Pwysig dysgu am fywydau pobl anabl, medd sêr Gogglebocs
- Cyhoeddwyd
Mae teulu sy'n serennu ar y gyfres Gogglebocs ar S4C yn gobeithio bod ymddangos ar y rhaglen yn ysbrydoliaeth i bobl sy'n byw gydag anableddau.
Ychydig ddyddiau ar ôl cael ei eni fe gafodd George Phillips, 21, o Ddrefach yng Nghwm Gwendraeth, ddiagnosis o spina bifida.
O fewn wythnosau roedd wedi cael cyfres o lawdriniaethau mawr yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, gan gynnwys llawdriniaeth ar ei asgwrn cefn a thriniaeth i drin ei goluddyn tyllog.
Yn ôl ei fam, Nia Phillips, sy'n 50 oed, doedd yna ddim sôn am hyn cyn i George gael ei eni.
"Ces i feichiogrwydd hollol iach a doedd dim byd wedi dod lan ar y sganiau," meddai.
Roedd yr wythnosau cyntaf yn heriol iawn i'r teulu.
"Fe gawson ni ein rhybuddio y byddai'n dioddef niwed i'r ymennydd ac mewn cyflwr diymateb parhaol ac na fyddai byth yn cerdded nac yn siarad.
"Mae wedi profi pob un ohonynt yn anghywir, does dim byd yn stopo George erioed."
Pwysig dangos 'bywydau o ddydd i ddydd'
Mae spina bifida yn cael ei achosi pan nad yw rhan o'r tiwb niwral - sy'n datblygu i fod yn ymennydd a llinyn asgwrn cefn baban - yn datblygu neu yn cau'n iawn.
Yn ei dro mae hyn yn arwain at ddiffygion ym madruddyn y cefn ac esgyrn yr asgwrn cefn.
Mae'n gallu achosi anableddau corfforol a deallusol ysgafn neu ddifrifol.
Mae balchder yn llais Nia wrth ddisgrifio'r hyn mae George wedi ei gyflawni.
Ar hyn o bryd mae'n dilyn cwrs mewn gwyddor chwaraeon yng ngholeg Sir Gâr, Llanelli, ac mae ei fryd ar fod yn ddadansoddwr rygbi.
Mae'n ddilynwr brwd o dîm y Scarlets ac yn wyneb adnabyddus ar Barc y Scarlets.
Mae siarad am spina bifida yn bwysig i George, ond mae'n credu bod lle i wella dealltwriaeth o'r cyflwr.
"Mewn ffordd, symoi'n credu bod pobl wir yn deall. Efalle bod nhw ddim yn nabod person ag anableddau.
"Symoi yn credu bod pobl yn ystyried a deall be sy' mynd 'mla'n tu ôl drysau caeedig.
"Mae r'wbeth fel Gogglebocs yn dangos ein bywydau o ddydd i ddydd a bydd pobl yn deall yn well wedyn."
Effaith ar y teulu cyfan
Yn ogystal ag effaith spina bifida ar George, mae'r teulu yn awyddus i siarad am effaith y cyflwr ar y teulu cyfan.
Mae chwaer George, Olivia, 16, yn chwaraewr rygbi dawnus ac yn chwarae i dîm Merched Mynydd Mawr.
Ond wrth edrych i'r dyfodol, ei gobaith yw bod yn ddoctor plant a hynny oherwydd yr holl amser mae wedi treulio mewn ysbytai a meddygfeydd gyda'i brawd.
"Fi 'di tyfu lan ar wardiau gyda phlant er'ill sy'n dost," meddai.
"Fi yn credu bod be' fi 'di gweld gyda George wedi cael effaith enfawr arna i, a taw dyna y prif reswm pam bo' fi nawr ishe gweithio gyda phlant."
Gobaith Nia Phillips yw y bydd gwylwyr yn adnabod y teulu'n well, ac ar yr un pryd yn deall mwy am spina bifida.
"Fi'n credu bod e'n bwysig iawn i bobl i gael deall pa mor anodd mae'n gallu bod a be mae e'n ei olygu i fyw gydag anabledd," meddai.
"Nes eich bod chi wedi cerdded neu wedi byw yn sgidie rhywun, s'dim idea gyda chi beth mae'r teulu a'r person yna yn mynd trwyddo."
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i gychwyn sgwrs am anabledd yna ewch i wefan Siarad Anabledd BBC Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2023