Llygod mawr yn symud o'r canol i'r cyrion yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Llygoden FawrFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Cyngor Caerdydd yn dweud bod llygod mawr yn fwy o broblem mewn rhai ardaloedd sydd heb weld achosion sylweddol o'r blaen, ers dechrau'r cyfnod clo.

Mae adran difa pla y cyngor wedi ymateb i "gynnydd sylweddol" yn nifer yr ymholiadau am gymorth i ddelio â llygod mawr yn bennaf.

Mae gweithwyr y cyngor wedi dweud wrth BBC Cymru Fyw eu bod wedi gweld symud arwyddocaol o'r ardaloedd yng nghanol y ddinas lle mae canran uchel o dai rhent a bwytai tecawe i ardaloedd fel yr Eglwys Newydd, Pontprennau, Rhiwbeina a Thornhill.

Un o'r rhai sydd wedi sylwi ar lygod bach yn ei gartref am y tro cyntaf yw dyn o Bontcanna oedd ddim am gael ei enwi.

"Ni byth di cal problem o'r blaen, ond un noson 'naethon ni weld llygoden yn rhedeg o gwmpas ein traed ni yn y stafell fyw," meddai.

"Rhoies i traps lawr a nes i ddal pedwar y noson gynta, ac un arall wedi 'ny."

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Ers i'r gath yma gyrraedd, mae'r llygod wedi mynd

Roedd y teulu yn y broses o gael cath fel anifail anwes tra'u bod yn treulio mwy o amser yn eu cartref yn ystod y cyfnod clo, ac ers i'r gath gyrraedd dyw'r llygod ddim wedi bod yn broblem o gwbl.

"Mae'n cymdogion ni wedi cael problemau gwaeth 'na ni yn anffodus. Ac ar y stryd, ni di gweld llygod sydd wedi'u gwenwyno mas ar y pafin," meddai.

"Mae lot ambiti'r lle. Ond ni'n hyderus bod y llygod yn cadw draw wrthon ni nawr."

Cynnydd 65% mewn galwadau

Mae adran ddifa pla cyngor y ddinas yn dweud eu bod wedi derbyn cynnydd sylweddol yn nifer y galwadau am gymorth i ddelio a phlâu - 65% - ar adeg pan fo llai o weithwyr ar gael i daclo problemau.

Fel arfer mae chwech o dechnegwyr yn gweithio yn yr adran, ond ar hyn o bryd mae dau o'r rheiny yn cysgodi.

Ym mis Mehefin eleni bu gweithwyr y cyngor yn delio â 304 o achosion o bla o lygod mawr, o'i gymharu â 184 yr un mis yn 2019.

Mae nifer yr ymholiadau ar-lein am sut i ddelio a phlâu hefyd wedi cynyddu. Ym mis Mehefin eleni, roedd 206 o ymholiadau ar-lein, o'i gymharu â 84 ym mis Mehefin 2019.

Mae'r cyngor yn dweud y bydd nifer y bobl sydd â phroblemau pla yn uwch na hynny hefyd wrth i bobl gysylltu â chwmnïau pla preifat yn uniongyrchol.

Newid patrwm plâu ledled Prydain

Mae cwmni Rentokil wedi cadarnhau eu bod nhw hefyd yn delio a mwy o alwadau am gymorth.

Mae eu data nhw yn dangos bod cynnydd o 22% wedi bod ledled Prydain yn nifer yr ymholiadau am lygod yn ystod y misoedd rhwng Ebrill a Gorffennaf eleni.

Mae newid patrwm wedi bod yn ymddygiad gwylanod hefyd, medd technegwyr pla, wrth i ffynonellau bwyd ddiflannu o ganol dinasoedd.

Ffynhonnell y llun, Matt Cardy

Ym mis Mai daeth i'r amlwg bod adar ysglyfaethus ffug yn cael eu defnyddio mewn ymdrech i ddychryn gwylanod o un o adeiladau'r senedd ym Mae Caerdydd.

Roedd adeilad Tŷ Hywel drws nesaf i'r senedd wedi bod bron yn wag ers dechrau cyfnod clo'r coronafeirws, a'r gwylanod fel petaen nhw wedi manteisio ar y gwagle i fagu cywion bach.

Newid arferion

Mwy o bobl yn aros yn eu cartrefi sydd wrth wraidd y newid yn ôl Cyngor Caerdydd.

Maen nhw'n credu bod mwy o bobl yn bwydo adar yn eu gerddi, a bod mwy o bobl yn cadw anifeiliaid anwes fel ieir ers dechrau'r cyfnod clo.

Mae'r arferion newydd wedi arwain at ffynonellau ychwanegol o fwyd mewn gerddi.

Theori arall arbenigwyr pla yw bod llygod a gwylanod wedi cael rhwydd-hynt i fridio mewn swyddfeydd a meysydd parcio gwag ynghanol y ddinas.

Rhybudd y cyngor yw bod cyfrifoldeb ar unrhyw un sy'n sylwi ar bla i weithredu i geisio cael eu gwared nhw.

Maen nhw'n pwysleisio na fydd llygod mawr yn gadael safle lle mae ffynhonnell fwyd, ac y byddan nhw'n debygol o luosogi mewn nifer yn gyflym os na fydd ymdrech i gael gwared â nhw.

Tips Cyngor Caerdydd i daclo plâu

  • Peidio rhoi bwyd yn uniongyrchol ar lawr yr ardd;

  • Cofio bod bwyd anifeiliaid anwes sy'n byw yn yr ardd yn gallu denu plâu;

  • Cadw golwg am nythod llygod mawr mewn neu o dan siediau yn yr ardd;

  • Selio unrhyw fagiau bwyd anifeiliaid anwes, neu hadau adar gwyllt mewn siediau tu allan;

  • Golchi deunydd sy'n cael eu rhoi mewn bagiau ailgylchu.