Dyn wedi'i gyhuddo o lofruddio Lola James yn berson 'ymosodol'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio merch fach ddwy oed yn ei chartref yn Hwlffordd wedi ei ddisgrifio fel dyn "ymosodol" a "checrus".
Bu farw Lola James yn yr ysbyty ar 21 Gorffennaf 2020 ar ôl dioddef anaf "catastroffig" i'w phen, a dros 100 o anafiadau allanol.
Mae cariad ei mam, Kyle Bevan, 31 o Aberystwyth, yn gwadu ei llofruddio, gan honni fod ci y teulu wedi achosi ei hanafiadau a'i gwthio i lawr y grisiau.
Mae mam Lola, Sinead James, 30, yn gwadu achosi neu ganiatáu ei marwolaeth.
Wrth roi tystiolaeth yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun, dywedodd Nicola James, mam-gu Lola, fod y ferch fach i fod i dreulio'r noson honno gyda hi, ond na ddigwyddodd hynny am fod Lola'n teimlo'n sâl.
Pe bai hi wedi aros yng nghartref ei mam-gu, meddai, "byddai Lola'n dal gyda ni".
'Bygwth nyrsys'
Dywedodd bod Lola'n edrych yn "ofnadwy" pan deithiodd gyda hi yn yr ambiwlans i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd y noson honno.
Clywodd y llys bod y ferch fach yn edrych yn "biws" ac roedd ei phyjamas yn wlyb ac nad oedd hi'n gwisgo clwt, fel y byddai'n ei wneud wrth gysgu fel rheol.
Yn gynharach dywedodd Caroline Rees KC ar ran yr erlyniad, y credir fod Kyle Bevan wedi sgwrio Lola'n lân er mwyn cuddio unrhyw dystiolaeth.
Ychwanegodd Nicola James fod Mr Bevan yn "amharchus" tuag at nyrsys yn Ysbyty Llwynhelyg, yn gwrthod dweud beth oedd wedi digwydd ac yn bygwth "rhwygo eu nodiadau".
Roedd ef wastad yn "oriog", meddai, ac fe'i disgrifiodd fel rhywun "cecrus" oedd "wastad yn iawn pan oedd e'n anghywir".
Roedd Ms James mewn cysylltiad rheolaidd gyda Sinead a'i phlant, ac yn ei ffonio'n aml i weld sut roedd pawb.
Bron bob tro y byddai'n galw, gallai glywed Mr Bevan "yn bod yn amharchus" yn y cefndir, meddai.
Roedd Sinead wedi anafu ei dant rhyw bryd cyn marwolaeth Lola, meddai, a dywedodd wrth ei mam mai'r ci oedd wedi neidio i fyny a'i tharo ar ôl cael braw wrth i Mr Bevan daro drws gyda'i ben yn fwriadol.
Ar achlysur arall dywedodd Sinead wrth ei mam fod Lola wedi anafu ei thrwyn, yn ôl Kyle Bevan, pan gafodd ei gwthio yn erbyn bwrdd gan y ci.
Cwestiynu anafiadau
Yn gynharach clywodd y llys fod anafiadau Lola yn annhebygol iawn o fod wedi'u hachosi wrth ddisgyn i lawr y grisiau.
Dywedodd Dr Neil Stoodley, niwroradiolegydd fu'n adolygu sganiau o ben a gwddf Lola cyn iddi farw, nad oedd yr anafiadau yn cyd-fynd â disgyn lawr y grisiau.
"Dyw patrwm yr anaf i'r ymennydd ddim yn ffitio gyda chwympo i lawr set o risiau," meddai yn Llys y Goron Abertawe.
Gofynnwyd i Dr Stoodley gan yr erlyniad a oedd yr anafiadau yn cyd-fynd ag achosion o gam-drin.
Dywedodd y byddai hynny'n egluro'r anafiadau, gan ychwanegu eu bod yn "gyson iawn" gydag enghreifftiau o "anafiadau ysgwyd".
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2023