Ateb y Galw: Sian Llywelyn

  • Cyhoeddwyd
Sian LlywelynFfynhonnell y llun, Sian Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Sian Llywelyn

Sian Llywelyn o Benrhyndeudraeth sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl cael ei henwebu gan Gwyn Vaughan Jones wythnos diwethaf.

Wedi dros 15 mlynedd o ddysgu Cymraeg a Saesneg yn Ysgol Ardudwy ac fel pennaeth ail iaith yn Llanfyllin mae Sian bellach yn astudio doethuriaeth mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor.

Mae ganddi ddwy nofel ffantasi, Drychwll (2020) a Darogan (2022), i'w henw ac mae hi'n berson hynod weithgar o fewn cymuned ei milltir sgwâr ym Mhenrhyndeudraeth.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Eistedd yn fy nghadair uchel rhyw fore Sadwrn a herio fy hun i daflu plât ar lawr. Rhoi gwth iddi oddi ar y bwrdd bach a'i gweld yn malu'n deilchion. Mi ddaeth fy mam o rywle a dweud y drefn yn ofnadwy efo'i bys yn fy ngwyneb. Teg dweud na wnes i fy herio fy hun i wneud y ffasiwn beth ar ôl hynny gan fy mod i wedi dychryn am fy mywyd efo'i hymateb hi!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Fy nghartref ym Mhenrhyndeudraeth a Phenrhyn ei hun. Dyma'r gymuned lle'm magwyd a dwi'n falch mod i wedi dychwelyd iddi ers 2020. Dwi wedi byw bron i 20 mlynedd mewn llefydd eraill, ac mae hynny wedi llwyddo i'm perswadio mai ym Mhenrhyn rydw i i fod. Fel arall, Castell y Bere, de Meirionydd. Lleoliad anhygoel nad oeddwn i'n gwybod dim amdano tan rhyw bum mlynedd yn ôl, o gywilydd i'r system addysg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr aber rhwng Penrhyndeudraeth a Harlech

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Prague, Gorffennaf 2006. Mi es yno am bump noson ar fy mhen fy hun i aros mewn hostel i bobl ifanc, gwneud ffrindiau o'r Iwerddon, Sweden a Chalifornia a chael andros o amser da. Roedd y tair noson olaf a dreuliais yno yn wych a dweud y gwir. Mi ddysgais fod y rhan fwyaf o bobol, dim ots o le mae nhw'n hannu, yn bobol iawn yn y bôn. Mae pobl annifyr y ddaear 'ma yn y lleiafrif go iawn, diolch byth. Mae'r ffaith i mi fynd ar fy mhen fy hun hefyd wedi fy ngorfodi i gymdeithasu efo'r bobl ifanc eraill oedd yno. Y peth gorau a wnes i erioed.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Gobeithiol, prysur, cenedlaetholgar.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Yr wythnos honno ym Mhrague. Hefyd y pedwar diwrnod a dreuliais fy hun ym Mwdapest yn 2016. Mae'n bwysig teimlo'n ddigon cyfforddus yn eich cwmni eich hun i fedru teithio i lefydd pell. Fel 'na mae dod i'ch adnabod eich hun. Mae cofio am y pethau doniol roedd plant fy chwaer yn eu gwneud pan roedd y ddwy yn fach yn gwneud i mi chwerthin bob tro hefyd. Cesys a hanner, y ddwy ohonyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Budapest

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'm yn deud!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Pan ges i Covid ynghanol Mawrth ro'n i'n gwylio rhaglen ddogfen o'r enw Finding Michael. Roedd Spencer Mathews wedi trefnu bod tîm yn mynd i chwilio am gorff ei frawd, Michael, rywle ar Everest. Roedd o wedi bod yno ers 20 mlynedd. Yr hyn trawodd fi oedd bod cymaint o gyrff yno ynghanol y rhew a'r eira ers degawdau lawer a neb yn medru gwneud dim i'w cael adref. Mi ddaethant o hyd i gorff rhywun arall yno a dychwelyd hwnnw at ei deulu, ond nid corff Michael ei hun yn anffodus. Fel arfer, faswn i ddim yn mynd yn deimladwy wrth wylio rhywbeth fel hyn, ond gan fy mod i mewn gwendid beth bynnag, mi ddaeth y dagrau'n reit hawdd.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Mae gen i natur ddiamynedd os rydw i wedi blino, a dwi'n dueddol o'i ddangos o pan na ddyliwn i. Mae 'nghymeriad i'n anghyson iawn o'r herwydd.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Mae hi'n amhosib ateb y cwestiwn yna o ran ffilm. Mae gen i ffefrynau o drioleg ers yn blentyn - Back to The Future, Indiana Jones, Star Wars, Harry Potter, Lord of The Rings. Ond dwi'n meddwl mai fy hoff lyfr yn Gymraeg ydy Seren Wen ar Gefndir Gwyn gan Robin Llywelyn. Yn fwy na dim oherwydd y dychymyg anhygoel a'r arddull wreiddiol fyrlymus.

Y llyfr a gafodd fwya' o effaith arna i yn Saenseg oedd The Da Vinci Code gan Dan Brown.

O ran podlediad, mae Yr Hen Iaith gan Jerry Hunter a Richard Wyn Jones yn andros o addysgiadol ac yn un y dylid ei ddefnyddio fel ffynhonell werthfawr ar gwricwlwm ysgolion Cymru. Un arall dwi'n falch iawn ohono ydy Troseddeg efo Teg ag Al. Dwi'n ffrindiau efo'r ddau a dwi'n andros o falch mai nhw sydd wedi cyhoeddi'r podlediad cyntaf ar y ddaear i drafod troseddeg yn Iaith y Nefoedd. Mae potensial mawr i gyfres o'r fath.

Disgrifiad o’r llun,

Back to The Future - un o hoff ffilmiau Sian

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n medru sgwennu tu ôl ymlaen, a mi fedrwch chi ei ddarllen y ffordd gywir yn y drych. Mi ddysgais sut i wneud hynny pan ro'n i'n fach mewn llyfr posau un ai Siwperted neu Wil Cwac Cwac. Dwi dim yn cofio'n iawn pa un erbyn hyn.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Ellis Wynne, Y Bardd Cwsg. Mi fues yn gweithio fel tywysydd yn y Lasynys Fawr, Harlech, sef ei gartref pan roeddwn yn y Brifysgol, ac rwyf ar bwyllgor Cyfeillion Ellis Wynne ers 2021. Mi faswn i wrth fy modd yn tyrchu i'w ddychymyg o. Mi faswn i wrth fy modd yn gweld sut bryd a gwedd oedd ganddo gan nad oes llun ohono wedi dod i law hyd yn hyn. Mi ysgrifenodd o un o'n darnau gorau o lenyddiaeth a dwi'n pryderu'n fawr ei fod yn llithro i ddifancoll o ymwybyddiaeth y genedl.

Ffynhonnell y llun, Sian Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Lasynys Fawr, Harlech

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cysylltu efo pawb sy'n bwysig i mi a sicrhau eu bod yn deall faint dwi'n eu gwerthfawrogi nhw. Tydw i ddim yn un i rannu teimladau am bobl efo pobl, felly dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig gwneud yn siŵr eu bod nhw'n deall sut dwi'n teimlo! Mi fasa fo'n andros o fil ffôn, ond fyddai na'm otsh!

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Llun o fy milltir sgwar wedi ei dynnu o ben bryn uchel rhwng Penrhyn a Maentwrog. Pen y Gysgfa ydy enw'r bryn, ac mi rydw i wrth fy modd yn mynd yno. Mae'r Afon Ddwyryd i'w gweld yn glir, a gallwch weld i lawr tuag at Harlech, fyny'r arfordir at Borth y Gest, a rownd at Eryri wedyn, a'r Cnicht y tu ôl i chi, a'r Moelwynion, wedyn y Rhinogydd yn ôl at yr arfordir. Pinacl mynd am dro go iawn!

Mi dynnais y llun yma ar ôl symud yn ôl i Benrhyn ddwy flynedd yn ôl. Mae'r enw Pen y Gysgfa'n awgrymu i mi bod rhywun neu rywrai pwysig wedi eu claddu yno rywdro, ac mae o'n agos iawn at Drwyn y Garnedd. Mae cymaint o goed yn tyfu yno rwan, mae dod o hyd i olion yn anodd mae'n siŵr, ond mae 'na ryw deimlad cynhanesyddol yn perthyn i'r lle.

Ffynhonnell y llun, Sian Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa o Ben y Gysgfa

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Ateb 1 - Fi fy hun yn blentyn unwaith eto - roedd y ffasiwn egni gen i, a doedd na'm pall ar y chwarae yn y coed, ac adeiladu ffau efo'n chwaer a'n ffrindiau a rwdlian a bod yn hapus. Roedden ni'n teimlo'n hollol saff a hapus, a dim math o gyfrifoldebau ar ein sgwyddau ni!

Ateb 2 - Un o'r ddwy gath s'gen i. Mi faswn i wrth fy modd yn cael gwybod yn iawn be' gebyst sy'n mynd drwy eu meddyliau nhw. Mae nhw'n anifeiliaid clyfar a chall tu hwnt, ac mae'r ddwy sydd gen i yn hoff iawn o gwmni pobol. Mae nhw'n cysgu tipyn hefyd a mi fasa'n ddiddorol gwybod be' mae nhw'n ei freuddwydio. Mae gen i fyd efo breuddwydion beth bynnag.

Hefyd o ddiddordbeb: