'Dwi eisiau ysbrydoli pobl i beidio colli calon'
- Cyhoeddwyd
Newidiodd bywyd Dafydd Edwards o Flaenau Ffestiniog yn sydyn iawn pan gafodd waedlif difrifol ar ei ymennydd yn 2000.
Wedi cyfnod hir mewn coma mi gollodd y gallu i siarad, i gerdded, i adnabod ei deulu ac i wneud tasgau arferol bywyd pob dydd.
Dywedodd meddygon wrtho na fyddai modd iddo wella'n gyfan gwbl wedi'r trwmgwsg.
Ond mi ddyfalbarhaodd Dafydd, 53, wedi'r ergyd aruthrol yma i'w fywyd a rŵan, wedi 15 mlynedd o salwch, mae wedi cael gwobr Prentis y Flwyddyn gan Grŵp Llandrillo Menai oherwydd ei waith gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
"Fedra i ddim disgrifio sut dwi'n teimlo ar ôl curo ffasiwn beth," meddai Dafydd wrth Aled Hughes ar Radio Cymru. "O'n i byth yn meddwl 'swn i'n gallu gwneud rwbath fel hyn ar ôl bod mor wael yn 2001 pan ddes i adra o'r ysbyty."
Mae o rŵan yn gweithio fel Swyddog Datblgu Technoleg yn Ysbyty Gwynedd ac yn awyddus i barhau i ddysgu ac ysbrydoli eraill.
"Dwi jest isio cario mlaen i ddysgu. Ers yr hemorrhage 'ma dwi'n teimlo fel mod i jest isio dysgu trwy'r amser."
'Fuodd rhaid i fi roi'r gorau i fy ngwaith'
Ar un cyfnod mi fyddai parhau i weithio, heb sôn am ennill gwobr o'r fath, wedi teimlo'n amhosib i Dafydd.
"Wnaeth o i gyd ddechrau yn 1994 pan o'n i'n dechrau cael ffitiau a fuodd rhaid i fi roi fy ngwaith i fyny fel weldar yn Warrington," meddai.
"Wnaeth hynna gymryd fy leisans ddreifio oddi wrthof i. O'n i'n gorfod stopio gweithio oherwydd be o'n i'n gwneud o ran gwaith."
Dywedodd doctoriad wrtho ar y pryd fod ganddo epilepsi. Ond er iddo gymryd meddyginiaeth i drin y cyflwr am rai blynyddoedd, fe waethygodd pethau un noson yn 2000.
"Ges i andros o ffit yn fy ngwely. Ddoth fy ngwraig i fyny rhyw awr neu ddwy ar ôl i a ffeindio fi yno yn cael ffit. O'n i hefyd wedi bod yn cyfogi," meddai Dafydd.
"Wnaeth 'na arbenigwyr ddod lawr o'r Neurological Centre yn Walton a wnaethon nhw gadarnhau bo fi wedi dioddef efo gwaedlif ar fy ymennydd."
Cropian cyn cerdded
Cafodd y gwaedlif ei achosi gan Arteriovenous malformation (AVM) - sy'n effeithio ar bibellau gwaed sy'n cysylltu â'r gwythiennau gan amharu ar lif gwaed a chylchrediad ocsigen.
Yn dilyn y coma bu rhaid i Dafydd ddysgu ei hun sut i fyw eto ac mae'n dal i fyw gyda'r effeithiau heddiw.
"Mi ddes i rownd yn y diwedd ond do'n i ddim yn adnabod neb.
"Roeddwn yn gorfod dysgu sut i gerddad, sut i siarad, bwyta, i yfed - bob dim. Fel mae babi yn gorfod gwneud mewn ffordd.
"Roeddan nhw yn mynd â fi yn ôl a 'mlaen rhwng Bangor a Lerpwl am gyfnod, ac oherwydd roeddwn i mor wael roeddan nhw yn cael yr heddlu i fynd â fi drwy'r twnnel ym Merswy yr holl ffordd i ysbyty Walton."
Hyd heddiw mae Dafydd yn dal i ddioddef o diplopia (double vision) ac mae ganddo broblemau gyda'i falans a'i gof.
"O'n i yn teimlo ar ôl yr hemorrhage bo fi yn desparate i fynd nôl i weithio a'r unig ffordd roeddwn yn gallu gwneud hynna oedd drwy ddefnyddio ffon gerddad.
"Do'n i ddim yn gallu mynd yn ôl i fy ngwaith i fel weldar felly nes i benderfynu mynd i weithio fel gofalwr.
"Dwi'n cofio mynd am gyfweliad i'r cartref gofal yng Nghaernarfon a chael swydd yn fanna. Cyn mynd mewn i gwaith yn y dechrau roeddwn yn cuddio'r ffon fel doeddan nhw ddim yn gweld fod gen i anabledd.
"Dyna be oedd yn anodd - o'n i yn gorfod cuddiad hynna."
Ond er yr heriau, mi serennodd Dafydd yn ei rôl ac ar ôl dwy flynedd yng nghartref Gofal Bryn Seiont yng Nghaernarfon yn 2017 fe gafodd swydd gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn yr adran Gofal Lliniarol.
"Fues efo nhw am chydig o flynyddoedd cyn symud ymlaen i adran profi Covid lle ges i flas o waith gweinyddol a gwaith technoleg a gwybodaeth.
"Nes i ddechrau gwneud prentisiaeth ar gyfer rôl rheoli a nes i gwblhau yn 2023 a nes i ennill Prentis y Flwyddyn."
Cerddoriaeth yn procio'r cof
Oherwydd y gwaedlif mae 'na lawer o atgofion na chaiff Dafydd yn eu hôl, ond yn rhyfeddol mae rhai yn cael eu tanio weithiau gan bethau fel cerddoriaeth.
"O'n i yn tŷ a ddoth cân UB40 ar y radio," meddai. "O'n i'n meddwl… 'dwi'n nabod y gân yma o rwla' ac ar ôl rhyw chydig o eiliadau o'n i'n gwbod y geiriau iddo fo i gyd eto.
"Awr ynghynt os fysa rhywun wedi gofyn i mi amdanyn nhw, faswn i heb gofio dim. Ond eto o'n i'n gwbod pob gair i'r gân.
"Mae hynna yn digwydd reit aml os dwi'n gwrando ar gerddoriaeth."
'Ysbrydoli pobl i beidio colli calon'
Mae Dafydd ar ben ei ddigon ar ôl ennill y wobr a'i obaith ydi y bydd pobl eraill sydd wedi bod trwy'r un peth yn cael eu hysbrydoli.
"Dwi wir yn trysori ac yn ddiolchgar i bawb sydd wedi helpu fi efo'r cwrs ac efo'r gwaith. Mae mynd o hynny i ennill yn golygu gymaint i fi.
"Dwi'n gobeithio ga'i barhau i ddysgu rŵan a chael y cyfle i reoli, a hefyd i ysbrydoli pobl eraill sydd wedi dioddef pethau tebyg.
"Dwi isio trio ysbrydoli pobl i drio peidio colli calon ac i barhau i gwffio."
Hefyd o ddiddordeb: