Rhigos: Cludo gyrrwr i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae ffordd fynyddig wedi ei chau wedi i yrrwr gael ei anafu dros nos.
Gadawodd y cerbyd yr A4061 Ffordd Rhigos, ger Treherbert yn Rhondda Cynon Taf, yn ystod oriau mân fore Sul.
Mae'r gyrrwr, nad yw ei gyflwr yn hysbys, wedi'i gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi eu hysbysu am y ddamwain am 03:55
Mae disgwyl i ffordd yr A4061, rhwng Treherbert a Hirwaun, i aros ar gau am beth amser yn ôl y llu.