Treulio 24 awr yn yr eira i helpu cyn-filwyr digartref
- Cyhoeddwyd
Fe fyddai tywydd gaeafol y dyddiau diwethaf wedi atal llawer rhag mentro i'r awyr agored, ond i'r rhai oedd yn digwydd bod yn Nyffryn Ogwen dros y penwythnos diwethaf fe fyddai wedi bod yn gyfle i ddysgu am gysylltiadau lleol â'r Ail Ryfel Byd.
Er yr eira, fe dreuliodd dyn ifanc o Ben Llŷn 24 awr ar lan Llyn Ogwen a chysgu dros nos mewn pillbox - hen safle amddiffynnol concrid - fel rhan o ymgyrch codi arian i helpu cyn-filwyr digartref.
Mae gan Morgan Owen - sy'n 23 oed ac o Frynmawr, ger Sarn Mellteyrn - ddiddordeb arbennig yn hanes y Gwarchodlu Cartref, ac roedd yn gwisgo iwnifform y gwarchodlu gwirfoddol drwy'r her.
Y bwriad oedd rhoi syniad o sut y byddai'r safle wedi edrych pan gafodd ymarferion eu cynnal gan wirfoddolwyr lleol ar benwythnosau yn y 1940au, a gan filwyr yn ddiweddarach wrth i'r rhyfel fynd rhagddo.
"Gath pillbox Llyn Ogwen ei adeiladu yn 1940 i edrych dros y llyn a stopio'r Germans rhag landio ar y llyn," meddai.
Roedd yna ofnau ar y pryd, meddai, wedi i'r Natsïaid feddiannu Ffrainc, yn bydden nhw'n ceisio ymosod ar ddinasoedd fel Lerpwl o gyfeiriad Iwerddon.
Roedd yn bosib hefyd i gadw golwg "ar ddau roadblock o flaen Llyn Ogwen" - ar yr A5 ble mae yna gilfach barcio mawr erbyn hyn.
Fel ymchwilydd gyda chynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau mae Morgan yn casglu hanesion lleol yn ymwneud â'r Ail Ryfel Byd.
Mae'n trefnu sgyrsiau ac arddangosfeydd mewn amgueddfeydd lleol - a theithiau cerdded, yn ei iwnifform, yn Nyffryn Ogwen. Fe helpodd hefyd gyda gwaith atgyweirio i'r pillbox.
Mae hefyd yn aelod o grŵp hanes y Gwarchodlu Cartref yng Nghilgwri sy'n ail-greu golygfeydd o gyfnod y rhyfel, casglu hanesion a chofnodi a gwarchod safleoedd perthnasol.
Roedd aelod arall o'r grŵp, David Browne, yn gwmni iddo ar lan Llyn Ogwen, fel rhan o'r Great Tommy Sleep Out sy'n cael ei gynnal gan y Lleng Brydeinig trwy fis Mawrth.
"Ar ôl i'r eira stopio, tua chwech o'r gloch nos Sadwrn, nath y gwynt godi a roedd yna ddipyn bach o ddŵr ar y llawr," meddai Morgan.
"Tua saith o'r gloch nathon ni benderfynu setio'r gwely a'r sleeping bags i fyny."
"Roedd hi'n damp ac yn oer, - tua -4C neu -5C. Nes i lwyddo i ga'l nap bach o ryw dair awr! Roeddan ni'n benderfynol o neud y challenge 'ma."
Dywedodd ei fod yn "cl'wad sŵn y dŵr yn dod i mewn" ond roedd meddwl am y cyn-filwyr a fydd yn elwa o'r ymgyrch yn ei ysgogi i gyflawni'r her - hynny a "cadw'r cof am y Home Guard".
Er mwyn cadw'r amodau mor driw â phosib i'r rhai'r 1940au, "bwyd rations, paraffin heater a cooker bach gas" wnaeth gynnal y ddau wersyllwr drwy'r her.
Roeddan nhw hefyd wedi dod ag arfau - "bayonet, dau reiffl a bren light machine gun" - i'w dangos i unrhyw ymwelwyr oedd yn digwydd galw draw.
"Yn anffodus, nath hi ddechra' bwrw eira pan oeddan ni am eu cario nhw o'r car - roedd hi'n anodd cario petha' trwm,felly roedd rhaid iddyn nhw aros yn y car," meddai Morgan.
Diddordeb oes
Dywed Morgan bod ei ddiddordeb mewn hanes lleol wedi dechrau pan roedd ond yn bump oed.
Yn ei arddegau, roedd ei fam yn gweithio yng nghanolfan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Bwthyn Ogwen.
Cafodd i gyfareddu o glywed am yr hyn a ddigwyddodd yn yr ardal adeg yr Ail Ryfel Byd ond roedd yn synnu bod "dim plac" i nodi arwyddocâd ambell safle.
Nawr yn ddyn ifanc mae ei waith yn rhoi cyfle iddo daflu goleuni ar yr holl hanes - a chasglu straeon am brofiadau rhyfel hen berthnasau unigolion sy'n dod i wrando ar ei sgyrsiau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2020