Gwasanaethau bws: Rhybudd am doriadau mawr ym mis Mehefin

  • Cyhoeddwyd
BwsFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe allai teithwyr bws weld llai o wasanaethau, neu lwybrau'n cael eu dileu yn gyfan gwbl, unwaith y daw cyllid i ben yn yr haf, meddai'r diwydiant bysiau.

Mae'r Cynllun Argyfwng Bysiau, ddaeth i rym yn ystod y pandemig, i fod i ddod i ben ym mis Mehefin.

Gyda llai o bobl bellach yn defnyddio bysiau nag yn 2019, rhybuddiodd un pennaeth yn y diwydiant eu bod yn agos at "ymyl y dibyn", gyda rhai cwmnïau llai yn gorfod gadael y farchnad yn gyfan gwbl.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "angen i ni ddechrau trosglwyddo i ffwrdd o'r dull argyfwng hwn o ariannu".

'Gwasanaeth sgerbwd'

Cafodd cwmnïau bysiau yng Nghymru, yr Alban a Lloegr fwy o gymhorthdal ariannol i gadw gwasanaethau ar ôl i nifer y teithwyr gwympo ar ddechrau'r pandemig.

Er bod cyfyngiadau Covid wedi lleddfu ers amser maith, dywed cwmnïau bysiau nad yw nifer y teithwyr wedi gwella - gyda chwsmeriaid hŷn yn arbennig ddim yn dychwelyd yn llawn i wasanaethau.

Yn ddiweddar fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymestyn y cynllun i'r flwyddyn ariannol newydd, ond dim ond am dri mis.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Dywedodd Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth Cymru, Lee Waters, wrth y Senedd yn ddiweddar y byddai'r estyniad yn rhoi hwb i'r diwydiant ystyried pa lwybrau i'w cadw.

Ond dadleuodd na all Llywodraeth Cymru fforddio parhau â'r cynllun, ac yn gynharach y mis hwn dywedodd ei fod yn gobeithio y gallai "gwasanaeth sgerbwd" barhau ar ôl i'r cynllun ddod i ben.

Nid dyma'r unig gymhorthdal i gwmnïau bysiau, sydd hefyd yn cael grantiau gan gynghorau ac yn cael arian pan fydd deiliaid tocynnau bws rhatach yn defnyddio eu gwasanaethau.

Teithiau i lawr 43%

Mae'r ffigyrau swyddogol diweddaraf yn dangos bod nifer y teithiau 43% yn is yng Nghymru yn 2021/22 o gymharu â 2019/20.

Mel Evans yw rheolwr gyfarwyddwr Mid Wales Travel yn Aberystwyth, sy'n rhedeg chwe llwybr bws ar sail fasnachol a thri arall sy'n derbyn cymhorthdal gan Gyngor Ceredigion.

Mae Mr Evans yn dweud bod y gwasanaethau masnachol "mewn peryg", a rhai llwybrau'n wynebu cael eu dileu.

"Rydyn ni eisoes wedi gorfod torri rhai ohonyn nhw yn ôl i bob dwy awr yn lle bob awr, dim ond fel ein bod ni'n gwybod y gallwn ni eu hachub a'u cadw i fynd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mel Evans y byddai llawer o'i lwybrau mewn "perygl"

Dywedodd Mr Evans fod y Cynllun Argyfwng Bysiau wedi bod yn allweddol.

Roedd nifer teithwyr y cwmni yn parhau i fod 50% yn is na'r hyn oedden nhw cyn y pandemig, meddai, gyda phobl hŷn heb ddychwelyd i ddefnyddio bysiau.

"Byddai Mrs Jones, er enghraifft, yn mynd i'r dref ar ddydd Llun ac yn cael ychydig o siopa. Ar ddydd Mercher byddai'n mynd i gael ei gwallt wedi'i wneud, dydd Gwener eto yn gwneud ychydig o siopa," meddai.

"Trwy Covid fe wnaeth hi ganfod ei bod hi'n gallu cael ei bwyd a'i siopa wedi'i ddosbarthu ar ddydd Llun a dydd Gwener. Mae'r siop trin gwallt yn dod i'w thŷ nawr, a phan mae'n cwrdd â'i ffrindiau maen nhw'n cwrdd yn nhŷ rhywun. Dyna bedair taith ar goll."

Colli 15 i 20% o'r rhwydwaith?

Dywedodd prif weithredwr corff diwydiant bysiau, sy'n cynrychioli 50 aelod, y gallai 15-20% o'r rhwydwaith bysiau gael ei golli unwaith y bydd y cyllid yn dod i ben.

Ychwanegodd Graham Vidler, o'r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, y gallai cwmnïau mwy o faint addasu, ond y byddai canlyniadau mwy difrifol mewn ardaloedd gwledig "sy'n arbennig o ddibynnol ar bobl yn teithio ar eu tocynnau bws am ddim".

Fe allai cwmnïau bach a chanolig wynebu gadael y farchnad yn gyfan gwbl, meddai.

Er bod ffigyrau teithwyr sy'n talu am docyn i lawr 10% ers dechrau'r pandemig, amcangyfrifodd Mr Vidler bod ffigyrau ar gyfer teithwyr tocyn i lawr 35%.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Fe fyddwn ni'n gweld rhai cymunedau, yn enwedig yng nghefn gwlad gorllewin Cymru, yn cael eu torri i ffwrdd o'r rhwydwaith bysiau yn gyfan gwbl," rhybuddiodd.

Dywedodd y byddai angen i gwmnïau mwy hefyd leihau gwasanaethau, a allai olygu teithiau llai aml, llai o wasanaethau ar benwythnosau, amseroedd cychwyn hwyrach ac amseroedd gorffen cynharach.

"Os byddwch chi'n tynnu'r cynllun hwnnw i ffwrdd, yn sydyn rydych chi'n cyrraedd ymyl y dibyn lle mae cyfran fawr o'r rhwydwaith yn sydyn yn dod yn anhyfyw," meddai.

Ychwanegodd y dylai mwy o'r £60m a glustnodwyd ar gyfer cymhorthdal teithio rhatach yn y gyllideb gyrraedd cwmnïau bysiau.

'Sgil-effaith i'w deimlo'n eang'

Richard Thomas yw pennaeth gweithrediadau Edwards Coaches, sy'n gweithredu tri llwybr gwasanaeth cyhoeddus yn ardal Rhondda Cynon Taf.

Mae'n debyg y byddai un o'r tri - gwasanaeth y 90 o Waunmiskin i Bontypridd - yn cael ei ddileu yn ei ffurf bresennol unwaith y daw'r Cynllun Argyfwng Bysiau i ben.

"Rydym yn gweithio'n agos i geisio cadw rhai o'r gwasanaethau hynny i fynd y tu hwnt i fis Mehefin, os gallwn eu huno â'r gwasanaeth 100," meddai.

"Ond ar ei ben ei hun dyw'r gwasanaeth 90 ddim yn hyfyw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddisgynnodd nifer y teithwyr yn ystod y pandemig - a dydyn nhw heb ddychwelyd i'r bysus ers hynny

Gallai gwasanaethau eraill redeg y llai aml, meddai. Mae'n gobeithio y bydd cynllun gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer teithio am ddim ym mis Mawrth yn annog pobl yn ôl, gan olygu nad oes angen toriadau.

Ond os yw nifer y teithwyr yn aros yr un peth ag y maen nhw ar hyn o bryd, "yna yn bendant fe fydden ni angen rhyw fath o gefnogaeth i barhau i redeg".

Rhybuddiodd Coach and Bus Operators Cymru (CaBAC), sy'n cynrychioli cwmnïau llai, y gallai gostyngiad ym maint y fflyd hefyd arwain at lai o gerbydau ar gael ar gyfer cludiant o'r cartref i'r ysgol.

"Byddai'r sgil-effaith i'w deimlo'n eang," meddai. "Byddai gwasanaethau bws lleol yn cael eu difetha, gyda phobl yn methu teithio ar gyfer cyflogaeth, siopa, ysbyty ac apwyntiadau pwysig eraill."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi darparu £48m mewn cyllid brys i'r diwydiant bysiau yn ystod y flwyddyn ariannol hon a thua £150m ers dechrau'r pandemig."

Ychwanegodd: "Mae angen i ni wneud pethau'n wahanol ac mae ein papur gwyn ar fysiau yn gam allweddol tuag at gyflwyno pwerau cyfreithiol i gyflwyno model newydd ar gyfer rhedeg bysiau yng Nghymru."