Vulcana: Y fenyw gref o'r Fenni

  • Cyhoeddwyd

Ydych chi wedi clywed am Kate Roberts, y fenyw gref o'r Fenni? (nid i'w chymysgu â Kate Roberts yr awdur...)

Roedd Kate, neu Vulcana, o roi ei henw llwyfan, yn ddynes gref (strongwoman) broffesiynol, a deithiai'r byd yn dangos ei doniau a'i chryfder.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin

Ganwyd Miriam Kate Williams tua 1875, yn ferch i bregethwr o Iwerddon. Nid yw'n glir yn lle y ganwyd hi, ond erbyn cyfrifiad 1881, roedd hi'n byw â'i theulu yn Aberdâr, ac yn hwyrach yn Y Fenni.

Roedd sôn ei bod hi wedi bod yn gryf erioed - mae straeon ei bod hi wedi cario organ ei hysgol ar ei phen ei hun, ac wedi atal ceffyl ar ffo ym Mryste pan oedd hi'n 13 oed.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, dechreuodd hyfforddi yng nghampfa William Hedley Roberts yn Y Fenni, a oedd yn cynnal sioeau acrobatig ac arddangos cryfder.

Ffynhonnell y llun, Official Atlas & Vulcana Archive
Disgrifiad o’r llun,

Vulcana yn codi dynes uwch ei phen, ag un fraich! Mae tystiolaeth gan gynulleidfaoedd yn dweud ei bod yn medru codi dyn 12 stôn yr un ffordd

Syrthiodd y ddau mewn cariad, ac er ei fod ddeng mlynedd yn hŷn na hi, ac yn briod, penderfynodd y ddau redeg i ffwrdd â'i gilydd. Ymddangosodd y ddau gyda'i gilydd mewn sioe yn Llundain yn 1892, a dyna ddechrau ar ei gyrfa broffesiynol fel Vulcana.

Dechreuodd y ddau berfformio mewn theatrau cerdd fel Vulcana ac Atlas, yn cyflawni campau o gryfder aruthrol. Gan fod William yn briod, ni allodd y pâr briodi erioed, ac er mwyn osgoi sgandal, roedden nhw'n honni eu bod yn frawd a chwaer, a oedd yn ychwanegu naws o chwedloniaeth i'r cwpl cryf.

Vulcana, yn sicr, a oedd yn denu'r tyrfaoedd i'w sioeau - roedd hi'n eithradol o gryf, ond hefyd yn brydferth iawn. Nid oedd yna gymaint o ferched cryf yn perfformio, o'i gymharu â dynion cryf, ac roedd gorchestion Kate yn anhygoel.

Roedd hi'n enwog am allu codi dyn maint llawn uwch ei phen gydag un law. Un o'i champau enwocaf oedd Tomb of Hercules, ble'r oedd hi'n plygu am yn ôl ar ei phedwar, roedd darn o bren yn cael ei osod ar ei habdomen, ac yna dau geffyl a dyn yn sefyll arno!

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Erthygl yn Yr Herald Cymraeg yn canmol sioe Vulcana ac Atlas yn Lerpwl, 27 Medi 1904

Ynghyd â pherfformio ledled y Deyrnas Unedig, roedd Vulcana ac Atlas hefyd yn perfformio ar draws Ewrop a hyd yn oed yn Awstralia. Enillodd hi hefyd dros 100 o fedalau am godi pwysau yn ystod ei gyrfa.

Arloesol

Roedd hi'n anarferol iawn yn yr Oes Fictoriaidd fod gan ddynes yrfa o gwbl, heb sôn am yrfa fel yr un yma. Ond llwyddodd i gynnal gyrfa a magu ei theulu yr un pryd - roedd gan William a hi chwech o blant, heb i unrhyw un sylweddoli nad oedden nhw'n frawd a chwaer wedi'r cyfan!

Dyma ddynes arloesol o gyfnod ble nad oedd gan fenywod lawer o hawliau, na bywyd oedd yn llawer mwy na chadw tŷ. Roedd llawer o erthyglau amdani ble'r oedd hi'n annog merched i wneud ymarfer corff er lles eu hiechyd. Roedd hi hefyd yn cefnogi'r mudiad dillad synhwyrol i ferched, a oedd yn ymgyrchu yn erbyn dillad peryglus a thynn i ferched, fel y staes (corset).

Ffynhonnell y llun, Official Atlas & Vulcana Archive
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhai o wisgoedd perfformio Vulcana yn fwy addurnedig a 'benywaidd', a oedd yn rhoi argraff wahanol i 'godi pwysau'

Gweithiodd yn y byd perfformio tan yr 1930au, ond yn anffodus, yn 1939, cafodd ei tharo gan gerbyd yn Llundain a derbyn niwed difrifol i'w hymennydd. Er nad oedd ei bywyd hi'r un fath wedi hynny, goroesodd tan 1946, pan fu farw ychydig fisoedd ar ôl ei phartner a'i merch ieuengaf.

Heddiw, mae'n cael ei chofio fel arloeswraig yn y byd perfformio a chryfder, a ffeminydd a geisiodd newid rôl merched mewn cymdeithas.

Pynciau cysylltiedig