Ateb y Galw: Yr actor Gwyn Vaughan Jones
- Cyhoeddwyd
Yr actor Gwyn Vaughan Jones, neu Yncl Arthur o'r gyfres Rownd a Rownd, sydd yn Ateb y Galw'r wythnos yma.
Mae Gwyn yn hannu o Flaenau Ffestiniog, aeth i Goleg y Normal ym Mangor ac yna i Goleg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.
Bu'n aelod o'r grŵp canu llwyddianus Hapnod yna bu'n gweithio gyda Cwmni Theatr Cymru, Theatr Gorllewin Morgannwg a nifer a gwmniau theatr am ddegawdau.
Mae Gwyn hefyd wedi gweithio ar nifer o gynhyrchiadau Theatr Clwyd sy'n cynnwys ei rôl fel Atticus Finch yn To Kill a Mockingbird a George yn Of Mice and Men.
Ymddangosodd yn Strife gan John Galsworthy yn Theatr Chichester yn 2016. Mae o wedi bod mewn sawl ffilm yn cynnwys Hedd Wyn ac mae hefyd yn Gyd-Gyfarwyddwr Cwmni Pen Productions Cyf ac yn noddwr i Ballet Cymru.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Fy atgof cyntaf ydi cael bath yn tŷ Anti Jos drws nesa. Doedd ganddo ni ddim bath yn tŷ ni, 'mond twb o flaen tân adeg hynny! Dwi'n cofio mam ac Anti Jos yn siarad efo'i gilydd ar eu traed wrth ymyl y bath, a ddim yn sbio arna i am sbel achos mi ro'n i yn chwarae'n hapus yn y dŵr. Wedyn dwi'n cofio'n hun yn llithro'n ara deg o dan y dŵr a sbio fyny efo'n llgadau dal ar agor a'i gweld nhw'n dal yn siarad yn braf.
Teimlodd fy amser o dan yr wyneb yn eitha hir, a wedyn dwi'n cofio'r panic ar eu gwynebau pan sylwon nhw mod i o dan y dŵr! Mae'n siwr mod i ond rhyw un oed! Fues i rioed yn nofiwr da… sgwn i pam?
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Gan mod i yn byw ym Mhendryndeudraeth erbyn hyn, ac wedi fy magu fyny'r dyffryn yn Blaenau, mae'n rhaid i mi gyfaddef fod yr ardal yma sef Bro Ffestiniog yn hoff le i mi. Ydi mae hi'n hardd yma, o hagrwch prydferth a syfrdanol Blaenau i lawr drwy goedwigoedd unigryw Maentwrog ac i aberau llydan ardal Deudraeth a'i pherl, Portmeirion, mae yma mewn prin 10 milltir bob dim i lonni calon unrhywun. Dyna pam fod cymaint o ail dai yma dicini! Ond peidiwch â gadael i mi ddechrau ar hynny!!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Dyma un o'r cwestiynau anoddaf o'r holl gwestiynau! Nosweithiau genedigaeth fy mhlant? Ia yn sicr. Nosweithiau lle bum yn perfformio a chael adwaith anhygoel? Do, buodd nosweithiau felly hefyd. Nosweithiau gyda ffrindiau yn yfed a chanu a chiniawa? Do, bu gormod o rheini.
Mae y cwestiwn yma yn creu yr un penbleth i mi a gofyn pwy oedd y pêl-droediwr gorau erioed. Does 'na ddim ateb call. Falla bod y noson ora' erioed yn angof beth bynnag.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Perffeithydd. Amyneddgar. Angerddol… ddim yn yr ordor yna o reidrwydd! A mi fyddai llawer yn anghytuno â mi!
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Falla bod y stori yma yn hir, ond dyma hi mor gryno a galla i!
Yn nechrau'r 70au daeth côr o Hwngari i aros yn Blaenau. Roedd Côr y Brythoniaid a nhw wedi partneru ac roedd y Brythoniaid eisoes wedi bod yn Budapest. Fe ddaeth y côr o Hwngari (ynghyd â thri aelod o'r KGB) i aros yng Ngwesty'r Pengwern Arms yn Llan Ffestiniog. Fe gafwyd amser bythgofiadwy o gyngherddau a nosweithiau cymdeithasol gyda'r corau. Fel diolch i nhad (fel arweinydd y Brythoniaid) am yr amser amhrisiadwy yng Nghymru, fe benderfynodd yr Hwngariaid fynd i tŷ ni ar eu noson olaf yng Nghymru fel syrpreis, a chanu tu allan i'r tŷ - llond bws ohonnyn nhw!
Yn anffodus roedd mam a dad a fi wedi mynd allan y noson honno, gan adael fy mrawd bach Gareth ar ei ben ei hun yn tŷ. Roedd o wedi disgyn i gysgu o flaen y teli pan ddechreuodd y côr ganu. Ni chafodd y côr unrhyw adwaith ar ôl gorffen, er bo nhw'n gweld y golau mlaen a chlywed y teli, felly dyma nhw'n penderfynu canu cân arall... yn uwch tro yma! Hanner ffordd drwy yr ail gân dyma Gareth yn deffro, a mynd i'r drws i weld be' oedd y sŵn.
Pan ddychwelodd mam a dad a fi yn ôl i'r tŷ, aethon ni fewn a chael andros o sioc gweld 45 o ddynion mewn siwtiau du yn sefyll ac eistedd ym mhob twll a chornel yn yr ystafell ffrynt a Gareth (10 oed) yn eistedd yn eu canol. Bu lot o ysgwyd llaw a chofleidiau a dyma'r côr yn penderfynu mynd allan a chanu eu caneuon o ddiolch unwaith eto. Mae 'na wên go fawr bob tro fyddai yn cofio am Gareth a Chôr Gwaith Tungsten o Budapest yn ein sdafell ffrynt ni.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Y tro cynta i mi fod yn arweinydd cyngerdd, a sylweddoli yn reit fuan nad oedd hyn y 'peth' i mi! Mi roeddwn i yn hollol allan o'n comfort zone a nes i gasau pob eiliad. Fyddai'n dechra chwysu bob tro dwi'n meddwl am y noson, ac yn siomedig efo fi fy hun bo' fi mor anobeithiol am ddweud jôcs o flaen cynulleidfa. Dyna pam dwi erioed wedi derbyn arwain noson ers hynny. Na'i ddim deud lle oedd y noson, na phryd oedd hi, rhag ofn fod rhywun yn cofio fy fflop fawr gyhoeddus!!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Bron bob tro dwi'n gadael tŷ fy mam, a sylweddoli fod ei chof yn chwalu. Mam oedd yn cofio pawb a phob dim, a phwy oedd yn perthyn i hwn a hon. Mae'r henaint 'ma yn fusnes creulon... a'r gefnogaeth mor annigonol. Mae gweld ein nyrsus a'n gofalwyr yn trio'u gorau glas mewn system sydd wedi malu yn gwneud i filiynau grio bob dydd.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Trio'n rhy galed falla a thorri planhigion ar yr adeg rong o'r flwyddyn! Mi oeddwn i'n arfer cnoi fy ngwinedd a'r croen o'u cwmpas (sy'n arferiad drwg iawn) a mi ofynnodd fy mam i Dr Pritchard a oedd gynno fo rhywbeth i sdopio fi rhag cnoi… a dyma fo yn deud yn reit onest "nagoes wir Mrs Jones bach - dwi'n cnoi rhai fy hun".
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Luciano Pavarotti yn sicr. Dwi wedi bod yn ffan mawr ers o'n i'n ifanc. Hoffwn i gael gwers canu ganddo fo, a wedyn powlen fawr o pasta a photel neis o win, a siarad am ganu a ffwtbol drwy'r nos! Fe gafodd fywyd lliwgar a chythryblus - fedra i werthfawrogi hynny.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Fy hoff lyfr neu gyfres o lyfrau ydi nofelau Jo Nesbo, yr awdur o Norwy. Dwi'n hoff iawn o thrillers a mae'r awduron Scandinafaidd yn wych ar eu 'sgwennu. Fydda i yn mynd i Norwy yn aml gan fod fy mhartner yn dod o orllewin y wlad, o bentref wrth ymyl dinas Stavanger, lle mae'r nofelau wedi'u gosod. Dwi'n hoff iawn o fod yno a gweld y llefydd mae Harry Hole y ditectif yn y gyfres wedi ei droedio, a phrofi'r wlad anhygoel honno. Syndod i mi ydi'r gwrthgyferbyniad o wlad mor heddychlon ac eto efo nofelau mor dreisgar. Yn naturiol mae fy hoff lyfrau a ffilmiau yn newid yn aml, fel mae chwaeth rhywun yn newid, ac fel treigl amser.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Yn ffeinal Cwpan Pêl-droed Ieuenctid Gogledd Cymru yn 1974... Ieuenctid Blaenau v Llandudno Swifts - nes i sgorio foli hyfryd (o du allan y bocs) yn erbyn Neville Southall a oedd yn golwr iddyn nhw. Clêm to ffêm!! Yn anffodus gollon ni y gêm 2-1. Es i i Goleg y Normal ac aeth Southall i Everton!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Dwn i ddim wir! Ond os mai marw o henaint ydw i yna mynd yn fy ngwsg fyddai'r gorau i'w ddymuno - ond os dwi yn mynd i gael fy nifa gan gomet neu gan rhyw feirws marwol yna mi fyddwn yn gafael mewn potel o Penderyn a cherdded i ben y Moelwyn Mawr a chanu be bynnag fedrwn i gofio nerth fy mhen a chodi dau fys ar beth bynnag sydd yn dod a diolch am yr holl bobol sydd wedi cyfoethogi fy mywyd, a'r profiadau dwi wedi gael. Os digwydd i'r comet fethu - yna mi a'i adra i ngwely a chysgu fel mochyn, a chael cythraul o hangover ar y diwrnod ar ôl diwedd y byd. Wel, be o'n i'n ddisgwyl!
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun ohona i a nhad pan o'n i tua 6 oed. Roedd fy nhad a fi yn agos iawn ac ein dau yn gerddorion. Nhad yn arwain Côr y Brythoniaid ac yn ganwr, minnau yn aelod o Fand Arian yr Oakeley ac yn canu tipyn hefyd. Ges i'n nhrwytho mewn cân a chorau gan fy nhad a mae'r Brythoniaid wedi bod yn soundtrac fy magwriaeth cynnar. Dyma un o'r ychydig luniau ohonom efo'n gilydd sydd gen i a dwi yn ei drysori. A dwi isio i bawb weld fy nghlustiau sdicio allan hefyd - diolch byth bo nhw wedi sythu tipyn erbyn hyn!
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Dwi'n meddwl y buaswn yn hoffi treulio'r diwrnod efo fi fy hun yn hogyn bach. Falla tua 10 oed. Mynd â fi am dro ar hyd fy hen lwybrau (rhai fydd o wedi troedio eisoes) a trio ei rybuddio o beth fydd o'i flaen. Bydd rhannu be' dwi'n wybod yn amhrisiadwy yn ei fywyd. Y pethau da a'r drwg. Y gwersi anodd a'r pleserau, a'r math o bobol i'w hosgoi a'r rhai i'w hanwesu. Falla bod hynny yn swnio'n wirion ond iesgob mi fasa'n ni gyd yn gneud petha'n wahanol os bydda ni yn gwybod adeg hynny be' 'da ni'n wybod rŵan.
Hefyd o ddiddordeb: