Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Yr Alban 35-7 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Yr Alban / CymruFfynhonnell y llun, LEE SMITH
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Liam Williams gerdyn melyn a'r Alban yn manteisio ar y ffaith fod Cymru ddyn yn brin am gyfnod

Un tîm yn unig oedd yn y gêm brynhawn Sadwrn - a'r rhai mewn glas oedd y rheiny.

Roedd hi'n berfformiad hynod siomedig gan Gymru, gafodd eu sgubo i'r naill ochr yn llwyr gan bump cais yr Alban.

Hynny yn dilyn colled siomedig arall yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn diwethaf, wrth i Gymru gyfarwyddo gyda thîm hyfforddi newydd.

"Y perfformiad gwaethaf gan Gymru dan Gatland erioed" oedd disgrifiad y cyn chwaraewr rhyngwladol, Gwyn Jones, wedi'r gêm yn rhan o'r sylwebaeth ar S4C.

Wrth i fwlch agor yn y munudau cyntaf, Yr Alban fanteisiodd ac anelu am y llinell gais, ond roedd angen rhywfaint mwy o ddyfnder.

Funudau wedyn, sicrhau triphwynt wnaeth maswr y tîm cartref, Finn Russell, a chic gosb lwyddiannus arall yn ddiweddarach.

Roedd cyfle gan Biggar i sicrhau pwyntiau ond methu'r pyst wnaeth ar ôl ugain munud gyda chic gosb.

Ffynhonnell y llun, Ross MacDonald - SNS Group / SRU
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Finn Russell gryn argraff gyda'i basio a chicio

Wrth i'r momentwm gynyddu, amheuaeth am gais gan yr Alban, ond sicrwydd ar ôl trafodaeth gan y dyfarnwr fod George Turner wedi croesi'r llinell. Finn Rusell yn llwyddo gyda'r trosiad.

Funudau'n ddiweddarach, Turner yn cael ei anfon o'r cae am dacl uchel ar George North.

Ac yna, cais i Gymru o'r diwedd a'r Crysau Cochion â chyfle yn y gêm diolch i Ken Owens a throsiad Biggar - y sgôr ar yr hanner yn 13-7.

Ffynhonnell y llun, Craig Williamson - SNS Group / SRU
Disgrifiad o’r llun,

Er y canlyniad, roedd 'na gefnogwyr o Gymru'n dal i wenu

Doedd y cyfle i adlewyrchu yn yr ystafell newid yn ystod hanner amser ddim yn fawr o help i Gymru.

Fe ddaeth yr Alban allan i ymestyn y bwlch ar y sgorfwrdd, gyda dau gais gan Kyle Steyn ac un trosiad gan Finn Russell.

Rhwng y ddau gais - cerdyn melyn i Liam Williams - a'r Alban yn manteisio ar gyfleoedd gan fod Cymru ddyn yn brin.

Roedd hi'n amlwg fod gobeithion am fuddugoliaeth ar ben i Gymru, felly ceisio adennill parch oedd yr unig ddewis.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe lwyddodd Kyle Steyn gyda dau gais yn yr ail hanner

Ond pasio celfydd yr Albanwyr yn sgubo Cymru o'r neilltu gyda chais gan Blair Kinghorn. Finn Russell yn methu'r trosiad.

Wrth i'r gobeithion bylu, fe ddaeth fflach o gyffro a Rhys Carre'n cario'r bêl at y llinell. Ond methu o drwch blewyn wnaeth yr ymgais.

Russell ar garlam ar hyd y cae a rhagor o gyfleoedd i'r Alban. Funudau cyn y chwiban olaf ac un cais arall i'r tîm cartref.

Matt Fagerson ddaeth â'r pumed cais i'r Alban wedi pas gan Finn Russell.

Eiliadau'n unig cyn y chwiban olaf, cerdyn melyn i Rhys Webb, a'r sgôr terfynol yn 35-7.

Pynciau cysylltiedig