Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-0 Southend

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Wrecsam yn parhau ar frig y Gynghrair Genedlaethol ar ôl trechu Southend o gôl i ddim ar y Cae Ras.

Daeth gôl Wrecsam tua diwedd yr hanner cyntaf wedi i golwr Southend, Steve Arnold wneud camgymeriad wrth ymateb i groesiad gan Ben Tozer, gan roi'r bêl yn ei rwyd ei hun.

Mae'n golygu eu bod wedi gosod record newydd i'r clwb trwy chwarae 25 gêm gynghrair heb golli.

Maen nhw hefyd wedi ennill 17 o'r 18 gêm gartref ddiwethaf.

Bu'n rhaid i swyddogion glirio eira o'r cae er mwyn sicrhau bod y gêm yn gallu mynd yn ei blaen.

Mae Wrecsam bellach ag 91 o bwyntiau ar frig y tabl.