Dyblu nifer chwaraewyr rygbi proffesiynol menywod Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dyblu nifer y chwaraewyr fydd yn cael cytundebau proffesiynol, wrth i Bencampwriaeth Chwe Gwlad y menywod ddechrau'r mis yma.
Llynedd dim ond 12 chwaraewr oedd gyda chytundeb llawn amser, ond eleni mae 24 wedi derbyn cytundebau am y flwyddyn.
Bydd Carys Williams-Morris hefyd yn rhan o'r tîm llawn amser oherwydd ei statws fel athletwr elitaidd gyda'r Llu Awyr Brenhinol.
Daw wrth i'r anscirwydd am gytundebau newydd i'r dynion barhau.
'Effeithiau positif clir'
Nid oes gwybodaeth benodol am werth cytundebau'r menywod, ond dywedodd Nigel Walker, prif weithredwr dros dro URC, eu bod wedi cynyddu.
"Does gen i ddim rhif, ond mae'r prif gytundebau werth mwy na'r rhai gafodd eu cyhoeddi llynedd," meddai.
Ychwanegodd Mr Walker eu bod wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid o amgylch i DU ar y cymal mamolaeth.
"Mae'r buddsoddiadau gafodd eu gwneud i'r rhaglen llynedd wedi cael effeithiau positif clir, ar y cae o ran perfformiadau a chanlyniadau, ac oddi arni o ran y gwasanaeth datblygu cyffredinol o fewn y rhaglen.
"Mae'n bwysig nad ydyn ni'n sefyll yn llonydd, ac rydyn ni'n credu y bydd mwy o fuddsoddiad yn y rhaglen eleni yn mynd peth o'r ffordd, nid yn unig tuag at ddatblygu'r chwaraewyr yma, ond hefyd eraill fydd yn ymuno efo'r tîm am hyfforddiant a chystadlaethau."
Bydd Cymru yn wynebu Iwerddon wrth i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ddechrau ar 25 Mawrth.
Chwaraewyr llawn amser Cymru: Abbie Fleming, Cerys Hale, Kerin Lake, Lleucu George, Lowri Norkett, Megan Webb, Niamh Terry, Sisilia Tuipulotu, Alex Callender, Bethan Lewis, Georgia Evans, Gwenllian Pyrs, Keira Bevan, Kelsey Jones, Natalia John, Elinor Snowsill, Alisha Butchers, Carys Phillips, Donna Rose, Ffion Lewis, Gwen Crabb, Hannah Jones, Lisa Neumann, Robyn Wilkins, Carys Williams-Morris.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2023