Cytundebau newydd i chwaraewyr rygbi 'yn y dyddiau nesaf'

  • Cyhoeddwyd
Nigel Walker speaks to the mediaFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Dywed prif weithredwr dros dro URC, Nigel Walker, y bydd cytundebau i chwaraewyr yn fuan

Dywed prif weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker, y bydd yna gytundebau i chwaraewyr yn ystod "y dyddiau nesaf".

Mae trafodaethau wedi bod yn cael eu cynnal gyda rhanbarthau Caerdydd, y Dreigiau, y Gweilch a'r Scarlets ar fframwaith cyllido chwe blynedd.

Dywed Mr Walker y bydd yna gytundebau newydd cyn diwedd ddydd Mawrth.

Mae Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (WRPA) wedi dweud nad yw streic yn amhosib os nad yw'r cytundebau wedi'u llunio mewn pryd.

Ond dywed Mr Walker y bydd cytundebau yn cael eu cynnig i chwaraewyr yr wythnos hon er nad yw'r ddogfen wedi cael ei harwyddo hyd yma.

"Mae'n ddogfen gymhleth," meddai. "Mae gennych bum endid. Maen nhw'n gweithio drwy'r manylion terfynol.

"Mae'r rhanbarthau eisoes yn sicrhau cytundebau cyn i'r ddogfen gael ei harwyddo. Mae hynny yn dangos yr hyder sydd yna y bydd y ddogfen yn cael ei harwyddo."

'Treulio pob awr posib yn pori'r dogfennau'

Ddydd Mercher diwethaf, daeth cadarnhad y byddai'r gêm Chwe Gwlad rhwng Cymru a Lloegr yn mynd yn ei blaen - dridiau'n unig cyn yr ornest.

Roedd y chwaraewyr wedi bygwth peidio chwarae os na fyddai materion yn ymwneud â chytundebau, a phryderon eraill, wedi'u datrys.

Fe gytunodd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB) i ostwng y 'rheol 60 cap' i 25, yn ôl dymuniad y chwaraewyr.

Roedd y rheol yn golygu nad oedd rhywun sy'n chwarae i glwb y tu allan i Gymru yn cael ei ddewis i'r tîm cenedlaethol os nad ydyw eisoes wedi ennill 60 cap.

Cytunodd y PRB hefyd i roi sedd i brif weithredwr y WRPA, Gareth Lewis, ar fwrdd y PRB.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r chwaraewyr wedi cyflwyno nifer o ofynion i benaethiaid rygbi

"Rwy'n deall rhwystredigaeth y chwaraewyr," medd Nigel Walker, gan ganmol capten Cymru, Ken Owens, am y ffordd y mae wedi delio â'r sefyllfa.

"Ry'n wedi cael nifer o sgyrsiau uniongyrchol ac fe fydden i'n dweud bod ein perthynas yn gryfach o ganlyniad gan ein bod yn ymddiried yn ein gilydd.

"Rwy'n ymddiried ynddo [Owens]. Fe ddywedodd wrtha'i be ro'dd y chwaraewyr eisiau ac rwy'n gobeithio ei fod e yn ymddiried ynof fi."

Mae cais wedi cael ei roi i'r rhanbarthau a'r WRPA am sylw.

Wrth ymateb ar Radio Wales dywedodd cadeirydd y Scarlets, Simon Mudderack: "Realiti pethau yw mai dros y penwythnos y derbynion ni'r dogfennau terfynol gan yr undeb a chredwch chi fi fe fyddwn yn treulio pob awr posib yn pori trwy'r dogfennau er mwyn cael cytundeb terfynol.

"Yn ein hachos ni, y Scarlets - dwi ddim yn gallu siarad am ranbarthau eraill - ry'n ni wedi nodi'n glir ers cyn y Nadolig yn y mwyafrif o achosion be mae'n chwaraewyr yn ei ddymuno neu yn ei wrthwynebu."