Y criw sy'n creu offer dŵr arbennig i blant ag anableddau
- Cyhoeddwyd
Mae'r môr wastad wedi bod o ddiddordeb arbennig i Rowen, sy'n wyth oed.
Ac yntau'n byw dafliad carreg o'r traeth yn Abertawe, fe fyddech chi'n meddwl y byddai yno drwy'r amser.
Ond gan ei fod yn byw gyda syndrom Angelman, cyflwr genetig prin sy'n effeithio ar y system nerfau ac sy'n achosi anableddau dysgu a chorfforol, mae'n golygu nad yw erioed wedi llwyddo i nofio yn y môr.
Nawr mae tîm o gampws prifysgol yn Abertawe yn ceisio newid hynny, drwy adeiladu bwrdd padlo unigryw iddo.
Profi am y tro cyntaf
Y camau cyntaf yw cymryd sganiau o'r plant, a darganfod sut i greu seddi cyfforddus all gael eu rhoi ar fyrddau.
Yna maen nhw am adeiladu prototeip drwy ddefnyddio printiwr 3D, llawer o lud, ac oriau o ymroddiad gan y tîm o bedwar.
Mae mam Rowen, Hayley, wedi'i rhyfeddu ar ôl iddi ymateb i neges ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Roedd Rowen yn cloi (seize) drwy'r dydd a chysgu am 23 awr y dydd," meddai.
Erbyn hyn mae ei gyflwr wedi'i reoli'n well.
Mae modd iddo fynd i'r ysgol, ac mae ei fam yn awyddus iddo wneud y mwya' o'i blentyndod, er gwaetha'r ffaith fod ei gyflwr yn gwneud hi'n anodd iddo symud o gwmpas ar ben ei hun.
"Fydden ni byth wedi gallu profi unrhyw beth fel hyn," meddai.
"Bydde meddwl am geisio mynd lawr i'r traeth a chael rhywun i wneud unrhyw beth fel hyn gyda ni, fydde fe ddim yn digwydd."
Profiad 'hyfryd' bod tu allan
Teulu arall sy'n manteisio ar y bwrdd padlo yw un Rhys, sy'n 16 oed ac yn byw gyda'i fam, Adele yn Abertawe.
Mae ganddo syndrom prin sy'n golygu diffyg cryfder corfforol, ac mae ganddo gymalau hypersymudedd.
"Wrth i'w olwg a'i glyw leihau mae'n hollbwysig iddo fod yn heini, a chael pethau sy'n hygyrch iddo er mwyn ei gadw mor iach â phosibl," meddai Adele.
"Mae hwn yn rhywbeth arall y gall e wneud. Mae hefyd yn golygu na fydd e'n ddiflas, bydd ganddo bethau i wneud a chwrdd â phobl… dwi wrth fy modd!"
Mae'r gwaith profi'n drwyadl, felly cyn mynd allan ar y tonnau mae'r bechgyn yn mynd i bwll ar gampws y brifysgol yng Nghaerfyrddin i brofi'r byrddau.
Mae Miyah Periam, hyfforddwr chwaraeon dŵr Windswept, sydd wedi'u lleoli yn Dale yn Sir Benfro, wrth law i helpu.
"Mae pawb yn gwybod am fanteistion mynd tu fas," meddai.
"Mae pawb yn gwybod am fanteision ymarfer corff, ac mae bod tu fas yn yr heulwen a chael dŵr halen ar eich croen, mae'n arbennig i bawb.
"Ar gyfer rhywun sy'n anabl ac sydd ddim wedi profi hynny o'r blaen, a gweld nhw'n ei wneud am y tro cynta', ni'n gwirioni! Mae'n brofiad hyfryd."
'Ry'n ni'n casáu dweud 'na''
Nid dyma'r unig dric sydd gan y tîm dylunio chwaith.
Mae nhw'n gweithio gydag unrhyw blentyn hyd at 17 oed sydd wedi'u heffeithio gan gyflwr sy'n golygu nad ydyn nhw'n gallu defnyddio cynnyrch o siop.
Hyd yma maen nhw wedi helpu dros 2,000 o deuluoedd drwy adeiladu pob math o bethau unigryw, gan gynnwys byrddau syrffio sydd wedi'u haddasu'n arbennig, troliau i helpu plant i symud o amgylch gyda'u hocsigen neu awyrydd, a phistol dŵr.
Mae'r tîm sy'n gweithio ar y prosiect yn cael eu harwain gan Dr Ross Head o Brifysgol Y Drindod Dewi Sant, mewn partneriaeth ag elusen Cerebra, sy'n gweithio gyda phlant â chyflyrau ar yr ymennydd.
"Daeth y swydd yma o hyd i mi mewn ffordd hynod o ffodus," meddai Dr Head.
Roedd Cerebra, elusen sydd wedi'i lleoli yng Nghaerfyrddin, wastad yn cael ceisiadau gan rieni yn holi ble fydden nhw'n dod o hyd i gynnyrch chwarae ar gyfer eu plant.
Pan doedd 'na ddim datrysiad, fe ddaethon nhw at ei gilydd gyda Phrifysgol Y Drindod Dewi Sant a dechrau gofyn am gynllunwyr.
Roedd hynny yn ystod y cyfnod pan oedd Dr Head yn cwblhau ei PhD.
Dywedodd eu bod nhw wedi "rhoi grŵp o ddylunwyr mewn ystafell gyda ffôn a dweud, 'pan mae'n canu, atebwch a datryswch y problemau'… ac roedd hynny 17 mlynedd yn ôl".
"Ry'n ni'n casáu dweud na," meddai. "Roedd e jyst yr amser iawn a'r lle iawn."
'Pam chi'n gwneud hyn?'
Ychwanegodd fod ei swydd bresennol yn "wych".
"Bydden ni falle ond yn creu un neu ddau o rywbeth, ond maen nhw'n cael eu defnyddio'n dda ac yn rhoi bywyd gwell i'r plant," meddai.
"Mae'n rhywbeth neis iawn, gwerth chweil ei wneud."
Yr hoff beth iddo ei adeiladu erioed oedd set arbennig o offer triathlon ar gyfer merch o'r enw Poppy.
"Roedd e'n brosiect mentrus, lot o waith caled, ac fe gymerodd e lawer o amser, asesiad risg o fan hyn i fandraw - ond i weld y wên ar wyneb y ferch fach," meddai.
"Ges fy holi mewn cynhadledd, 'pam chi'n gwneud hyn pan mae'r pethau 'ma i gyd yn costio llawer o arian?'.
"Ac fe es i 'nôl drwy'r fideo i weld wyneb Poppy ar ddiwedd y triathlon. Nes i ddweud 'achos o hwnna'."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2023