Sepsis: 'Dwi'n lwcus i fod yn fyw'
- Cyhoeddwyd
Ym mis Mai 2016, newidiodd bywyd Jayne Carpenter, o Ferthyr Tudful, yn llwyr.
Ar ôl datblygu sepsis, sef gwenwyn yn y gwaed, bu'n rhaid iddi gael llawdriniaeth i dynnu ei dwy goes, un fraich, a phedwar bys.
Mae bywyd Jayne wedi cael ei droi ben-i-waered, ond er nad yw pethau'n hawdd bob amser, mae hi'n ceisio edrych ymlaen tuag at y dyfodol:
O'n i'n teimlo fel mod i'n dod lawr ag annwyd neu chest infection, ond do'n i ddim yn teimlo rhy sâl ar y cyfan, a fues i wrthi'n gwneud fy jobsys Dydd Sadwrn arferol, fel glanhau a golchi dillad.
Ond o'n i'n pesychu lan sputum eitha' tywyll, a phan es i a ngŵr, Rob, â'r ci am dro, nes i orfod troi nôl achos o'n i mas o anadl.
Oherwydd ei bod hi'n benwythnos Gŵyl y Banc, nes i orfod ffonio'r GP mas o orie', a ges i apwyntiad ben bore Sul.
Pan aethon ni i'r ysbyty ar y bore Sul, roedd fy nghuriad calon yn uchel a lefelau ocsigen yn isel iawn. Ar ôl profion, dywedon nhw fod gen i unai pneumonia neu pulmonary embulism.
Dwi'n cofio dweud wrth Rob mod i'n gobeithio nad pulmonary embulism o'dd e, gan bo' ni fod i fynd i Groeg mewn chwech wythnos, a bydden nhw ddim yn gadael i mi hedfan.
Ond tua tair awr ar ôl cyrraedd yr ysbyty, ges i ddiagnosis o sepsis difrifol a gorfod mynd i'r uned gofal dwys.
Oherwydd bod fy lefelau ocsigen i wedi codi, do'n i ddim yn meddwl mod i angen mynd, a 'nes i anfon fy ngŵr adre i gerdded y ci. Doedd wir ddim dealltwriaeth gen i o pa mor sâl o'n i mewn gwirionedd.
'Difrifol wael'
Tua hanner nos, cafodd fy ngŵr alwad ffôn i ddweud bod fy nghyflwr wedi gwaethygu'n gyflym. Erbyn hynny, roeddwn i ar life support. Erbyn y bore wedyn, roedd fy holl organau wedi methu, ac o'n i ar dialysis afu.
Doedden nhw ddim yn meddwl mod i am fyw, ac fe wnaethon nhw baratoi fy nheulu am y gwaetha'.
Am y tridiau nesa', ro'n i'n ddifrifol wael, a bu'n rhaid i Rob gymryd y penderfyniad i arwyddo dogfen Do Not Resusciate, oherwydd y byddai unrhyw chest compressions posib yn peryglu'r ocsigen i fy ymennydd.
'Nath fy holl aelodau (limbs) droi'n ddu gyda meinwe pydredig a marw, felly ar 17 Mai 2016 bu'n rhaid i mi gael quadruple amputation - fy nwy goes o dan y ben-glin, fy mraich chwith o dan y benelin, a phedwar bys fy llaw dde.
Gweithion nhw'n galed iawn i achub fy mawd, ac mae e wedi bod yn hanfodol i mi; y gwahaniaeth rhwng bod yn rhannol-annibynnol, ac yn gwbl ddibynnol.
Er yr llawdriniaeth, o'n i dal yn ddifrifol wael, ac o'n i yn yr uned gofal dwy am dri mis, tan i mi ddechrau gwella ar ôl cael traceostomi.
'Rhwystredig'
Roedd yna gyfnodau hir lle o'n i wedi cael fy rhoi dan sedation, felly doeddwn i ddim wir yn ymwybodol iawn o beth oedd wedi digwydd i mi. Oherwydd fod pawb yn dweud wrtha i mod i'n lwcus i fod yn fyw, dyna 'nes i ganolbwyntio arno.
Ond bwrodd e fi cyn lleied o'n i'n gallu ei wneud drosto fi fy hun. Do'n i methu bwydo fy hun, methu ymolchi... Roedd e mor rhwystredig, gan mod i'n ddibynnol ar bobl eraill.
Dwi'n cofio iddyn nhw ddod â chadair olwyn i mewn, a ro'n i'n gwrthod edrych arno fe.
Es i i Ysbyty Rookwood am rehabilitation dwys, ac roedd gen i dîm ffisiotherapi gwych. Ro'n i mo'yn cerdded, a 'nes i allu gadael, ar faglau penelin, ar ôl pedwar mis, yn hytrach na'r 12 mis disgwyliedig.
Roedd mynd adre'n her arall, achos roedd popeth lan stâr - 'naethon ni orfod creu 'stafell 'molchi lawr stâr, a symud y gwely i lawr.
Ond ro'n i eisiau cael fy mywyd yn ôl at ei gilydd yn raddol. Ro'n i wastad wedi bod yn heini ac actif - o'n i'n arfer mynd â'r ci mas am run yn y bore cyn mynd i'r gwaith, a bydde Rob a fi'n mynd â'r ci am dro ar y penwythnose - felly o'n i mo'yn hynny'n ôl.
Nes i ymuno â'r gampfa leol a gweithio gyda hyfforddwr personol, a dechre mynd i wersi dawnsio. Dwi wedi gwneud grŵp newydd o ffrindiau drwy hynny hefyd.
Nawr, mae dychwelyd i'r gwaith wedi rhoi pwrpas i mi, a dwi'n gallu gyrru eto.
Penderfyniad enfawr
Fy motto ers y sepsis yw 'Abl, nid anabl'. Dwi wastad yn gosod heriau i mi fy hun - dywedon nhw byddwn i byth yn cerdded heb gymorth, ond nawr, dydw i ddim yn defnyddio baglau o gwbl.
Ond dwi wedi cyrraedd y cyfnod nawr lle dwi wedi hitio wal frics. Mae'n ymddangos fod pethau cystal ag y bydden nhw, ac nid yw'n ddigon. Dwi angen safon byw llawer gwell na sydd gen i.
Dwi'n cael heintiau'n rheolaidd oherwydd y rhwbio gan y prosthesis. Dwi'n cymryd dôs ar ôl dôs o antibiotics, achos gallai nghorff i ymateb mor wael i heintiau - ond dydi hynny ddim yn gynaliadwy.
Er mwyn atal unrhyw heintiau, maen rhaid i mi gyfaddawdu ac aros tu fewn a thynnu fy nghoesau i ffwrdd. Pan mae hi'n rhy boeth, maen rhaid i mi aros tu fewn a thynnu fy nghoesau i ffwrdd.
Nid byw yw hyn.
Felly dwi wedi gwneud y penderfyniad i godi arian am osteo integration, sef llawdriniaeth enfawr a fyddai'n mewnblannu prosthesis i mewn i asgwrn y goes. Bydd yn fy nghaniatáu i wneud y rhan fwyaf o bethau gall person abl-ei-gorff ei wneud.
Mae'n benderfyniad enfawr ac mae'n dod â risgiau, ond mae e werth y safon byw fydd gen i.
Mae'n rhaid i mi fynd yn breifat, ac mae'n ddrud, felly dwi eisie trio casglu arian drwy wneud digwyddiadau a nosweithiau gwahanol.
Dwi felly wedi gorfod bod yn onest iawn, gyda ffrindiau a dieithriaid, am sut beth yw fy mywyd i ar hyn o bryd.
Dwi wastad wedi portreadu fy hun fel person cryf, ond o'n i eisiau datgelu sut beth yw hi go iawn i fyw fel 'quadruple amputee' (term dwi'n ei gasáu). Mae'n anoddach na gall pobl hyd yn oed ei ddychmygu.
Dwi'n ceisio bod yn gryf a dwi'n gwthio fy hun, ond dwi ond yn berson - dwi'n cael cyfnodau tywyll. Eleni, mae yna gyfnodau penodol wnaeth fy nychryn, lle gallwn i fod yn hawdd wedi meddwl 'alla i ddim gwneud hyn ddim mwy' a rhoi'r gorau iddi.
Rwyt ti'n galaru dy goesau, dy fraich... rwyt ti'n galaru'r bywyd ti wedi ei golli. Dwi ddim yn meddwl 'na i byth ei dderbyn, ond bydd rhaid i mi jest fyw gyda'r peth.
Rydw i a Rob yn siarad am y peth weithiau ac mae'n eitha' anodd ac emosiynol, achos 'naethon ni fyw y peth a ti'n methu credu fod e wedi digwydd yn y lle cynta'. Ac rwyt ti'n gofyn pam...
Ond dwi'n obeithiol am y dyfodol, yn enwedig yn dilyn y llawdriniaeth yma. Mae hi'n haws dweud na gwneud weithiau, ond rydyn ni'n trio peidio edrych yn ôl, ac yn hytrach, yn edrych ymlaen.
Hefyd o ddiddordeb: