'Trist' bod cyfnod ffotograffwyr papur newydd ar ben

  • Cyhoeddwyd
Arvid a Robert
Disgrifiad o’r llun,

Arvid Parry Jones (chwith) a ddysgodd y grefft o dynnu lluniau i'w fab Robert Parry Jones

Ar un adeg roedd Arvid Parry Jones o Dal-y-bont yng Nheredigion a'i feibion Robert ac Arwyn yn tynnu lluniau ar gyfer papurau newydd ar draws Cymru.

Ond bellach, wrth i dechnoleg ddatblygu ac i nifer cynyddol o bapurau newydd ddiswyddo ffotograffwyr llawn amser, mae eu camerâu yn segur a does dim galw am eu sgiliau ffotograffiaeth.

Mae Undeb y Newyddiadurwyr (NUJ) yn galw ar bapurau a chylchgronau i barchu a chydnabod gwaith ffotograffwyr.

Dywed llefarydd ei bod hi'n drist bod eu crefft yn cael ei dibrisio a'i cholli.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Y ffotograffydd Arvid Parry Jones yn ystod dyddiau cynnar ei yrfa

Wrth siarad â Cymru Fyw dywed Arvid Parry Jones, a ddechreuodd dynnu lluniau'n broffesiynol yn y 1970au, ei fod yn croesawu'r dechnoleg newydd ond ei bod hi'n drueni bod oes y ffotograffwyr newyddion i bob pwrpas ar ben.

"Y dechnoleg sy'n benni ni a phapurau eisiau lluniau am ddim - 'na'r siom fwya'. O'dd e ddim ots am bwti fi fy hunan ond o'dd e'n drueni bod y bois wedi colli jobs," meddai.

"'Wi ddim yn beio technoleg achos fel'na mae bywyd yn mynd yn ei flaen.

"Ond mae dyfodiad camerâu da ar ffôns yn golygu bod papurau, rhai wythnosol, yn enwedig yn awchu i gael lluniau am ddim."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Prin yw golygfa fel hyn bellach wrth i bapurau dderbyn llai o luniau gan ffotograffwyr proffesiynol

"Mae dwsenni o ffotograffwyr yng Nghymru ac yn Lloegr - ffotograffwyr papurau wythnosol, yn enwedig, wedi colli gwaith.

"O'm rhan i rwy'n hŷn ac mae'n bryd ymddeol ond mae'n ergyd i'r bechgyn - ro'n nhw yn mwynhau'r gwaith a does dim galw am eu sgiliau nhw.

"Mae safon lluniau papurau dyddiol yn o'reit ond gyda rhai o'r lluniau yn y papurau wythnosol mae rhywun yn gwaredu weithiau at y safon.

"Be sy'n digwydd hefyd, wrth gwrs, yw nad yw digwyddiadau fel y sioeau yn cael agos cymaint o sylw. Bydden i'n llenwi dwy neu dair tudalen gyda lluniau o Sioe Aberystwyth, er enghraifft.

"Chi'n lwcus nawr os gewch chi hanner tudalen ond mae'r lluniau yn ymddangos yn gynt - dyna'r gwahaniaeth."

'Dyna oedd fy ngyrfa'

I feibion Arvid Parry Jones roedd hi'n ergyd galed a hwythau'n gorfod dod o hyd i waith cwbl wahanol wedi iddyn nhw fod yn gweithio i bapurau newyddion am flynyddoedd lawer.

Cyn ei ddiswyddiad roedd Arwyn yn ffotograffydd llawn amser i'r Cambrian News a Robert yn ffotograffydd llawn amser i'r Daily Post.

Ers ei ddiswyddiad mae Robert wedi bod yn gweithio mewn cartref gofal am rai misoedd, ond bellach mae'n cludo bwyd i gwmni cadwyn yn Aberystwyth.

"Ges i sioc bo fi wedi colli job," meddai Robert Parry Jones.

"Dyna oedd fy ngyrfa i really. 'Nes i adael ysgol yn 1990 a 'na i gyd 'dwi wedi 'neud am 30 mlynedd a fi'n colli'r gwaith. Ges i'r job gyda'r Daily Post yn 2003 ac o'n i'n joio'r job - pob diwrnod yn wahanol.

"O'n i'n covero'r Sioe Frenhinol, es i lawr i Gaerdydd i govero'r rygbi - Cymru v Awstralia a cael llun o Shane Williams yn sgorio cais. O'dd e'n ardderchog - fi yn colli'r job gymaint."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Y ffotograffwyr Arwyn Parry Jones ac Arwyn Roberts o'r Herald gynt yng nghwmni Beryl Vaughan

"Mae nifer o luniau yn aros yn y cof. Fi'n cofio cael llun arbennig o fam yn edrych ar fedd ei mab yn Y Bermo. Roedd e'n filwr ac wedi cael ei ladd yn Irac yn 2003.

"O'dd pump ohonon ni yn gweithio gyda'r Daily Post. Dim ond un sydd ar ôl nawr. Mae'n drueni mewn ffordd. Mae rhywun yn colli y cymdeithasu yn ogystal â'r swydd - swydd ro'n i wedi rhoi 'mywyd iddi.

"Hoffwn i fynd nôl un diwrnod. Dyw papurau dyddiol ddim eisiau ffotograffydd a dyw'r safon llawer o'r lluniau ddim fel oedd e o'r blaen.

"O'dd fy mrawd i yn gweithio i'r Cambrian News am 20 mlynedd - gath e ei 'neud yn redundant hefyd. Fi'n drist mae lot o ffrindiau fi wedi colli swyddi. Mae'n drueni bod y diwydiant wedi mynd fel hyn."

'Lluniau'n syth o'r fan a'r lle'

Mae Dylan Davies, golygydd newyddion y Cambrian News, yn dweud bod y sefyllfa wedi newid yn llwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

"Mae pawb â chamera bellach yn eu poced. Dyw'r safon y lluniau ddim wastad cystal ac mae digwyddiadau fel sioeau yn dioddef ond mae'n golygu eich bod yn cael lluniau o'r fan a'r lle yn syth," meddai.

"Y diwrnod o'r blaen ro'dd 'na rywun wedi tynnu lluniau o'r cyffuriau a ddarganfuwyd yn Nhan-y-bwlch, ac roedd modd eu cael yn syth.

"Mae'r bobl yn rhan o'r ddarpariaeth newyddion erbyn hyn - mae pethe'n newid."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd digwyddiadau mawr fel yr Eisteddfod Genedlaethol yn gyfle i ffotograffwyr ddod at ei gilydd i rannu profiad a straeon

Dywed Séamus Dooley, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol yr NUJ: "Mae cyfraniad ffotograffwyr i newyddiaduraeth yn fawr ac maen nhw'n haeddu cydnabyddiaeth a thâl priodol ac mae'r ffaith bod rhai cyhoeddiadau yn dewis defnyddio lluniau cyhoeddus yn fater ry'n yn parhau i'w herio.

"Mae ffotograffiaeth yn sgil bwysig ac ry'n ni'n poeni bod y grefft yn cael ei dibrisio. Ry'n yn annog cwmnïau a sefydliadau i ddefnyddio ffotograffwyr proffesiynol."

Safon yn dirywio?

Mae'r cyn-ffotograffydd Arwyn Roberts, sy'n adnabyddus am ei gyfraniadau i'r Herald, yn cytuno.

"Mae angen cadw sgiliau ffotograffwyr i'r safon orau posib. Beth sy'n digwydd ar hyn o bryd, wth gwrs, yw bod pobl yn gyrru lluniau fewn i bapur newydd ac wrth yrru lluniau fewn i bapurau newydd ac i unrhyw gyfryngau mae pobl yn meddwl bo nhw'n dallt be 'di llun.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Arwyn Roberts yn y dyddiau pan oedd un rhes o ffotgraffwyr yn barod i gofnodi cyffro'r Eisteddfod Genedlaethol

"Dwi wedi gweld lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol a fuaswn i byth yn cael getaway efo'r lluniau.

"Rhaid hefyd bod yn ofalus. Mae'n hynod bwysig bod ffotograffwyr proffesiynol yn cael eu hadnabod o fewn y cyfryngau sydd yma yng Nghymru er bo fi'n llwyr ymwybodol ac yn gwerthfawrogi bod technoleg yn symud ymlaen.

"Ond wrth i bawb allu dynnu llun - does yna ddim yr un cyffro ag y bu wrth i bawb ddisgwyl yn llawn cyffro am weld ei lun yn y papur."

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn ymhyfrydu yn eu casgliad o ffotograffau gyda nifer ohonyn nhw wedi'u tynnu gan ffotograffwyr papurau newydd fel yr eglura William Troughton, y curadur ffotograffiaeth.

"Pan chi'n meddwl am bobl fel Geoff Charles ac eraill o'dd yn gweithio i bapurau newydd - roedden nhw'n ffotograffwyr proffesiynol. Ro'n nhw'n gwybod be oedd ei angen ar bapur newydd," meddai.

"Mae 'na wahaniaeth mawr rhwng darlunio stori a'r darlun sy'n mynd yn y stori.

"Be' ni'n gweld yw bod ffotograffwyr proffesiynol yn gwybod sut i gyfansoddi llun a beth yw gwerth llun i'r stori.

"Yn sicr mae'r lluniau a fu yn fwy parhaol ond gawn ni weld mewn hanner can mlynedd - y peryg yw y bydd ffôns yn mynd ar goll neu efallai na fydd modd eu defnyddio nhw na'r cyfrifiaduron erbyn hynny."

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Geoff Charles
Disgrifiad o’r llun,

Mae lluniau fforograffwyr newyddion yn gofnod o hanes, medd Wil Troughton, fel yr un yma o'r bardd Carneddog a'i wraig Catrin yn gadael eu fferm deuluol yn Eryri i fyw gyda'u mab yn Lloegr

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Geoff Charles
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llun yma o siop Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn 1955 yn adrodd cyfrolau, medd William Troughton

Yn y cyfamser mae casgliad negatifs lluniau Arvid Parry Jones ar eu ffordd i'r Llyfrgell Genedlaethol ond mae e a'r meibion yn gobeithio nad perthyn i'r gorffennol yn unig mae ffotograffwyr papurau newydd.

Pynciau cysylltiedig