500,000 o glipiau archif Cymreig ar gael yn ddigidol
- Cyhoeddwyd
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth wedi bod "yn llawn bocsys" o dapiau o bob math, yn barod ar gyfer agor yr Archif Ddarlledu Genedlaethol gyntaf o'i math ym Mhrydain.
Bydd dros hanner miliwn o glipiau yn cael eu cyhoeddi yn ddigidol fel rhan o'r Ganolfan Archif Ddarlledu newydd, sy'n cael ei disgrifio fel "cofnod clywedol o Hanes Cymru".
Dyma'r tro cyntaf i'r cyhoedd gael mynediad i 100 mlynedd o hanes darlledu Cymru.
Mae'r archif yn rhoi mynediad cyhoeddus i raglenni gan BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, ac S4C.
Yn yr archif mae recordiadau sain o 1930, darllediadau teledu o'r 1950au, a deunydd yn dyddio 'nôl i sefydlu S4C yn 1982.
Mae yna hefyd allbwn Cymraeg yn yr archif sy'n deillio o'r cyfnod ymhell cyn sefydlu S4C.
'Bocsys ar focsys'
Dafydd Tudur yw Cyfarwyddwr Prosiect Yr Archif Ddarlledu.
"Beth sydd gyda ni ydy archif ddarlledu genedlaethol gyntaf yng ngwledydd Prydain," meddai. "Y dasg fawr i ni ydy rhoi mynediad i'r cyhoedd at y gronfa enfawr hon o ddeunydd.
"Y dechnoleg ddigidol sydd wedi gwneud hyn yn bosib mewn gwirionedd, [i allu] dod a'r casgliadau yma oedd ar ffilm neu dap cyn hyn ynghyd a rhoi mynediad iddyn nhw ar-lein."
Mae'r deunydd wedi bod yn cyrraedd y Llyfrgell Genedlaethol mewn gwahanol ffurfiau, yn dibynnu ar y cyfnod y cafodd ei ddarlledu.
Dywedodd y cyfarwyddwr Rhian Gibson fod "bocsys ar focsys", sydd wedi'u pentyrru'n uchel at y to, wedi bod yn cyrraedd iddynt gael eu catalogio a'u digido.
Gwaith Ywain Tomos fel un o swyddogion y prosiect yw pori trwy rai o'r hanner miliwn o eitemau. Mae wedi paratoi rhestr i Cymru Fyw gyda rhai o'i ffefrynnau.
"Mae'n fraint cael y cyfle i bori yn yr Archif Ddarlledu a dwi'n dod ar draws rhaglenni diddorol pob dydd sydd erbyn hyn, hwyrach, wedi mynd o'r cof," meddai.
"Dyma nod pwysig yr Archif, i amlygu clipiau o fywyd pobl yng Nghymru, eu profiadau, teimladau a'u gobeithion.
"Mae llawer o bethau doniol, rhai pethau od i ni heddiw ac, wrth gwrs, digwyddiadau dwys yn hanes y genedl.
"Mae fy newis i yn seiliedig ar glipiau a wnaeth argraff fawr arnaf wrth eu gwylio."
10 Uchaf Ywain Tomos
1. 'Heddiw' (1966) - adroddiad am ddechrau'r BBC yng Nghymru
2. 'Heddiw: Trên Llyfrgell' (1967) - ymweliad gwreiddiol i blant ysgol nid i'r fan llyfrgell ond i'r trên llyfrgell ar y lein fach i Bont ar Fynach, Ceredigion
3. 'Ryan a Ronnie' (1971) - sgets anfarwol am ddarllen y newyddion gyda Ryan yn ceisio glynu'r posteri cywir tu ôl i Ronnie
4. 'Disc a Dawn' (1972) - rhaglen pop arloesol y 70au gyda Meic Stevens yn Solfach yn sôn am ei gerddoriaeth
5. 'A Touch of Glory' (1980) - yr actor Richard Burton yn adrodd geiriau'r nofelydd Alun Richards mewn ffilm am rygbi yng Nghymru
6. 'Buried Treasure' (1986) - stori am guddio trysorau yn y Llyfrgell Genedlaethol yn ystod yr Ail Ryfel Byd
7. 'Cefn Gwlad' (1989) - Dai Jones Llanilar, y darlledwr heb ei ail, yn ceisio rhwyfo cwrwgl lawr y Teifi ond heb lawer o lwyddiant
8. 'C'mon Midffild!': 'Gweld Sêr' (1990) y bennod lle mae Mark Hughes yn ymddangos
9. 'The Desert and the Dream' (1993) - clip o gauchos Cymreig yn y Wladfa yn 1962
10. 'Streic y Glowyr' (2014) - Adam Price yn adrodd ei atgofion o Streic y Glowyr 1984/5
Mae tua chwarter miliwn o eitemau ar y wefan yn barod, gyda gobaith y bydd hynny yn dyblu i 500,000 dros y flwyddyn neu ddwy nesaf.
Bydd y wefan, gyda chofnodion o'r eitemau, ar gael i'r cyhoedd o 27 Mawrth. Er mwyn gwylio neu wrando ar y deunydd, bydd angen teithio i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, neu at un o'r Corneli Clipiau.
Bydd y rhain yn agor rhwng 2023 a 2024 yn Archifau Sir Gaerfyrddin, Archifau Gorllewin Morgannwg, ac yna Canolfan Mileniwm Cymru, Canolfan Ddiwylliant Conwy, Archifau Gwynedd Caernarfon, Llyfrgell Llanrwst a Llyfrgell Glowyr De Cymru.
Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru mai dyma gyfle'r cyhoedd i "blymio i ddyfnderoedd cof cenedl".
"Mae tua chwarter miliwn o oriau o ddarlledu Cymreig, 95,000 o dapiau sain a 64,000 o dapiau fideo wedi eu digideiddio. Mae hynny o gynnwys y BBC yn unig heb sôn am archif gyfoethog S4C ac ITV Cymru.
"Dyw'r archifau hyn, boed ar sgrin neu'n sain, ddim yn perthyn tu ôl i waliau caeedig ac mae'n gwbl briodol eu bod nhw ar gael i bawb eu mwynhau yn y Llyfrgell Genedlaethol a thu hwnt."
Cronfa Dreftadaeth y Loteri sydd wedi ariannu'r prosiect, bron i £5m i gyd, ac fe ddywedodd Andrew White bod yr archif yn "rhoi mynediad anhygoel" i bobl Cymru.
"Mae'n mynd i roi mynediad i bobl ledled Cymru at yr hanes ffantastig yma," meddai.
"Comedïau, dramâu, darlithoedd, dadlau a chyfweliadau gyda'r mawrion, ond hefyd gyda'r werin bobl dros gyfnod o 100 o flynyddoedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2019