Y ffotograffwyr byd-enwog ddaeth i fyw i Harlech
- Cyhoeddwyd
Mae gan dref Harlech yng Ngwynedd hanes cyfoethog - y rhan fwyaf yn ymwneud â'r castell mawreddog sy' ar y bryn. Mae'r castell yn cael ei gysylltu â chwedl Branwen ferch Llŷr yn Y Mabinogi, ac yn 1404 fe'i cipiwyd yn ôl o reolaeth y Saeson gan Owain Glyndŵr.
Ond ar ddechrau'r ugeinfed ganrif gwnaeth Harlech dipyn o argraff ar bobl yn y celfyddydau, yn arbennig dau ffotograffydd arloesol; George Davison (1854-1930) o Loegr a'r Americanwr, Alvin Langdon Coburn (1882-1966).
Fe ddaeth Iestyn Hughes, sydd erbyn hyn yn ymchwilydd a ffotograffydd, yn gyfarwydd â gwaith y ddau o'i gyfnod yn gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
"Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif roedd 'na griwiau reit gecrus o ffotograffwyr 'darluniadol' (Pictorialist) oedd yn creu lluniau eithaf celfyddydol, ac un o'r rheiny oedd George Davison. Roedd Davison yn arfer gweithio i'r Trysorlys ond fe newidiodd ei yrfa gan fynd 'mlaen i fod yn Brif Weithredwr cyntaf cwmni enwog Kodak ym Mhrydain."
"Roedd ganddo (Davison) gyfranddaliadau yn y cwmni, ac fe wnaeth arian mawr yn sgil hynny. Ond roedd o'n Sosialydd Cristnogol gyda thueddiadau anarchaidd, ac o'r herwydd gorfodwyd iddo adael ei swydd gyda Kodak yn 1912.
"Aeth ati wedyn i adeiladu cartref mawr crand yn Harlech, sef y Wern Fawr, ac yno roedd yn byw bywyd bohemaidd iawn."
"Felly roedd o'n treulio lot fawr o'i amser yn Harlech, yn enwedig yn ystod yr haf lle roedd o'n gwahodd pob math o lenorion a cherddorion i ardal Harlech i aros.
"Roedd 'na bobl anhygoel o ddisglair yn troi i fyny yn yr ardal. Allai ddim dychmygu pa mor gyffrous fydde pethau 'di bod yn Harlech y bryd hynny!"
Daeth Alvin Langdon Coburn i Harlech tua'r flwyddyn 1916, ond roedd yn enwog yn y maes ffotograffiaeth ymhell cyn meddwl symud i Feirionnydd. Ystyriwyd ef yn 'blentyn eithriadol' yn yr Unol Daleithiau.
Yn 1901 fe aeth i Baris am gyfnod, a bu'n byw yn Efrog Newydd, Llundain, a theithiodd Ewrop gan greu cysylltiadau, datblygu ei grefft a hyrwyddo'i yrfa.
Meddai Iestyn Hughes: "Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fe benderfynodd Coburn a'i fam aros yn Llundain yn lle cymryd y risg o deithio dros yr Iwerydd (roedd yr Almaen wedi suddo llong deithwyr y Lusitania yn 1915, gan ladd 1198 o bobl oedd yn ceisio croesi'r Iwerydd)."
"Mi roedd o'n gwerthu ei luniau i gylchgronau, ac yn arddangos ei luniau hefyd, ac roedd o'n ennill mwy nag unrhyw ffotograffydd arall am gyfnod. Roedd o'n creu ffotograffau celfydd a thrawiadol iawn.
"Tra roedd yn Llundain, fe ddysgodd sut i argraffu lluniau mewn modd arbennig (gravure). Roedd hyn yn gam allweddol iddo o ran gallu cyhoeddi ei waith mewn cyfrolau cain."
"Yn ddyn ifanc roedd o'n gymeriad anhygoel o cheeky, hy iawn ac yn llawn hunan hyder, ac roedd ganddo ffordd o berswadio pobl.
"'Nath o gwpl o gyfrolau o luniau enwogion - sut lwyddodd i gyflawni hyn wn i ddim... ma' rhaid bod ganddo nid yn unig y gift of the gab ond hefyd ddycnwch di-ben-draw i allu cyflawni cymaint mewn byr amser.
"Ymhlith y 33 portread yn ei gyfrol gyntaf, a gyhoeddwyd yn 1913, roedd enwogion megis G. K. Chesterton, George Meredith, H. G. Wells, Henri Matisse, Henry James, Auguste Rodin, Mark Twain, Theodore Roosevelt, W. B. Yeats, Frank Brangwyn, a George Bernard Shaw. Ymddangosodd Shaw yn noeth!
"Mae'r gyfrol hon - Men of Mark - yn eithriadol, ac mae 'na gopi yn y Llyfrgell Genedlaethol. Dod ar draws honno ddenodd fi i geisio dysgu mwy am Coburn, a'i gysylltiad â Chymru."
"Aeth Coburn ati i greu ail gyfrol - More Men of Mark - eto yn llawn enwogion, ond nad oedd cweit cystal o ran safon. Roedd David Lloyd George ymhlith yr eisteddwyr. Fedrwch chi ddim cael gafael yn y cyfrolau bellach, heblaw bod ganddoch chi bocedi dyfnion iawn."
Roedd Coburn yn troi yn yr un cylchoedd ffotograffig â Davison, a phan aeth o i aros at Davison yn un o dai hwnnw yn Harlech, fe adawodd yr ardal argraff enfawr arno, fel esboniai Iestyn Hughes: "Roedd o'n licio'r lle gymaint fel ei fod wedi prynu bwthyn o'r enw Cae Besi a'i ddatblygu'n dŷ moethus ac unigryw.
"Roedd o'n gwario llawer o'i amser yna, yn enwedig dros yr hafau, ac yna fe adeiladodd dŷ arall er mwyn i'w ffrindiau ddod i aros."
"Symudodd Davison i Ffrainc i fyw ac fe werthodd ei gartref, Wern Fawr, yn rhad ar gyfer creu 'coleg yr ail gyfle', sef Coleg Harlech.
"Roedd haelioni Davison hefyd yn ymestyn i dde Cymru, ac fe brynodd hen ficerdy yn Rhydaman ar gyfer creu canolfan addysg i'r glowyr - y 'Tŷ Gwyn'- ddaeth yn ganolbwynt i weithgaredd Marcsaidd yn yr ardal. Roedd o'n ddyn arbennig, cymleth iawn."
Bu farw Davison yn Antibes, dinas yn ne-ddwyrain Ffrainc, ar 26 Rhagfyr, 1930.
"Wnaeth Coburn a'i wraig ymsefydlu yn barhaol yn ardal Harlech ar ôl i'w fam farw, ac adeg yr Ail Ryfel Byd fe drodd Coburn ei ail dŷ yn ysbyty i blant o Lerpwl oedd â nam ar y croen.
"Roedd o hefyd yn rhedeg ambiwlans ac yn cymryd rhan flaenllaw yng ngweithgareddau'r cylch. Mi 'nath hyn ddweud ar iechyd Edith, ei wraig. Doedd dim modd iddi hi barhau i fyw bywyd llawn mewn lle mor serth â Harlech."
"Felly fe werthon nhw bopeth a symud i Landrillo-yn-Rhos i dŷ hyfryd. Ailenwyd y tŷ hwnnw ganddo yn 'Awen'.
"Roedd Coburn i raddau wedi troi cefn ar y byd ffotograffiaeth ers amser maith, gan roi ei sylw i fasoniaeth, y byd 'cyfriniol' a byd y derwyddon. Fe ddaeth yn aelod o'r Orsedd dan yr enw 'Mab y Trioedd', ac roedd yn ymddiddori yn chwedlau a hen hanes y Cymru.
"Ysgrifennodd yn helaeth ar hanfodion y Seiri Rhyddion (Freemasons), ac roedd yn flaenllaw iawn gyda'r sefydliad yng ngogledd Cymru."
"Daeth dau guradur ffotograffiaeth draw o Dŷ Eastman, Efrog Newydd, i'w gyfweld ac ymddiddori yn fawr yn ei yrfa, ac yn ddiweddarach fe gynhaliwyd arddangosfeydd sylweddol o'i waith yn Lloegr.
"Yn sgil hyn, ailgydiodd yn y camera, a chafodd yrfa newydd o deithio'r wlad yn darlithio am ei hanes, ei waith a'i ddiddordebau cyfrin. Roedd ganddo berthynas ddiddorol gyda'r BBC, ac fe recordiodd sgyrsiau i Nan Davies (Bangor)."
Bu Coburn yn Llandrillo-yn-Rhos tan ei farwolaeth ar 23 Tachwedd 1966, yn 84 oed. Roedd wedi byw yng Nghymru am hanner canrif - fe 'nath y wlad argraff arbennig arno, ac fe dynnodd ddelweddau arbennig o'r wlad - iddo ef, Cymru oedd ei 'wlad fabwysiedig, yr wyf yn ei charu yn fawr'.
Hefyd o ddiddordeb: