Mwy o gig oen o dramor yn 'hoelen arall yn yr arch'

  • Cyhoeddwyd
Phil Jones
Disgrifiad o’r llun,

Gallai mewnforio cymaint o gig effeithio ar ffermydd teuluol a dyfodol yr iaith Gymraeg, medd Phil Jones

Fe allai mwy o gig oen o dramor arwain at "gyflafan" ffermydd defaid yng Nghymru - dyna'r rhybudd plaen gan un o aelodau amlycaf Undeb Amaethwyr Cymru. 

Daw sylwadau Phil Jones, Cadeirydd Cangen Sir Gaerfyrddin o'r Undeb, yn dilyn cynnydd mewn mewnforion cig y llynedd, yn enwedig o Seland Newydd.  

Er bod 'na gytundebau masnach newydd, mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd ffermwyr Cymru'n cael eu gwarchod.

"Wi'n credu bod ni'n edrych trwy gil y drws ac yn gweld cyflafan yn cychwyn, mae yno ar y gorwel," meddai Mr Jones, sy'n ffermio 350 o ddefaid ar fferm Clyttie Cochion yn Llanpumsaint.

"Oherwydd bod Llywodraeth Prydain wedi gwneud cytundebau gyda Seland Newydd ac Awstralia, mae'r rheini wedi cytuno, mae 'na rai eraill ar fin cael cytundebau. Mae pris bwyd eisoes wedi syrthio bron i bunt y cilo. 

"Fi'n siŵr bod y Llywodraeth yn canolbwyntio'n fwy ar gostau tŷ lawr nag y maen nhw ar y gyfundrefn sy'n cynhyrchu bwyd.

"A'r peryg mawr maes o law, falle y daw 'na gyfnod pryd fydd na ddim diwydiant gyda ni yn y wlad hon - oherwydd bod e wedi cael ei wasgu'n ormodol o ran prisiau fydd hi ddim yn broffidiol i gynhyrchu mwy o fwyd."

Hoelen arall yn yr arch

Mae Undeb Amaethwyr Cymru'n cyfeirio at ffigyrau masnach Prydain (UK trade data) sy'n dangos cynnydd o 17% mewn mewnforion cig oen y llynedd, ac yn tynnu sylw at gynnydd anarferol mewn cynnyrch o Seland Newydd rhwng Medi a Thachwedd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna gynnydd o 17% mewn mewnforion cig oen y llynedd - yn enwedig o Seland Newydd rhwng Medi a Thachwedd

Maen nhw'n dweud bod pris cig oen sy'n cael ei gynhyrchu ym Mhrydain wedi gostwng 90c y cilo dros gyfnod o flwyddyn.

"Mae 'na ddigon o dystiolaeth i ddangos does 'na ddim llawer o fantais i Brydain yn hyn o beth... mae llawer yn fwy manteisiol i Seland Newydd ac Awstralia na bydd e i ni," meddai Phil Jones.

"A'n gofid mawr ni yw ydan ni am gadw ffermydd teuluol yng Nghymru. Odyn ni? Bydd hwn yn hoelen arall yn ein coffiniau ni. Ydan ni moyn cadw'r iaith Gymraeg yn fyw? Ma' chi hoelen arall o bosib."

Angen cefnogi ffermwyr Cymru

Ond i ba raddau all mwy o gig o dramor olygu prisiau is i gwsmeriaid? Mae Dave Calthorpe yn gigydd yn Cross Hands.

"Mae'r pris yn mynd lawr yn y supermarkets ond ddim yn y bwtsiars sy'n iwsio'r fferms lleol, a fi'n stryglan cael y pris lawr oherwydd mae'n mynd lan constantly oherwydd mae'r costs yn mynd lan.

"Fi moyn iwsio lamb o Gymru, nid o Loegr. Dwi isio cefnogi ffermwyr Cymreig. Os dwi ddim yn rhoi support i farmers dwi ddim yn gallu gofyn i bobol roi support i fi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae ffigyrau yn dangos bod pris cig oen sy'n cael ei gynhyrchu ym Mhrydain wedi gostwng 90c y cilo dros gyfnod o flwyddyn

Dywed Llywodraeth Prydain y bydd ffermwyr yn cael eu gwarchod gan fod y dreth ar fewnforion o Seland Newydd ac Awstralia'n gostwng yn raddol - dros gyfnod o bymtheng mlynedd.

Yn ogystal, bydd modd i ffermwyr o Gymru werthu mwy o gig dramor o ganlyniad i gytundebau masnach.

Am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd mae cig oen Prydeinig yn cael ei werthu yn yr Unol Daleithiau - marchnad fydd yn werth tua £37m dros y pum mlynedd nesaf.

O dan delerau'r cytundeb a Seland Newydd, fe fyddai gan Lywodraeth Prydain yr hawl i osod treth uwch ar gig defaid am hyd at 20 mlynedd wedi i'r cytundeb ddod i rym.

Fe gadarnhaodd y Llywodraeth mai'r cynnydd mewn mewnforion cig oen a defaid yn 2022 oedd 16.6%.