyta.
Doedd dim un rheswm penodol i gyfri am pam roedd yn gwneud hyn ond yn dweud fod bod yn berfformiwr yn dod â'i bwysau.
"Do'n i'm yn hapus, de - mae delwedd oherwydd be dwi'n 'neud. Roedd genna'i wastad ofn be oedd pobl yn meddwl ohona'i neu sut o'n i'n edrych ar lwyfan. Ma'n rhan fawr ohono ac mae dal i fod."
Mae'n dweud nad yw salwch o'r fath byth yn eich gadael, gan ddweud fod o'n parhau i gael "pyliau" lle mae'n gweld pethau'n anodd.
Yn 2009 fe dreuliodd gyfnod yn cael ei fwydo drwy diwb yn Ysbyty Gwynedd.

Y peth pwysicaf ydy gwybod "sut i edrych ar ôl fy hun", meddai Dylan
Wedi blynyddoedd o straffaglu, fe benderfynodd siarad gyda'i deulu ac yna ei feddyg.
"Do'n i'm isio hitio 50 a bod yn yr un cae am 30 o flynyddoedd arall," meddai.
"Y step gyntaf ydy'r anoddaf, i chwilio am help, ond wedyn mae bob dim yn disgyn i'w lle. Mae 'na help ar gael.
"Fydda i hefo fo am byth. Ond dod i ddelio hefo fo, a gwybod sut i drin o, a sut i edrych ar ôl fy hun - dyna 'di'r peth pwysicaf."
'Rhannwch eich teimladau'
Mae elusen BEAT am i bobl siarad yn fwy agored am anhwylderau o'r fath.
"I fenywod a dynion mae'r symptomau yn debyg iawn - rhywun sy'n gyfrinachol o ran bwyd," meddai llefarydd.
"Rhywun sy'n mynd i'r tŷ bach ar ôl cael pryd o fwyd, neu yn flinedig hefyd.
"'Da ni wedi lansio cymorth ar-lein i helpu dynion yn benodol - OSPREY - a 'da ni am i ddynion rannu eu teimladau."
Os ydych chi wedi eich effeithio gan y pynciau dan sylw yn yr erthygl, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefanBBC Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2019