Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-1 Chesterfield

  • Cyhoeddwyd
Elliot LeeFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Eliot Lee ym munudau cyntaf y gêm

Mae Wrecsam wedi symud i frig y gynghrair genedlaethol ar ôl ennill 2-1 yn erbyn Chesterfield.

Aeth y tîm cartref ar y blaen yn gyflym iawn gydag ergyd wych Elliot Lee yn y pumed munud.

Roedd Chesterfield yn chwarae'n dda, ond llwyddodd Sam Dalby sgorio i Wrecsam gan ymestyn eu mantais ym munudau olaf yr hanner.

Yn yr ail hanner fe wnaeth ymgais gan Lee methu o drwch blewyn, cyn i Ryan Colclough sgorio i'r ymwelwyr ym munudau olaf yr amser ychwanegol.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod gan Wrecsam bwynt yn fwy na Notts County ar frig y gynghrair, ac wedi chwarae gêm yn llai.